Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Gwaharddiadau rhag gyrru

Os cewch eich dyfarnu'n euog o drosedd moduro, gall y llys ardystio'ch trwydded yrru gyda phwyntiau cosb neu eich gwahardd rhag gyrru am gyfnod. Gallant hefyd roi gorchymyn i chi ail-sefyll prawf gyrru.

Gwaharddiad cyfnod byr (SPD)

Os cewch eich gwahardd am lai na 56 diwrnod, bydd y llys yn stampio'ch trwydded yrru bapur neu'r papur manylion ac yn eu rhoi yn ôl i chi. Bydd y stamp yn dangos cyfnod y gwaharddiad ac ni fydd angen i chi adnewyddu'ch trwydded. Ar ôl i'r gwaharddiad ddod i ben, bydd y drwydded yn dod yn ddilys a chewch yrru unwaith eto.

Gwaharddiadau am gyfnodau 56 diwrnod a mwy

Os cewch eich gwahardd am 56 diwrnod neu fwy bydd angen i chi wneud cais am adnewyddu'ch trwydded yrru cyn y gallwch yrru unwaith eto.

Gwahardd dan y system ‘pentyrru pwyntiau’

Os byddwch yn cronni 12 neu fwy o bwyntiau cosb mewn cyfnod o dair blynedd, gallech gael eich gwahardd dan y drefn 'pentyrru pwyntiau'.

Yn gyffredinol, gallech gael eich gwahardd rhag gyrru:

  • am chwe mis os cewch 12 pwynt cosb neu ragor o fewn tair blynedd
  • am 12 mis os byddwch yn cael eich gwahardd am yr eildro o fewn tair blynedd
  • am ddwy flynedd os cewch eich gwahardd am y trydydd tro

Gwaharddiad nes pasio prawf neu basio prawf estynedig

Os ydych wedi'ch gwahardd nes eich bod yn pasio prawf neu'n pasio prawf estynedig, bydd angen i chi wneud cais am drwydded yrru dros dro ac ail-sefyll prawf theori a phrawf gyrru ymarferol i adennill eich trwydded yrru lawn.

Bydd angen i yrwyr beiciau modur gwblhau cynllun hyfforddiant sylfaenol gorfodol arall. Os ydych chi wedi'ch gwahardd nes i chi basio prawf estynedig, bydd yn rhaid i chi sefyll prawf gyrru ymarferol estynedig.

I adennill eich hawl llawn i yrru cerbydau o bob categori yr oedd gennych hawl i'w gyrru o'r blaen, bydd angen i chi basio prawf yng nghategori A (beic modur) neu B (car).

Os oeddech chi'n cael gyrru cerbyd categori C (cerbyd mawr) a D (bws) cyn eich gwaharddiad, bydd eich hawl i gael gyrru'r cerbydau hyn yn amodol ar gymeradwyaeth y comisiynydd traffig lleol.

Gwaharddiadau am droseddau yn ymwneud ag alcohol

Os ydych chi wedi'ch gwahardd am rai troseddau'n ymwneud ag alcohol, bydd yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) yn cynnal ymholiadau meddygol cyn y gellir adnewyddu'ch trwydded yrru.

Dyma'r troseddau:

  • wedi'ch gwahardd gyda lefel alcohol uwch na 200mg mewn 100ml o waed, neu 87.5mg mewn 100ml o anadl, neu 267.5mg mewn 100ml o wrin
  • wedi'ch gwahardd ddwywaith o fewn 10 mlynedd am yfed a gyrru, neu am fod â cherbyd dan eich rheolaeth a chithau mewn cyflwr anaddas oherwydd alcohol
  • wedi'ch gwahardd am wrthod rhoi sampl i'w ddadansoddi

Yn ogystal â thalu ffi uwch i adnewyddu'ch trwydded yrru, efallai y bydd yn rhaid i chi hefyd dalu am archwiliad meddygol.

Sut mae gweld pryd mae'ch gwaharddiad yn dod i ben

Gallwch:

  • edrych ar ffurflen atgoffa D27 a anfonnir gan DVLA - sy'n nodi'r dyddiad y daw'r gwaharddiad i ben
  • edrych ar-lein, os cafodd eich trwydded yrru ei rhoi ar ôl gwneud cais ar-lein
  • ffonio llinell ymholiadau cwsmeriaid DVLA

Cwtogi cyfnod gwaharddiad

Gallwch ofyn i'r llys gwtogi cyfnod eich gwaharddiad:

  • ar ôl cwblhau dwy flynedd o’r gwaharddiad os oedd cyfnod y gwaharddiad yn fwy na dwy flynedd ond yn llai na phedair blynedd o hyd
  • ar ôl cwblhau hanner cyfnod y gwaharddiad os oedd cyfnod y gwaharddiad yn fwy na phedair blynedd ond yn llai na 10 mlynedd o hyd
  • ar ôl cwblhau pum mlynedd o gyfnod y gwaharddiad os cawsoch chi'ch gwahardd am 10 mlynedd neu fwy

Bydd angen i chi wneud cais ysgrifenedig i'r llys a'ch gwaharddodd, gan nodi dyddiad y trosedd, y dyddiad y cafwyd chi'n euog ac unrhyw wybodaeth i gyfiawnhau'ch cais. Os yw'r cais yn llwyddiannus, bydd y llys yn rhoi gwybod i DVLA am y penderfyniad. Yna, gallwch wneud cais am adnewyddu'ch trwydded yrru.

Os yw'r llys yn gwrthod eich cais, bydd yn rhaid i chi aros tri mis nes cewch chi ofyn i'r llys eto.

Cyd-gydnabod gwaharddiadau gyrru

Ceir cytundeb rhwng Prydain, Gogledd Iwerddon, Iwerddon ac Ynys Manaw i gydnabod gwaharddiadau gyrru’r naill a’r llall.

Os byddwch yn newid eich enw a'ch cyfeiriad yn ystod gwaharddiad

Gallwch roi gwybod i DVLA am newid enw a chyfeiriad pan rydych wedi'ch gwahardd rhag gyrru. Ysgrifennwch at DVLA, Abertawe, SA99 1AB gan roi manylion eich hen gyfeiriad a'ch cyfeiriad newydd, eich enw os yw wedi newid, rhif eich trwydded yrru (os ydych yn gwybod beth ydyw) a'ch dyddiad geni.

Additional links

Gwybod eich terfyn

Cael gwybod faint o unedau o alcohol sydd yn eich hoff ddiodydd, sut i mwynhau diod yn gyfrifol a mwy

Meddwl ynghylch dysgu sut i yrru?

Gwnewch gais am eich trwydded yrru dros dro drwy ddefnyddio gwasanaeth ar-lein diogel y DVLA

Allweddumynediad llywodraeth y DU