Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Sut i ddileu ardystiadau sydd wedi dod i ben o'ch trwydded yrru

Er mwyn dileu ardystiadau sydd wedi dod i ben o'ch trwydded yrru, bydd angen i chi wneud cais i gyfnewid eich trwydded am un newydd. Gallwch wneud cais drwy'r post, neu os oes gennych drwydded yrru bapur, gallwch ddefnyddio'r gwasanaeth gwirio premiwm.

Drwy'r post

Bydd angen i chi gwblhau 'Cais am drwydded yrru' (D1). Mae'r ffurflen hon ar gael gan wasanaeth archebu ffurflenni'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) neu mewn rhai canghennau o Swyddfa'r Post®.

Deiliad trwydded yrru cerdyn-llun

Bydd angen i chi amgáu’r canlynol:

  • eich trwydded yrru cerdyn-llun, y rhan bapur a'r ffi briodol
  • dogfen(nau) adnabod gwreiddiol os yw eich enw presennol yn wahanol i'r enw ar eich trwydded yrru

Deiliad trwydded yrru bapur

Bydd angen i chi amgáu’r canlynol:

  • llun pasbort, eich trwydded yrru bapur a'r ffi briodol
  • dogfennaeth wreiddiol sy'n cadarnhau pwy ydych chi, neu gallwch gytuno i DVLA gadarnhau pwy ydych chi gyda'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau (IPS), os oes gennych chi basbort digidol

Anfonwch eich cais, gan gynnwys unrhyw ddogfennau sydd eu hangen, i DVLA, Abertawe SA99 1BU.

Gwasanaeth Gwirio Premiwm

Gallwch gyfnewid eich trwydded yrru bapur am drwydded yrru cerdyn-llun drwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Gwirio Premiwm sydd ar gael mewn rhai canghennau o Swyddfa'r Post® neu Swyddfeydd Lleol DVLA.

Trwyddedau gyrru ar-lein

Bydd unrhyw gais a wnewch am drwydded yrru newydd yn dileu ardystiadau sydd wedi dod i ben yn awtomatig o'ch trwydded yrru.

Gallwch wneud y ceisiadau canlynol ar-lein a byddant yn dileu eich ardystiadau sydd wedi dod i ben:

  • newid manylion eich cyfeiriad
  • newid y llun ar eich trwydded yrru
  • adnewyddu eich trwydded yrru os yw ar goll, wedi'i dwyn, ei difetha neu ei dinistrio
  • cyfnewid eich trwydded yrru bapur am drwydded yrru cerdyn-llun

Additional links

Gwybod eich terfyn

Cael gwybod faint o unedau o alcohol sydd yn eich hoff ddiodydd, sut i mwynhau diod yn gyfrifol a mwy

Meddwl ynghylch dysgu sut i yrru?

Gwnewch gais am eich trwydded yrru dros dro drwy ddefnyddio gwasanaeth ar-lein diogel y DVLA

Allweddumynediad llywodraeth y DU