Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Egluro'r prawf car ymarferol

Mae’r prawf gyrru wedi’i gynllunio er mwyn i chi ddangos eich sgiliau ymarferol a’ch dealltwriaeth o Reolau’r Ffordd Fawr a theori gyrru’n ddiogel. Drwy gydol y prawf, bydd yr arholwr yn chwilio am safon yrru ddiogel yn gyffredinol. Yma, cewch wybod am rannau gwahanol eich prawf gyrru.

Y prawf gyrru car ymarferol

Gwylio fideo am y prawf gyrru ymarferol

Mae'r prawf gyrru'n syml ac wedi'i gynllunio i weld a ydych:

  • yn gallu gyrru’n ddiogel dan wahanol amodau ffordd a thraffig
  • yn gwybod Rheolau'r Ffordd Fawr ac yn gallu dangos hynny wrth yrru

Felly, cyn belled â'ch bod yn gyrru i'r safon angenrheidiol, byddwch yn pasio'ch prawf gyrru. Nid oes cwotâu pasio na methu.

Beth fydd angen i chi fynd gyda chi i’r prawf gyrru

Mae angen i chi ddod â dogfennau penodol gyda chi i’ch prawf gyrru. Mae angen i chi ddod â char y gellir ei ddefnyddio ar gyfer y prawf hefyd. Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â beth fydd angen i chi ddod gyda chi drwy glicio ar y dolenni isod.

Cyn i chi ddechrau ar y rhan o’r prawf sy’n canolbwyntio ar sgiliau gyrru

Cyn i chi ddechrau ar y rhan o’r prawf sy’n canolbwyntio ar sgiliau gyrru, cewch brawf golwg a gofynnir i chi ateb dau gwestiwn am ddiogelwch cerbydau.

Y prawf golwg

Bydd yr arholwr yn gofyn i chi ddarllen y plât rhif ar gerbyd sydd wedi parcio er mwyn profi eich golwg. Os byddwch yn methu’r prawf, ni fydd eich prawf gyrru yn parhau. Drwy glicio ar y ddolen isod, cewch wybod sut mae’r prawf golwg yn gweithio.

Gwylio fideos am ‘dangoswch i mi, dywedwch wrtha' i’

Cwestiynau am ddiogelwch cerbydau: ‘dangoswch i mi, dywedwch wrtha' i’

Gofynnir dau gwestiwn i chi am ddiogelwch cerbydau. Gelwir y rhain hefyd yn gwestiynau ‘dangoswch i mi, dywedwch wrtha' i’.

Bydd yr arholwr yn gofyn un cwestiwn ‘dangoswch i mi’, lle bydd rhaid i chi ddangos iddo sut y byddech chi'n gwneud prawf diogelwch ar gerbyd. Gofynnir un cwestiwn ‘dywedwch wrtha' i’ hefyd, lle bydd rhaid i chi egluro wrth yr arholwr sut byddech yn gwneud y prawf.

Er enghraifft, efallai y bydd yr arholwr yn gofyn i chi i ddangos ble mae cronfa ddŵr y golchwr ffenestr a dweud wrthynt sut y byddwch yn gwirio lefel y golchwr ffenestr.

Bydd ateb un neu’r ddau gwestiwn yn anghywir yn arwain at un camgymeriad gyrru.

Y rhan o’r prawf sy’n canolbwyntio ar sgiliau gyrru

Os gwnewch chi gamgymeriad

Peidiwch â phoeni os gwnewch chi gamgymeriad – mae'n bosib nad yw’n un difrifol ac na fydd yn effeithio ar ganlyniad eich prawf

Bydd rhan gyrru eich prawf yn para tua 40 munud. Drwy gydol y prawf, bydd yr arholwr yn chwilio am safon yrru ddiogel yn gyffredinol.

Eich gallu cyffredinol i yrru

Yn ystod eich prawf bydd yr arholwr yn rhoi cyfarwyddiadau i chi eu dilyn. Byddwch yn gyrru dan wahanol amodau ffordd a thraffig. Dylech yrru yn y ffordd y mae’ch hyfforddwr wedi eich dysgu i yrru.

Efallai y gofynnir i chi stopio ar frys hefyd.

