Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Pryd y gellir dileu ardystiadau a phwyntiau cosb oddi ar drwydded yrru

Mae’r canlynol yn ganllawiau i nifer y pwyntiau cosb y gall llys eu rhoi. Nid yw’n adlewyrchu’r ffaith y gall rhai troseddau arwain at waharddiad. Dangosir cod y trosedd a'r pwyntiau cosb ar eich trwydded yrru, a rhaid iddynt aros yno am bedair neu un ar ddeg mlynedd, yn dibynnu ar y trosedd.

Cymharwch y codau ar eich trwydded yrru â'r rhestr isod.

Troseddau sy'n ymwneud â damweiniau

Rhaid i godau troseddu AC10 i AC30 aros ar drwydded yrru am bedair blynedd o ddyddiad y trosedd.

Cod Trosedd Pwyntiau cosb
AC10 Methu â stopio ar ôl damwain 5-10
AC20 Methu rhoi manylion neu roi gwybod am ddamwain o fewn 24 awr 5-10
AC30 Troseddau damwain heb eu diffinio 4-9

Gyrrwr gwaharddedig

Rhaid i godau troseddu BA10 a BA30 aros ar drwydded yrru am bedair blynedd o ddyddiad y trosedd.

Cod Trosedd Pwyntiau cosb
BA10 Gyrru tra dan waharddiad trwy orchymyn llys 6
BA30 Gyrru tra dan waharddiad trwy orchymyn llys 6

Gyrru diofal

Rhaid i godau troseddu CD10 i CD30 aros ar drwydded yrru am bedair blynedd o ddyddiad y trosedd.

Cod Trosedd Pwyntiau cosb
CD10 Gyrru heb ofal na sylw priodol 3-9
CD20 Gyrru heb roi ystyriaeth resymol i ddefnyddwyr ffordd eraill 3-9
CD30 Gyrru heb ofal na sylw priodol neu heb roi ystyriaeth resymol i ddefnyddwyr ffordd eraill 3-9



Rhaid i godau troseddu CD40 i CD70 aros ar drwydded yrru am un ar ddeg mlynedd o ddyddiad yr euogfarn.

Cod Trosedd Pwyntiau cosb
CD40 Achosi marwolaeth drwy yrru diofal a chithau mewn cyflwr anaddas i yrru oherwydd alcohol 3-11
CD50 Achosi marwolaeth drwy yrru diofal a chithau mewn cyflwr anaddas i yrru oherwydd cyffuriau 3-11
CD60 Achosi marwolaeth drwy yrru diofal tra bo’r lefel alcohol yn uwch na'r lefel a ganiateir 3-11
CD70 Achosi marwolaeth drwy yrru diofal ac yna methu â rhoi sampl i'w dadansoddi 3-11


Rhaid i godau troseddu CD80 a CD90 aros ar drwydded yrru am un ar ddeg mlynedd o ddyddiad y trosedd.

Cod

Trosedd

Pwyntiau cosb

CD80

Achosi marwolaeth drwy yrru diofal neu anystyriol

3-11

CD90

Achosi marwolaeth drwy yrru: gyrrwyr didrwydded, wedi eu gwahardd neu heb yswiriant

3-11

Troseddau adeiladwaith a defnydd

Rhaid i godau troseddu CU10 i CU80 aros ar drwydded yrru am bedair blynedd o ddyddiad y trosedd.

Cod Trosedd Pwyntiau cosb
CU10 Defnyddio cerbyd gyda breciau diffygiol 3
CU20 Achosi neu’n debyg o achosi perygl drwy ddefnyddio cerbyd anaddas neu ddefnyddio cerbyd sydd â rhannau neu ychwanegiadau (ac eithrio'r breciau, y llyw neu'r teiars) mewn cyflwr peryglus 3
CU30 Defnyddio cerbyd sydd â theiar(s) diffygiol 3
CU40 Defnyddio cerbyd sydd â llyw diffygiol 3
CU50 Achosi neu’n debyg o achosi perygl yn sgîl llwyth neu deithwyr 3
CU80 Defnyddio ffôn symudol wrth yrru cerbyd modur 3

Gyrru byrbwyll/peryglus

Rhaid i godau troseddu DD40 i DD80 aros ar drwydded yrru am bedair blynedd o ddyddiad yr euogfarn.

