Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Dod i’ch prawf yrru ymarferol

Pan fyddwch chi'n mynd am eich prawf yrru ymarferol, bydd yn rhaid i chi fynd â dogfennau penodol gyda chi. Hefyd bydd rhaid i chi ddod â cherbyd sydd wedi'i yswirio a'i drwyddedu'n briodol ar gyfer y prawf. Yma, cewch wybod beth fydd angen i chi ddod â chi ar y diwrnod.

Defnyddio eich cerbyd eich hun yn y prawf

Rhaid i chi ddod â cherbyd sydd wedi’i yswirio a'i drwyddedu’n briodol, gyda phlatiau L neu D (ar wahân i brofion tacsi a Hyfforddwr Gyrru Cymeradwy (ADI) rhan dau). Rhaid i’r cerbyd fod yn addas ar gyfer y prawf.

Dogfennau angenrheidiol

Rhaid i chi ddod â'r dogfennau canlynol gyda chi. Os na fyddwch chi’n dod â’r dogfennau cywir gyda chi:

  • gallai’r Asiantaeth Safonau Gyrru (DSA) wrthod cynnal y prawf
  • fe allech chi golli'ch ffi

Ar gyfer pob math o brawf

Dewch â’r ddwy ran o’ch trwydded yrru

Rhaid i chi ddod â’ch tystysgrif pasio prawf theori briodol (neu gadarnhad) os nad ydych chi wedi'ch eithrio.

Rhaid i chi hefyd ddod â dwy ran eich trwydded yrru – y cerdyn-llun a’r papur manylion.

Os oes gennych drwydded yrru bapur o’r hen fath, rhaid i chi fynd â’ch trwydded yrru wedi’i llofnodi a rhaid i chi hefyd ddod â phasbort dilys. Ni dderbynnir unrhyw ffurf arall ar brawf ffotograffig.

Dewch â’ch dogfennau

Os na fyddwch chi’n dod â’r dogfennau cywir:

  • efallai na chewch sefyll eich prawf
  • fe allech chi golli'ch ffi

Ar gyfer profion beiciau modur

Rhaid i chi ddod â’r canlynol gyda chi hefyd:

  • eich tystysgrif hyfforddiant sylfaenol gorfodol (CBT) ar gyfer y ddau fodiwl
  • eich tystysgrif pasio prawf modiwl un beiciau modur i’ch prawf modiwl dau (cysylltwch â’r DSA ar unwaith os byddwch yn colli hon)

Ar gyfer profion lorïau a bysiau

Rhaid i chi hefyd ddod â’ch llythyrau pasio'r profion amlddewis ac adnabod peryglon, neu'ch llythyr tystysgrif pasio prawf theori cyffredinol.

Beth i'w wneud os ydych chi wedi colli’ch trwydded yrru

Os byddwch chi'n colli'ch trwydded yrru, bydd yn rhaid i chi wneud cais am un arall gan yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA). Gallai hynny gymryd hyd at 15 niwrnod. Os digwydd hyn, mae'n bosibl y bydd yn rhaid i chi aildrefnu'ch prawf.

Os ydych chi wedi colli’ch tystysgrif prawf theori

Gallwch ddod o hyd i rif eich tystysgrif pasio prawf theory ar-lein os ydych chi wedi colli eich llythyr gwreiddiol. Gallwch argraffu’r rhif neu ei nodi a mynd ag ef gyda chi i’ch prawf.

Mynd â rhywun gyda chi ar eich prawf gyrru

Gwylio fideo ynghylch mynd â rhywun gyda chi

Bydd yr arholwr yn gofyn a ydych yn dymuno i’ch hyfforddwr neu rywun arall:

  • fynd gyda chi ar eich prawf gyrru gan eistedd yng nghefn y car
  • bod gyda chi ar ddiwedd y prawf i gael y canlyniad a’r adborth

Pwy sy’n mynd gyda chi ar eich prawf

Mae'r Asiantaeth Safonau Gyrru yn eich annog i fynd â rhywun gyda chi ar eich prawf gyrru:

  • fel rheol, yr unigolyn hwn fydd wedi eich dysgu i yrru
  • gallai fod yn berthynas neu’n ffrind
  • rhaid iddo fod yn hŷn nag 16 mlwydd oed
  • ni chaiff gymryd unrhyw ran yn y prawf
  • bydd yn gallu gweld sut byddwch chi’n perfformio yn ystod y prawf

I gael y budd gorau o hyn, gofynnwch i’ch hyfforddwr fynd gyda chi. Gall roi cyngor i chi am sut i wella eich sgiliau gyrru – p’un ai a fyddwch chi’n pasio ynteu’n methu'r prawf.

Goruchwyliwr eich arolygwr

Gall goruchwyliwr eich arolygwr ddod hefyd. Ni ddylech bryderu am hyn oherwydd byddant yn gwylio perfformiad yr arolygwr, nid un chi. Ni fydd gan y goruchwyliwr llais yn y modd yr ydych yn cael eich profi neu yn eich canlyniad. Os nad ydych yn gadael i oruchwyliwr eich arolygwr fynd gyda chi:

  • mae’n bosib y byddwch yn colli eich ffi prawf
  • efallai ni fydd y prawf yn mynd yn ei flaen

Sefyll prawf ymarferol ar ran rhywun arall

Rhybudd

Mae pobl sy’n sefyll prawf ar ran rhywun arall a’r bobl sy’n defnyddio eu gwasanaethau:

  • wedi'u cael yn euog mewn llys troseddol
  • wedi cael eu carcharu

Byddwch yn wyliadwrus o unrhyw un sy’n cynnig trefnu i rywun sefyll eich prawf gyrru ymarferol ar eich rhan.

Pobl sy’n sefyll prawf yrru ar ran rhywun arall - y gyfraith

Mae unrhyw un sy’n sefyll prawf ymarferol ar ran rhywun arall yn ogystal â’r bobl sy’n derbyn eu gwasanaethau yn:

  • torri’r gyfraith
  • rhoi defnyddwyr eraill y ffordd mewn perygl

Mae’r Asiantaeth Safonau Gyrru yn:

  • ymchwilio’n drylwyr i bob achos lle amheuir bod rhywun yn sefyll prawf ar ran rhywun arall
  • gweithio’n agos gyda’r heddlu i ganfod troseddwyr ac i fynd â nhw i’r llys

Mae pobl sy’n sefyll prawf ar ran rhywun arall a’r bobl sy’n defnyddio eu gwasanaethau:

  • wedi'u cael yn euog mewn llys troseddol
  • wedi cael eu carcharu

Sut i roi gwybod am bobl sy’n sefyll prawf ar ran rhywun arall

Os bydd rhywun yn cynnig sefyll prawf ar eich rhan chi, rhowch wybod i’r Asiantaeth Safonau Gyrru drwy:

  • ffonio 0115 936 6051 (yn ystod oriau swyddfa)
  • anfon neges e-bost at:
integrity.team@dsa.gsi.gov.uk

Additional links

Cymorth i yrwyr dan hyfforddiant

Ymunwch â chymuned o dros 18,000 o yrwyr dan hyfforddiant a rhannwch eich profiadau ynghylch dysgu i yrru

Ffioedd profion gyrru

Cael gwybod y gost o brofion gyrru theori ac ymarferol pan fyddwch yn archebu ar Cross & Stitch

Allweddumynediad llywodraeth y DU