Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Tynnu ôl-gerbyd gyda cherbyd cludo teithwyr

Yn yr erthygl hon, ceir cyfeiriad at uchafswm màs awdurdodedig (MAM) cerbydau ac ôl-gerbydau. Ystyr hyn yw'r pwysau mwyaf a ganiatéir, sy'n cael ei adnabod hefyd fel pwysau gros y cerbyd.

Is-gategori D1: Cerbydau cludo teithwyr gyda 9 - 16 o seddi i deithwyr

Gall cerbydau is-gategori D1 dynnu ôl-gerbyd sydd â MAM o hyd at 750 kg. Nid oes uchafswm pwysau ar gyfer cerbydau is-gategori D1. Er mwyn cael yr hawl hon, rhaid i bawb sydd â thrwydded categori B fodloni safonau meddygol uwch a phasio'r profion theori ac ymarferol ar gyfer is-gategori D1.

Is-gategori D1+E: Cerbydau cludo teithwyr gyda 9-16 o seddi i deithwyr ac ôl gerbyd sydd â MAM o dros 750kg

Gall cerbydau is-gategori D1+E dynnu ôl-gerbydau sydd dros 750kg ar yr amod nad oes gan y cyfuniad ohonynt MAM o fwy na 12 tunnell ac nad yw pwysau'r ôl-gerbyd gyda llwyth yn fwy na phwysau'r cerbyd sy'n tynnu heb lwyth. Ni cheir defnyddio'r ôl-gerbyd i gludo teithwyr. Er mwyn cael yr hawl hon, rhaid i'r rheiny sydd â thrwydded categori B basio profion pellach - is-gategori D1 (theori ac ymarferol) a phrawf ymarferol D1+E ar ôl hynny. Nid oes prawf theori ar gyfer is-gategori D1+E. Nid oes modd mynd yn uniongyrchol o gategori B i is-gategori D1+E.

Categori C: Cerbydau nwyddau mawr sydd â MAM o dros 3.5 tunnell

Gall cerbydau categori C dynnu ôl-gerbydau sydd â MAM o hyd at 750kg. Nid yw'r gyfarwyddeb yn rhoi cyfyngiad ar uchafswm pwysau cerbydau categori C a bydd y cyfyngiadau cenedlaethol yn berthnasol. Er mwyn cael yr hawl hon, rhaid i bawb sydd â thrwydded categori B basio profion theori ac ymarferol ar gyfer categori C. (Nid oes rhaid cael hawl i is-gategori C1 yn gyntaf.)

Categori C+E: Cerbydau nwyddau mawr sydd â MAM o dros 3.5 tunnell yn tynnu ôl-gerbyd sydd â MAM o dros 750kg

Gall cerbydau categori C+E dynnu ôl-gerbyd sydd â MAM o dros 750kg. Nid yw'r gyfarwyddeb yn rhoi uchafswm pwysau ar gyfer categori C+E a bydd y cyfyngiadau cenedlaethol yn berthnasol. Er mwyn cael yr hawl hon, rhaid i'r rheiny sydd â thrwydded categori B basio profion pellach - categori C (theori ac ymarferol) a phrawf ymarferol C+E ar ôl hynny. Nid oes prawf theori ar gyfer categori C+E. (Nid oes angen cael hawl i is-gategori C1 neu C1+E yn gyntaf).

Categori D: Cerbyd cludo teithwyr gyda mwy nag wyth sedd

Gall cerbydau categori D dynnu ôl-gerbyd sydd â MAM o dros 750kg. Nid yw'r gyfarwyddeb yn rhoi uchafswm pwysau ar gyfer categori D a bydd y cyfyngiadau cenedlaethol yn berthnasol. Er mwyn cael yr hawl hon, rhaid i'r rheiny sydd â thrwydded categori B basio profion theori ac ymarferol ar gyfer categori D. (Nid oes angen cael hawl i is-gategori D1 yn gyntaf.)

Categori D+E: Cerbyd cludo teithwyr sydd â mwy nag wyth sedd ac ôl-gerbyd gyda MAM o dros 750kg

Gall cerbydau categori D+E dynnu ôl-gerbyd sydd â MAM o dros 750kg. Nid yw'r gyfarwyddeb yn rhoi uchafswm pwysau ar gyfer categori D+E a bydd y cyfyngiadau cenedlaethol yn berthnasol. Er mwyn cael yr hawl hon, rhaid i'r rheiny sydd â thrwydded categori B basio profion pellach - categori D (theori ac ymarferol) a phrawf ymarferol D+E ar ôl hynny. Nid oes prawf theori ar gyfer categori D+E. (Nid oes angen cael hawl i is-gategori D1 neu D1+E yn gyntaf.)

Additional links

Ydy’ch cerbyd oddi ar y ffordd?

Cadwch eich cerbyd wedi’i yswirio, neu gwnewch ddatganiad HOS gyda DVLA - neu gallech wynebu cosb

Ffioedd profion gyrru

Cael gwybod y gost o brofion gyrru theori ac ymarferol pan fyddwch yn archebu ar Cross & Stitch

Allweddumynediad llywodraeth y DU