Cod Trosedd Pwyntiau cosb
DD40 Gyrru’n beryglus 3-11
DD60 Dynladdiad neu laddiad beius wrth yrru cerbyd 3-11
DD80 Achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus 3-11
DD90 Gyrru'n wyllt 3-9

Alcohol neu gyffuriau

Rhaid i godau troseddu DR10 i DR30 aros ar drwydded yrru am un ar ddeg mlynedd o ddyddiad yr euogfarn.

Cod Trosedd Pwyntiau cosb
DR10 Gyrru neu geisio gyrru tra bo’r lefel alcohol yn uwch na'r lefel a ganiateir 3-11
DR20 Gyrru neu geisio gyrru a chithau mewn cyflwr anaddas oherwydd diod 3-11
DR30 Gyrru neu geisio gyrru ac yna methu â rhoi sampl i’w dadansoddi 3-11

Rhaid i godau troseddu DR40 i DR70 aros ar drwydded yrru am bedair blynedd o ddyddiad y trosedd.

Cod Trosedd Pwyntiau cosb
DR40 Yn gyfrifol am gerbyd tra bo’r lefel alcohol yn uwch na’r lefel a ganiateir 10
DR50 Yn gyfrifol am gerbyd a chithau mewn cyflwr anaddas oherwydd diod 10
DR60 Methu â rhoi sampl i’w dadansoddi mewn amgylchiadau gwahanol i yrru neu geisio gyrru 10
DR70 Methu â rhoi sampl ar gyfer prawf anadl 4

Rhaid i god troseddu DR80 aros ar drwydded yrru am un ar ddeg mlynedd o ddyddiad yr euogfarn.

Cod Trosedd Pwyntiau cosb
DR80 Gyrru neu geisio gyrru a chithau mewn cyflwr anaddas oherwydd cyffuriau 3-11


Rhaid i god troseddu IN10 aros ar drwydded yrru am bedair blynedd o ddyddiad y trosedd.

Cod Trosedd Pwyntiau cosb
DR90 Yn gyfrifol am gerbyd a chithau mewn cyflwr anaddas oherwydd cyffuriau 10

Troseddau yswiriant

Rhaid i god troseddu IN10 aros ar drwydded yrru am bedair blynedd o ddyddiad y trosedd.

Cod Trosedd Pwyntiau cosb
IN10 Defnyddio cerbyd heb ei yswirio yn erbyn risg trydydd parti 6-8


Troseddau trwydded

Rhaid i godau troseddu LC20 i LC50 aros ar drwydded yrru am bedair blynedd o ddyddiad y trosedd.

Cod Trosedd Pwyntiau cosb
LC20 Gyrru mewn ffordd nad yw'n unol â'r drwydded 3-6
LC30 Gyrru ar ôl gwneud datganiad ffug am eich addasrwydd wrth wneud cais am drwydded 3-6
LC40 Gyrru cerbyd heb ddatgan anabledd 3-6
LC50 Gyrru ar ôl i drwydded gael ei diddymu neu ei gwrthod ar sail feddygol 3-6

Troseddau amrywiol

Rhaid i godau troseddu MS10 i MS90 aros ar eich trwydded yrru am bedair blynedd o ddyddiad y trosedd.

Cod

Trosedd

Pwyntiau cosb

MS10

Gadael cerbyd mewn lle peryglus

3

MS20

Mynd ar biliwn yn anghyfreithlon

3

MS30

Troseddau chwarae yn y stryd

2

MS50

Rasio moduron ar y briffordd

3-11

MS60

Troseddau heb eu cynnwys mewn codau eraill (gan gynnwys troseddau sy’n gysylltiedig â thorri gofynion ar gyfer rheoli cerbyd)

3

MS70

Gyrru gyda golwg diffygiol heb ei gywiro

3

MS80

Gwrthod cymryd prawf llygaid

3

MS90

Methu â rhoi gwybodaeth ynghylch pwy yw'r gyrrwr ayb

6



Troseddau traffordd

Rhaid i god troseddu MW10 aros ar drwydded yrru am bedair blynedd o ddyddiad y trosedd.

Cod Trosedd Pwyntiau cosb
MW10 Torri rheoliadau ffyrdd arbennig (ac eithrio cyfyngiadau cyflymdra) 3

Croesfannau cerddwyr

Rhaid i godau troseddu PC10 i PC30 aros ar drwydded yrru am bedair blynedd o ddyddiad y trosedd.

