Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Tynnu ôl-gerbydau gyda cherbydau o faint canolig sydd rhwng 3.5 a 7.5 tunnell

Yn yr erthygl hon, ceir cyfeiriad at uchafswm màs awdurdodedig (MAM) cerbydau ac ôl-gerbydau. Ystyr hyn yw'r pwysau mwyaf a ganiatéir, sy'n cael ei adnabod hefyd fel pwysau gros y cerbyd.

Is-gategori C1: Cerbydau nwyddau o faint canolig sydd â MAM o 3.5 - 7.5 tunnell

Gellir bachu ôl-gerbyd sydd â MAM o hyd at 750kg ar gefn cerbydau is-gategori C1, sy'n caniatáu cyfuniad o MAM hyd at 8.25 tunnell. Ond yn wahanol i gategori B, ni chaiff pwysau MAM yr ôl-gerbyd fod yn fwy na 750kg.

Er mwyn cael yr hawl hon, rhaid i bawb sydd â thrwydded categori B fodloni safonau meddygol uwch a phasio'r profion theori ac ymarferol ar gyfer is-gategori C1.

Is-gategori C1+E: Cerbydau nwyddau o faint canolig sydd â MAM o 3.5 - 7.5 tunnell ac ôl-gerbyd â MAM o dros 750kg

Gall cerbydau is-gategori C1+E dynnu ôl-gerbydau sydd â MAM dros 750kg ar yr amod nad oes gan y cyfuniad ohonynt MAM o fwy na 12 tunnell ac nad yw pwysau'r ôl-gerbyd gyda llwyth yn fwy na phwysau'r cerbyd sy'n tynnu heb lwyth.

Er mwyn cael yr hawl hon, rhaid i'r rheiny sydd â thrwydded categori B basio profion pellach - is-gategori C1 (theori ac ymarferol) a phrawf ymarferol C1+E ar ôl hynny. Nid oes prawf theori ar gyfer is-gategori C1+E. Nid oes modd mynd yn syth o gategori B i is-gategori C1+E.

Gan fod rheoliadau'r Gymuned Ewropeaidd yn golygu na chaiff gyrwyr o dan 21 oed yrru cerbydau neu gyfuniad o gerbydau sydd â MAM o fwy na 7.5 tunnell, nid oes hawl gan yrwyr o dan 21 oed i yrru cerbydau is-gategori C1+E sydd â MAM o hyd at 12 tunnell. Ond mae gan yrwyr 18 oed yr hawl i sefyll prawf ar gyfer is-gategori C1+E sy'n caniatáu tynnu ôl-gerbydau gyda MAM o fwy na 750kg. Mae'r hawl hon wedi'i chyfyngu i bwysau MAM o 7.5 tunnell gyda'i gilydd tan fydd y gyrrwr yn 21 oed, a'r adeg hynny ychwanegir hawl i gael MAM o 12 tunnell yn awtomatig.

Additional links

Ydy’ch cerbyd oddi ar y ffordd?

Cadwch eich cerbyd wedi’i yswirio, neu gwnewch ddatganiad HOS gyda DVLA - neu gallech wynebu cosb

Ffioedd profion gyrru

Cael gwybod y gost o brofion gyrru theori ac ymarferol pan fyddwch yn archebu ar Cross & Stitch

Allweddumynediad llywodraeth y DU