Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Hawlio trwydded ar ôl pasio prawf gyrru

Ar ôl pasio'ch prawf gyrru (y prawf theori a'r prawf ymarferol), bydd angen i chi ddweud wrth yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA). P'un ai a ydych wedi pasio prawf car, beic modur, lori ynteu fws, rhaid i chi gyfnewid eich tystysgrif pasio prawf cyn pen dwy flynedd o basio'ch prawf.

Os oes gennych drwydded yrru cerdyn-llun

Gwneud cais yn y ganolfan brawf

Os cafodd eich trwydded yrru cerdyn-llun ei chyhoeddi ar ôl 1 Mawrth 2004, bydd modd cyhoeddi'ch trwydded lawn yn electronig. Bydd yr arholwr yn mynd â'ch trwydded oddi arnoch, yn sganio'r manylion ac yn eu hanfon yn electronig i DVLA.

Cewch dystysgrif pasio i brofi eich bod wedi pasio, a bydd DVLA yn anfon eich trwydded lawn atoch o fewn pedair wythnos ar ôl i chi basio'ch prawf ymarferol.

Gwneud cais drwy'r post

Bydd angen i chi:

  • lenwi'r datganiad ar eich tystysgrif pasio prawf
  • ei anfon, ynghyd â dwy ran eich trwydded yrru (y cerdyn-llun a'r papur manylion) i DVLA, Abertawe, SA99 1BJ

Os ydych wedi newid eich enw ers eich trwydded ddiwethaf, bydd angen i chi wneud y canlynol hefyd:

  • llenwi ffurflen D1, sef ‘cais am drwydded yrru’, sydd ar gael gan wasanaeth archebu ffurflenni DVLA neu o ganghennau Swyddfa'r Post®
  • darparu dogfen wreiddiol yn cadarnhau'ch enw newydd

Adnewyddu’r llun ar eich trwydded

Bydd angen i chi hefyd edrych ar y dyddiad y mae oes eich llun ar eich trwydded yrru yn dod i ben. Os yw oes eich llun ar fin dod i ben bydd angen ei adnewyddu cyn y dyddiad hwnnw. Gellir gweld y dyddiad y bydd eich llun yn dod i ben yn adran 4b ar flaen eich trwydded yrru.

Gwyliwch y terfyn amser!

Ar ôl pasio, os na fyddwch chi'n hawlio cyn pen dwy flynedd o ddyddiad eich prawf, bydd yr hawl a gawsoch i yrru drwy basio’r prawf yn dod i ben. Bydd yn rhaid i chi sefyll a phasio dwy ran y prawf gyrru eto ar gyfer y categori cerbyd hwnnw os ydych chi'n dymuno ei gael ar eich trwydded yrru.

Os oes gennych drwydded yrru bapur

Bydd angen i chi:

  • lenwi'r datganiad ar eich tystysgrif pasio prawf
  • llenwi ffurflen D1, sef ‘cais am drwydded yrru’, sydd ar gael gan wasanaeth archebu ffurflenni DVLA neu o ganghennau Swyddfa'r Post®
  • darparu dogfennau gwreiddiol yn cadarnhau pwy ydych chi
  • amgáu llun math pasbort a'ch trwydded yrru

Anfonwch eich holl ddogfennau i DVLA, Abertawe, SA99 1BJ neu defnyddiwch y gwasanaeth gwirio premiwm sydd ar gael mewn rhai canghennau Swyddfa'r Post®, neu mewn swyddfeydd DVLA lleol.

Pryd fydd eich trwydded yn cyrraedd

Nod DVLA yw sicrhau eich bod yn cael eich trwydded yrru o fewn tair wythnos i gael eich cais. Bydd yn cymryd mwy o amser os bydd yn rhaid iddynt archwilio cyflwr eich iechyd neu'ch manylion personol. Gadewch o leiaf dair wythnos i’ch trwydded gyrraedd cyn cysylltu â DVLA.

Pan fyddwch yn cael eich trwydded, bydd ganddi nifer o nodweddion diogelwch ychwanegol. Un o'r prif newidiadau ar y drwydded yw'r llun du a gwyn ohonoch a grëir gan laser.

Gyrru cyn i'ch trwydded gael ei dychwelyd

Cewch yrru cyn cael eich trwydded, cyn belled â bod y canlynol yn wir:

  • mae gennych drwydded Gwledydd Prydain neu drwydded Gogledd Iwerddon, neu drwydded gyfnewid arall, a honno gennych er 1 Ionawr 1976
  • nid ydych wedi'ch gwahardd rhag gyrru (bydd y comisiynydd traffig ar gyfer eich ardal yn penderfynu a roddir hawl i chi yrru loriau a bysiau)
  • nid ydych wedi cael eich gwrthod trwydded yrru am resymau meddygol neu am fethu â chydymffurfio ag ymholiadau meddygol
  • ni fyddwch yn cael eich gwrthod trwydded am resymau meddygol (os oes gennych amheuaeth, holwch eich meddyg)
  • rydych yn bodloni unrhyw amodau arbennig sy’n berthnasol i'r drwydded

Additional links

PWYLLWCH! cyngor diogelwch ar y ffyrdd

Cael gwybod sut i gadw’n ddiogel ar y ffyrdd gyda ffeithiau, ystadegau, hysbysiadau a gemau PHWYLLWCH!

Allweddumynediad llywodraeth y DU