Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Y llun ar gyfer eich trwydded yrru

Mae'n rhaid i'r llun yr ydych yn ei ddarparu ar gyfer eich trwydded yrru fodloni safonau penodol. Efallai y bydd yn rhaid ei ardystio hefyd gan ddibynnu ar y math o brawf adnabod yr ydych yn ei ddefnyddio i wneud cais am eich trwydded.

Y math o lun y dylech ei anfon

Mae'n rhaid i'r llun a dynnir fod:

  • yn dangos gwir debygrwydd diweddar i chi
  • yn lliw, nid yn ddu a gwyn, yn erbyn cefndir llwyd golau neu hufen
  • yn glir, mewn ffocws clir, heb 'lygaid coch' a heb gysgod
  • heb unrhyw adlewyrchiad na golau oddi ar sbectol
  • mewn cyflwr da, heb ei ddifrodi, ei blygu, ei rwygo na’i farcio

Mae'n rhaid i chi:

  • wynebu ymlaen ac yn edrych yn syth i'r camera gyda'ch llygaid ar agor a heb ddim byd yn cuddio eich wyneb
  • edrych yn naturiol heb dynnu ystumiau e.e. gwenu, lledwenu neu wgu
  • peidio â gorchuddio eich llygaid e.e. gyda gwallt neu ffrâm sbectol
  • peidio â gwisgo sbectol haul neu sbectol dywyll
  • peidio â gwisgo het neu guddio eich pen ac eithrio am resymau meddygol neu grefyddol

Ardystio eich llun

Os ydych yn cyflwyno dogfennau adnabod ar wahân i basbort diweddaraf, dogfen deithio y DU neu gerdyn adnabod yr UE/AEE, yna rhaid i rywun addas lofnodi cefn eich llun. Mae'n rhaid i'r sawl sy'n llofnodi eich llun hefyd gwblhau adran chwech o'ch ffurflen D1.

Bydd y DVLA yn archwilio ar hap fanylion pobl sy’n llofnodi ceisiadau am drwydded yrru cerdyn-llun.

Os ydych yn adnewyddu'r llun ar eich trwydded yrru ni fydd angen ei ardystio.

Y sawl sy’n llofnodi eich llun

Rhaid i'r sawl sy'n llofnodi eich llun:

  • fod yn byw yn y DU
  • eich adnabod yn bersonol (ers o leiaf dwy flynedd)
  • bod yn rhywun nad yw'n berthynas i chi

Mae’r bobl ganlynol yn addas:

  • person busnes neu berchennog siop lleol
  • llyfrgellydd
  • person cymwysedig proffesiynol, er enghraifft, cyfreithiwr, athro neu beiriannydd
  • plismon
  • swyddog mewn banc neu gymdeithas adeiladu
  • gwas sifil
  • gweinidog yr efengyl
  • ynad heddwch
  • cynghorydd lleol, Aelod Seneddol, Aelod Cynulliad, Aelod o Senedd Ewrop neu Aelod o Senedd yr Alban

Gall staff eich swyddfa DVLA leol helpu os nad oes gennych neb i lofnodi eich llun, os ydych chi wedi dechrau preswylio yn y DU neu wedi dychwelyd yno o fewn y ddwy flynedd ddiwethaf. Byddant yn llofnodi eich llun ac yn llenwi adran chwech ar y ffurflen gais. Wedyn, anfonir eich cais a'ch dogfennau adnabod gwreiddiol i DVLA Abertawe i'w dilysu ymhellach.

Gwasanaeth gwirio premiwm

Gall cangen o Swyddfa'r Post® neu Swyddfa DVLA leol wirio'ch cais os nad ydych chi'n awyddus i anfon eich dogfennau adnabod i DVLA drwy'r post. Nid yw'r gwasanaeth hwn ar gael ar gyfer ceisiadau ar-lein.

Additional links

Derbyn hysbysiadau atgoffa Rheolau’r Ffordd Fawr

Derbyn hysbysiadau atgoffa ynghylch Rheolau’r Ffordd Fawr drwy ei ddilyn ar Trydar a Facebook

Allweddumynediad llywodraeth y DU