Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Y prawf gyrru ymarferol estynedig

Fel gyrrwr neu feiciwr sydd wedi'ch gwahardd, gall llys orchymyn eich bod yn dychwelyd i fod yn rhywun sy'n dysgu gyrru a sefyll prawf gyrru ymarferol estynedig. Mae'r prawf yn hirach ac yn anoddach ac mae wedi'i anelu at sicrhau eich bod yn gallu gyrru.

Sut mae'r llys yn penderfynu

Gall y llysoedd orchymyn eich bod yn sefyll prawf gyrru estynedig os ydych wedi'ch cael yn euog o droseddau gyrru drwy yrru'n beryglus neu droseddau eraill sydd wedi arwain at wahardd angenrheidiol.

Beth fydd yn digwydd?

Ar ôl i'r gwaharddiad ddod i ben, bydd angen i chi

  • wneud cais am drwydded yrru dros dro a gyrru fel rhywun sy'n dysgu
  • pasio prawf theori ar gyfer categori'r cerbyd rydych yn bwriadu sefyll prawf gyrru ymarferol estynedig ynddo
  • pasio'r prawf gyrru ymarferol estynedig

Mae'r prawf ymarferol yn para tua 70 munud ar amrywiaeth eang o ffyrdd, sydd fel rheol yn cynnwys ffyrdd deuol. Fe'ch cynghorir i baratoi drwy gael cyfarwyddiadau addas gan hyfforddwr gyrru cymeradwy (ADI).

Codir ffioedd uwch ar gyfer profion estynedig, felly rhaid i chi ei gwneud hi'n glir wrth wneud cais am brawf pa fath o brawf rydych chi'n dymuno'i sefyll.

Beicwyr modur

Pan fydd eich gwaharddiad yn dod i ben, bydd angen i chi gwblhau hyfforddiant sylfaenol gorfodol (CBT) eto. Mae hyn yn gwneud yr hawl i yrru beic modur yn ddilys ar eich trwydded yrru dros dro newydd pan gaiff ei chyhoeddi. Mae hyn yn berthnasol ym mhob achos, hyd yn oed os ydych wedi cael hawl llawn i yrru beic modur yn y gorffennol. Caiff y DL196 'tystysgrif cwblhau', a gyhoeddir er mwyn cwblhau eich CBT cyn y cawsoch eich gwahardd, ei ganslo o ganlyniad i'r gwaharddiad.

Gyrwyr bws a lori

Os byddwch yn euog o drosedd sy'n ymwneud â gyrru peryglus, a hynny'n arwain at waharddiad, byddwch cyn colli’ch hawl i yrru bws a lori. Mae hyn yn wir ni waeth pa fath o gerbyd oedd yn cael ei yrru pan gyflawnwyd y trosedd. Yr Awdurdod Trwyddedu sy'n penderfynu a gaiff yr hawl honno ei rhoi eto neu beidio.

Dyma'r dewisiadau:

  • gellir gwrthod yr hawl am eich bod wedi dangos eich bod yn berson anaddas ac anghymwys i feddu ar drwydded yrru alwedigaethol
  • gall y llys fynnu eich bod yn sefyll prawf gyrru car estynedig er mwyn cael eich trwydded categori B yn ôl (trwydded gyrru car)
  • gellir mynnu eich bod yn sefyll prawf gyrru ar gyfer pob categori ychwanegol o gerbyd rydych chi am ei yrru
  • gellir ychwanegu categori (neu gategorïau) heb unrhyw ofynion pellach, dan rai amgylchiadau arbennig

Mae'n bwysig cofio na ellir rhoi trwydded yrru alwedigaethol ar ei phen ei hun. Mae'n rhaid i chi fod â thrwydded gyrru car ddilys er mwyn i'ch trwydded yrru alwedigaethol fod yn ddilys. Os byddwch chi'n colli eich hawl i gael trwydded car, byddwch chi'n colli eich trwydded alwedigaethol ar yr un pryd.

Os oes rhaid i chi sefyll ail brawf categori B cewch wneud cais am drwydded amodol ar ddiwedd cyfnod y gwaharddiad.

Rheolau ar gyfer deiliaid trwydded yrru dros dro

Fel gyrrwr dan hyfforddiant mae'n rhaid i chi:

  • rhaid i chi gael rhywun sy'n 21 oed o leiaf yn eich goruchwylio a hwnnw/honno wedi dal (ac yn dal i ddal) trwydded lawn am o leiaf tair blynedd ar gyfer y math o gerbyd rydych yn ei yrru
  • dangos platiau L, neu blatiau D yng Nghymru, yn nhu blaen ac ar gefn y cerbyd
  • peidio â gyrru ar draffordd
  • peidio â gyrru bws neu lori os mai dim ond trwydded gyrru car dros dro sydd gennych

Additional links

Gwybod eich terfyn

Cael gwybod faint o unedau o alcohol sydd yn eich hoff ddiodydd, sut i mwynhau diod yn gyfrifol a mwy

Meddwl ynghylch dysgu sut i yrru?

Gwnewch gais am eich trwydded yrru dros dro drwy ddefnyddio gwasanaeth ar-lein diogel y DVLA

Allweddumynediad llywodraeth y DU