Eich gallu i facio eich cerbyd yn ôl yn ddiogel

Gofynnir i chi wneud ymarfer i ddangos pa mor dda allwch chi facio eich cerbyd yn ôl. Bydd yr arholwr yn dewis un ymarfer o blith y canlynol:

  • bacio'n ôl rownd cornel
  • troi yng nghanol y ffordd
  • bacio’n ôl i barcio – naill ai i mewn i le parcio, neu barcio’n gyfochrog â char arall ar ymyl y ffordd

Rhan gyrru’n annibynnol y prawf gyrru

Bydd eich prawf gyrru yn cynnwys oddeutu deng munud o yrru’n annibynnol. Bwriad hyn yw asesu eich gallu i yrru’n ddiogel wrth wneud penderfyniadau’n annibynnol.

Os gwnewch gamgymeriad yn ystod eich prawf

Os gwnewch chi gamgymeriad, peidiwch â phoeni. Mae'n bosib nad yw'r camgymeriad yn un difrifol ac na fydd yn effeithio ar ganlyniad eich prawf. Fodd bynnag, os yw eich arholwr ar unrhyw adeg yn ystyried eich bod yn peryglu defnyddwyr eraill ar y ffordd wrth yrru, bydd yn dod â’ch prawf i ben.

Canlyniad eich prawf gyrru

Eich canlyniad

Byddwch yn pasio eich prawf os byddwch yn gwneud:

  • 15 neu lai o gamgymeriadau gyrru
  • dim un camgymeriad difrifol na pheryglus

Pan fydd y prawf gyrru wedi dod i ben, gallwch alw eich hyfforddwr draw os nad aeth gyda chi ar eich prawf. Gall wrando ar y canlyniad a’r adborth gyda chi.

Bydd yr arholwr yn gwneud y canlynol:

  • dweud wrthych a ydych chi wedi pasio ynteu fethu’r prawf
  • egluro sut aeth y prawf

Y gwahanol fathau o gamgymeriadau y gellir eu nodi

Ceir tri math gwahanol o gamgymeriad y gellir ei nodi:

  • camgymeriad peryglus – pan fyddwch yn rhoi eich hun, yr arholwr, y cyhoedd neu eiddo mewn perygl
  • camgymeriad difrifol – a allai fod yn beryglus
  • camgymeriad gyrru – na allai fod yn beryglus, ond os gwnewch yr un camgymeriad drwy gydol eich prawf gallai fod yn gamgymeriad difrifol

Y marc sydd ei angen er mwyn pasio’r prawf gyrru

Gallwch wneud hyd at 15 o gamgymeriadau gyrru a byddwch yn dal i basio’r prawf. Os gwnewch 16 neu ragor o gamgymeriadau gyrru, ni fyddwch yn pasio eich prawf.

Os gwnewch un neu ragor o gamgymeriadau difrifol neu beryglus, ni fyddwch yn pasio eich prawf.

Os byddwch yn pasio eich prawf

Os byddwch yn pasio eich prawf, bydd yr arholwr yn rhoi tystysgrif pasio i chi. Bydd hefyd yn gofyn i chi a ydych am i’ch trwydded lawn gael ei hanfon atoch yn awtomatig. Drwy glicio ar y ddolen isod, cewch wybod rhagor am y gwasanaeth hwn.

Ar ôl i chi basio eich prawf, gallwch ddechrau gyrru ar unwaith – ni fydd rhaid i chi aros i'ch trwydded lawn gyrraedd.

Sefyll prawf arall os na fyddwch yn pasio

Os na fyddwch yn pasio eich prawf, gallwch sefyll un arall ar ôl deg diwrnod gwaith. Mae diwrnodau gwaith yn cynnwys dydd Sadwrn.

Adborth ynghylch pa mor eco-effeithlon ydych chi wrth yrru

Bydd yr arholwr yn rhoi adborth defnyddiol i chi ynghylch pa mor eco-effeithlon ydych chi wrth yrru. Cewch ddarllen awgrymiadau ynglŷn â gyrru’n fwy gwyrdd drwy glicio’r ddolen isod.

Pan gaiff profion gyrru eu canslo neu eu stopio

Weithiau bydd rhaid i DSA ganslo neu stopio profion gyrru oherwydd pethau fel tywydd garw neu broblemau gyda cherbydau. Cael gwybod beth sy’n digwydd os bydd eich prawf yn cael ei ganslo neu ei stopio, a beth sydd angen i chi ei wneud pan mae tywydd garw.

Darparwyd gan the Driving Standards Agency

Additional links

Cymorth i yrwyr dan hyfforddiant

Ymunwch â chymuned o dros 18,000 o yrwyr dan hyfforddiant a rhannwch eich profiadau ynghylch dysgu i yrru

Ffioedd profion gyrru

Cael gwybod y gost o brofion gyrru theori ac ymarferol pan fyddwch yn archebu ar Cross & Stitch

Allweddumynediad llywodraeth y DU