Cod Trosedd Pwyntiau cosb
PC10 Torri rheoliadau croesfannau cerddwyr (amhenodol) 3
PC20 Torri rheoliadau croesfannau cerddwyr mewn cerbyd sy'n symud 3
PC30 Torri rheoliadau croesfannau cerddwyr mewn cerbyd sy'n llonydd 3

Cyfyngiadau cyflymder

Rhaid i godau troseddu SP10 i SP50 aros ar drwydded yrru am bedair blynedd o ddyddiad y trosedd.

Cod Trosedd Pwyntiau cosb
SP10 Gyrru'n gynt na’r cyflymdra a ganiateir i gerbydau nwyddau 3-6
SP20 Gyrru'n gynt na'r cyflymdra a ganiateir i'r math hwnnw o gerbyd (ac eithrio cerbydau nwyddau neu gerbydau teithwyr) 3-6
SP30 Gyrru'n gynt na’r cyflymdra uchaf statudol a ganiateir ar ffordd gyhoeddus 3-6
SP40 Gyrru'n gynt na’r cyflymdra a ganiateir i gerbyd cludo teithwyr 3-6
SP50 Gyrru'n gynt na’r cyflymdra a ganiateir ar draffordd 3-6

Cyfarwyddiadau traffig ac arwyddion

Rhaid i godau troseddu TS10 i TS70 aros ar drwydded yrru am bedair blynedd o ddyddiad y trosedd.

Cod Trosedd Pwyntiau cosb
TS10 Methu â chydymffurfio ag arwyddion goleuadau traffig 3
TS20 Methu â chydymffurfio â llinellau gwyn dwbl 3
TS30 Methu â chydymffurfio ag arwydd 'Stop' 3
TS40 Methu â chydymffurfio â chyfarwyddiadau gan gwnstabl/warden 3
TS50 Methu â chydymffurfio ag arwyddion traffig (ac eithrio arwyddion 'stop', goleuadau traffig neu linellau gwyn dwbl) 3
TS60 Methu â chydymffurfio ag arwydd patrôl croesfan ysgol 3
TS70 Methu â chydymffurfio ag arwyddion cyfeirio traffig (amhenodol) 3

Cod arbennig

Rhaid i god troseddu TT99 aros ar drwydded yrru am bedair blynedd o ddyddiad yr euogfarn.

Cod Trosedd
TT99 I nodi gwaharddiad dan y drefn 'pentyrru pwyntiau'. Os yw cyfanswm y pwyntiau cosb yn cyrraedd 12 neu fwy o fewn 3 blynedd, gall y gyrrwr gael ei wahardd

Dwyn neu gymryd heb ganiatâd

Rhaid i godau troseddu UT50 aros ar drwydded yrru am bedair blynedd o ddyddiad y trosedd.

Cod Trosedd Pwyntiau cosb
UT50 Achos mwy difrifol o gymryd cerbyd 3-11

Helpu, annog, cwnsela neu gaffael

Troseddau yn ôl y codau, ond gyda 2 yn lle 0 ee LC10 yn newid yn LC12.

Achosi neu ganiatáu

Troseddau yn ôl y codau, ond gyda 4 yn lle 0 ee LC10 yn newid yn LC14.

Ysgogi

Troseddau yn ôl y codau, ond gyda 6 yn lle 0 ar y diwedd ee DD40 yn newid yn DD46.

Troseddau nad ydynt yn ardystiadwy

Ceir rhai troseddau nad ydynt yn ardystiadwy. Mae trosedd nad yw’n ardystiadwy yn drosedd nad yw’r llys yn ardystio ar ran papur manylion eich trwydded yrru. Ni fydd pwyntiau cosb yn cael eu priodoli i’r troseddau hyn ond mae ganddynt gyfnod o waharddiad.

Ar ddiwedd y gwaharddiad (dros 56 niwrnod), bydd angen i chi wneud cais am drwydded newydd ynghyd â’r ffi priodol. Dylai unrhyw ymholiadau ynghylch troseddau ac ardystiadau gael eu cyfeirio at y llys barnu.

Additional links

Gwybod eich terfyn

Cael gwybod faint o unedau o alcohol sydd yn eich hoff ddiodydd, sut i mwynhau diod yn gyfrifol a mwy

Meddwl ynghylch dysgu sut i yrru?

Gwnewch gais am eich trwydded yrru dros dro drwy ddefnyddio gwasanaeth ar-lein diogel y DVLA

Allweddumynediad llywodraeth y DU