Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os ydych wedi'ch cael yn euog o drosedd moduro, gall y llysoedd roi dirwy i chi, ac ardystio'ch trwydded yrru gyda phwyntiau cosb. Rhaid i ardystiadau aros ar eich trwydded yrru am bedair neu un ar ddeg mlynedd, yn dibynnu ar y trosedd.
Mae i bob ardystiad ei god trosedd ei hun, a dyrennir ‘pwyntiau cosb’ iddo ar raddfa o un i un ar ddeg, yn dibynnu ar ddifrifoldeb y trosedd. Diweddarir yr ardystiad (a'r pwyntiau cosb) ar eich cofnod chi, y gyrrwr, ac fe'i ysgrifennir ar eich trwydded yrru bapur neu ar bapur manylion eich trwydded yrru cerdyn-llun.
Rhaid i ardystiad aros ar eich trwydded yrru am y cyfnodau canlynol:
Un ar ddeg mlynedd o ddyddiad yr euogfarn
Os mai un o'r canlynol oedd y trosedd:
Enghraifft: Dyddiad yr euogfarn yw 3 Rhagfyr 2002 – rhaid i'r ardystiad aros ar y drwydded hyd at 3 Rhagfyr 2013.
Pedair blynedd o ddyddiad yr euogfarn
Os mai un o'r canlynol oedd y trosedd:
Enghraifft: Dyddiad yr euogfarn yw 28 Mai 2004 – rhaid i'r ardystiad aros ar y drwydded hyd at 28 Mai 2008.
Pedair blynedd o ddyddiad y trosedd
Ym mhob achos arall.
Enghraifft: Dyddiad y trosedd yw 10 Mehefin 2005 – rhaid i'r ardystiad aros ar y drwydded hyd at 10 Mehefin 2009.
Os byddwch yn cronni 12 neu ragor o bwyntiau cosb mewn cyfnod o dair blynedd, gallech gael eich gwahardd dan y drefn 'pentyrru pwyntiau'. Bydd hyn yn cael ei ddangos gyda TT99 ar eich trwydded.
Anfonir gwybodaeth am eich hawl i yrru ac ardystiadau i'r llysoedd ac i'r heddlu os byddant yn gofyn amdanynt.
Bydd eich trwydded yrru'n cael ei diddymu (ei thynnu'n ôl) yn awtomatig os byddwch yn cronni chwech neu ragor o bwyntiau cosb o fewn dwy flynedd i basio'ch prawf gyrru cyntaf.
Bydd angen i chi gyflwyno'ch trwydded yrru i'r heddlu, y swyddfa cosbau sefydlog (FBO) neu pan fyddwch yn ymddangos yn y llys.
Os ydy'ch trwydded yrru ar goll, gallwch gael trwydded ddyblyg ar-lein, drwy'r post, neu drwy godi'r ffôn i ofyn am un.
Os nad yw'ch trwydded yrru'n cael ei dychwelyd ar ôl ei hardystio, bydd angen i chi gysylltu â'r swyddfa cosbau sefydlog neu'r llys a oedd yn gyfrifol am ardystio'ch trwydded yrru. Os ydych wedi newid eich cyfeiriad, neu os yw'ch trwydded wedi'i difrodi neu os yw'r man ardystio'n llawn, bydd y swyddfa cosbau sefydlog neu'r llys yn anfon eich trwydded i DVLA i'w diweddaru. Fe'i dychwelir atoch o fewn tair wythnos.
Gallwch wneud cais am gael gwared ar hen ardystiadau drwy gyfnewid eich trwydded yrru am un newydd.
Bydd ardystiadau sydd wedi dod i ben yn cael eu dileu'n awtomatig pan fyddwch yn gwneud cais am adnewyddu neu ddiweddaru'ch trwydded am resymau eraill.
Gallwch:
Os ydych wedi colli'ch trwydded yrru a bod angen gweld manylion eich ardystiad arnoch, gallwch edrych ar-lein (os rhoddwyd eich trwydded yrru ar ôl gwneud cais ar-lein) neu drwy ffonio llinell ymholiadau cwsmeriaid DVLA.
Cysylltwch â'r llys a ddyfarnodd eich bod yn euog am gyngor.