Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Beth y mae angen i chi ei wybod

Porth y Llywodraeth

Wrth wneud cais, cewch Rif Adnabod defnyddiwr Porth y Llywodraeth. Os oes gennych Rif Adnabod defnyddiwr Porth y Llywodraeth eisoes, y cyfan y mae angen i chi ei wneud yw teipio hwnnw a'ch cyfrinair.

Pwysig

Fideo: adnewyddu eich trwydded yrru

Dysgwch sut i adnewyddu eich trwydded yrru gyda’r DVLA

Mae’r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) eisiau gweithio gyda chi i sicrhau bod eich hunaniaeth a’ch data personol yn cael eu diogelu, a bydd yn cynnal profion adnabod er mwyn eich diogelu a'ch gwarchod.

Drwy wneud cais ar-lein byddwch yn rhoi caniatâd i DVLA wirio eich data personol, gan gynnwys eich rhif Yswiriant Gwladol. Bydd DVLA yn cadarnhau eich manylion gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau a Chyllid a Thollau EM. Os na all DVLA gadarnhau a dilysu pwy ydych chi'n llwyr, byddwch yn cael gwybod beth i’w wneud ar ddiwedd eich cais.

Os oes gennych drwydded bapur

Gan nad yw DVLA yn cyhoeddi trwyddedau gyrru papur bellach, bydd angen llun a llofnod arnom ar gyfer eich trwydded. Os oes gennych basbort digidol y DU, bydd DVLA yn ceisio cael y rhain yn electronig gan y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau.

Oni fydd hyn yn bosib, neu os nad ydych am i ni ddefnyddio'r llun ar eich pasbort digidol, bydd angen i chi anfon llun atom drwy'r post. Bydd ffurflen cwblhau ar gael ar ddiwedd y cais ar-lein.

Os oes gennych drwydded cerdyn-llun

Os yw'r llun ar eich trwydded ar fin dod i ben a'ch bod eisiau adnewyddu eich llun neu'ch bod angen gwneud hynny, mae’n rhaid i chi ddarparu eich rhif pasbort y DU ac mae’n rhaid i’r pasbort wedi cael ei gyhoeddi o fewn y pum mlynedd diwethaf. Bydd DVLA yn ceisio cofnodi’ch llun a llofnod yn electronig gan y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau. Os nad oes modd gwneud hyn, neu os nad ydych chi eisiau i DVLA ddefnyddio’r llun ar eich pasbort, chewch chi ddim adnewyddu’r llun ar eich trwydded ar-lein. Defnyddiwch y ddolen ‘adnewyddu'r llun ar eich trwydded yrru’ ar yr ochr dde, sy’n dangos ffyrdd eraill i adnewyddu’r llun ar eich trwydded.

Os ydych wedi darllen a deall yr wybodaeth uchod a'ch bod am wneud cais ar-lein, cliciwch ar y ddolen isod.

Darparwyd gan DVLA

Allweddumynediad llywodraeth y DU