Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Beth yw Porth y Llywodraeth?

Proses ar-lein yw Porth y Llywodraeth sy'n cadarnhau pwy ydych chi pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer gwasanaethau'r llywodraeth sy'n rhoi enw defnyddiwr i chi. Mynnwch wybod sut mae'n gweithio a beth i'w wneud os byddwch yn colli eich cyfrinair neu eich enw defnyddiwr.

Gwasanaethau ar-lein sy'n defnyddio Porth y Llywodraeth

Mae'r gwasanaethau canlynol gan y llywodraeth yn defnyddio Porth y Llywodraeth:

  • gwneud cais am eich trwydded yrru gyntaf (dros dro)
  • cael trwydded yrru newydd
  • newid eich cyfeiriad ar eich trwydded yrru
  • newid y llun ar eich trwydded yrru
  • cyfnewid eich trwydded yrru bapur am drwydded cerdyn-llun
  • cael trwydded yrru newydd yn 70 oed
  • Hunanasesiad Ar-lein (ffurflenni treth)
  • Rhagolwg o Bensiwn y Wladwriaeth
  • gwneud cais am Bensiwn y Wladwriaeth Ar-lein
  • Money Claim Online (llys mân hawliadau)

Sut mae'r broses gofrestru'n gweithio

Er mwyn cofrestru, naill ai:

  • byddwch yn cael enw defnyddiwr wrth i chi gofrestru ar gyfer gwasanaeth, e.e. am drwydded yrru
  • bydd y gwasanaeth yn gofyn i chi gofrestru ar safle Porth y Llywodraeth yn gyntaf, e.e. er mwyn hawlio eich pensiwn

Pan fyddwch yn cofrestru byddwch yn:

  • rhoi manylion personol fel eich rhif Yswiriant Gwladol fel y gall y llywodraeth gadarnhau pwy ydych chi
  • creu cyfrinair
  • pennu gwybodaeth gofiadwy, e.e. dyddiad, ar gyfer eich cyfrif (mae'r Hunanasesiad Ar-lein yn defnyddio eich rhif cyfeirnod trethdalwr unigryw yn lle hynny)

Yna byddwch yn gweld enw defnyddiwr ar eich sgrîn. Bydd Porth y Llywodraeth hefyd yn anfon yr enw defnyddiwr hwn atoch drwy'r post.

Er mwyn defnyddio'r gwasanaeth hwn, mewngofnodwch a nodwch eich enw defnyddiwr a'ch cyfrinair. Gallwch ddefnyddio'r un enw defnyddiwr a chyfrinair ar gyfer gwasanaethau a gaiff eu rhedeg gan yr un adran, e.e. ar gyfer pob gwasanaeth trwyddedau gyrru.

Enwau defnyddwyr

Nodwch eich enw defnyddiwr a'r gwasanaeth y mae ar ei gyfer. Bydd angen y ddau ddarn o wybodaeth arnoch er mwyn cael help gydag unrhyw broblemau gyda'ch cyfrif, e.e. os byddwch yn anghofio eich cyfrinair.

Gallwch gael mwy nag un enw defnyddiwr.

Efallai na fyddwch yn gallu defnyddio'r un enw defnyddiwr ar gyfer yr holl wasanaethau sy'n defnyddio Porth y Llywodraeth.

Os na allwch ddefnyddio'r enw defnyddiwr sydd gennych eisoes, gallwch gael un arall drwy gofrestru gyda'r gwasanaeth rydych am ei ddefnyddio.

Codau actifadu

Mae gan rai gwasanaethau lefel uwch o ddiogelwch.

Pan fyddwch yn cofrestru, efallai y bydd angen i chi aros i gael cod actifadu drwy'r post ar gyfer y gwasanaethau hyn:

  • Hunanasesiad Ar-lein a gaiff ei redeg gan Gyllid a Thollau EM
  • Rhagolwg o Bensiwn y Wladwriaeth a gaiff ei redeg gan y Gwasanaeth Pensiwn
  • Hawlio Pensiwn y Wladwriaeth Ar-lein a gaiff ei redeg gan y Gwasanaeth Pensiwn

Fel arfer bydd yn cymryd rhwng tri a saith diwrnod i'r cod gyrraedd.

Unwaith y cewch eich cod actifadu, bydd gennych 28 diwrnod i ddychwelyd i'r gwasanaeth a mewngofnodi gyda'ch enw defnyddiwr a'ch cyfrinair. Yna bydd y gwasanaeth yn gofyn am y cod.

Os na fyddwch yn defnyddio'r cod o fewn y cyfnod hwn, bydd yn rhaid i chi gofrestru ar gyfer y gwasanaeth eto i gael cod newydd.

Wedi anghofio cyfrineiriau neu enwau defnyddwyr

Bydd angen i chi:

  • ddychwelyd i'r gwasanaeth rydych am ei gael, e.e. 'mewngofnodi'
  • dewis y ddolen o'r enw 'wedi anghofio cyfrinair' neu 'wedi anghofio enw defnyddiwr'
  • nodi gwybodaeth arall y mae'r gwasanaeth yn gofyn amdani, e.e. eich gwybodaeth gofiadwy neu eich rhif cyfeirnod trethdalwr unigryw

Gellir anfon eich enw defnyddiwr neu eich cyfrinair newydd drwy e-bost neu drwy'r post. Os na allwch gofio'r cyfeiriad e-bost a ddefnyddiwyd gennych i gofrestru ar gyfer y gwasanaeth, nodwch eich bod am iddo gael ei anfon drwy'r post.

Wedi anghofio cyfrinair ac enw defnyddiwr

Os ydych wedi anghofio'ch cyfrinair a'ch enw defnyddiwr ar gyfer gwasanaeth trwydded yrru, bydd angen i chi gofrestru ar gyfer y gwasanaeth eto.

Os ydych wedi anghofio'ch cyfrinair a'ch enw defnyddiwr ar gyfer un o'r gwasanaethau eraill, cysylltwch â'r ddesg gymorth ar gyfer y gwasanaeth hwnnw:

  • ar gyfer gwasanaethau pensiwn, anfonwch neges e-bost i eservicehelpdesk@dwp.gsi.gov.uk
  • ar gyfer Money Claim Online, anfonwch neges e-bost i customerservice.mcol@hmcourts-service.gsi.gov.uk
  • ar gyfer Hunanasesiad, ffoniwch 0845 60 55 999

Mae pob desg gymorth ond yn delio â phroblemau yn ymwneud â'i gwasanaeth penodol.

Os na allwch gofio pa wasanaeth y gwnaethoch gofrestru ar ei gyfer, dylech gael enw defnyddiwr newydd drwy gofrestru ar gyfer y gwasanaeth eto.

Additional links

Cyngor am fudd-daliadau ar-lein

Os oes angen cyngor ar fudd-daliadau, pensiynau a chredydau, gallwch weld yr hyn y gallech gael drwy ddefnyddio’r cyfrifiannell ar-lein

Cymorth gyda ffeiliau PDF

Bydd angen copi o Adobe Reader arnoch i weld ffeiliau PDF. Mae’r rhaglen am ddim os nad yw gennych yn barod.

Allweddumynediad llywodraeth y DU