Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Tynnu ôl-gerbydau neu garafanau gyda cherbydau hyd at 3.5 tunnell

Yn yr erthygl hon, ceir cyfeiriad at uchafswm màs awdurdodedig (MAM) cerbydau ac ôl-gerbydau. Ystyr hyn yw'r pwysau mwyaf a ganiateir, sy'n cael ei adnabod hefyd fel pwysau gros y cerbyd.

Categori B: Cerbydau sydd â MAM o hyd at 3.5 tunnell a hyd at wyth sedd i deithwyr

Gall cerbydau categori B dynnu ôl-gerbyd sydd â MAM o hyd at 750kg (gan ganiatáu pwysau MAM o hyd at 4.25 tunnell gyda'i gilydd) neu ôl-gerbyd gyda MAM o dros 750kg ar yr amod nad yw MAM yr ôl-gerbyd yn fwy na phwysau'r cerbyd tynnu heb lwyth, ac nad oes gan y cyfuniad MAM o fwy na 3.5 tunnell.

Er enghraifft:

  • gall person sydd â hawl categori B yrru cerbyd gyda phwysau heb lwyth o 1.25 tunnell a MAM o 2 dunnell, sy'n tynnu ôl gerbyd gyda MAM o 1.25 tunnell. Y rheswm dros hyn yw nad yw MAM y cyfuniad yn fwy na 3.5 tunnell ac nad yw MAM yr ôl-gerbyd yn fwy na phwysau'r cerbyd tynnu heb lwyth

Ar y llaw arall

  • mae'r un cerbyd gyda phwysau heb lwyth o 1.25 tunnell a MAM o 2 dunnell, wrth dynnu ôl-gerbyd gyda MAM o 1.5 tunnell, yn perthyn i gategori B+E. Mae hyn am fod MAM yr ôl-gerbyd yn fwy na phwysau'r cerbyd tynnu heb lwyth, er bod pwysau'r ddau o'u cyfuno o fewn y cyfyngiad MAM o 3.5 tunnell
  • Bydd gwneuthurwyr cerbydau fel rheol yn argymell uchafswm pwysau ar gyfer ôl-gerbyd sy'n addas i'w cerbyd. Gellir cael manylion fel arfer yn llawlyfr gwneuthurwr y cerbyd neu gan werthwyr ceir. Byddai maint yr ôl-gerbyd sy'n cael ei argymell ar gyfer car teulu arferol, gyda phwysau heb lwyth o tua 1 tunnell, yn perthyn yn braf o fewn cyfyngiadau categori B.

Tynnu carafanau

Ynghylch tynnu carafanau, mae'r canllawiau sy'n bodoli'n barod yn argymell nad yw pwysau'r garafán gyda llwyth yn fwy na 85 y cant o bwysau'r car heb lwyth. Yn y rhan fwyaf o achosion, dylai carafanau ac ôl-gerbydau bach sy'n cael eu tynnu gan geir fod o fewn cyfyngiadau newydd categori B.

Un eithriad rhag y cyfyngiadau ar drwyddedu gyrwyr gydag ôl-gerbydau yw bod hawl gan rywun sydd â thrwydded categori B i dynnu cerbyd sydd wedi torri i lawr o safle lle y byddai fel arall yn achosi perygl neu rwystr i ddefnyddwyr eraill ar y ffordd.

Drwy basio prawf categori B, bydd categorïau cenedlaethol F (tractor), K (cerbyd a reolir gan rywun ar droed) a P (moped) yn dal i gael eu hychwanegu'n awtomatig.

Categori B+E: Cerbydau gyda MAM o hyd at 3.5 tunnell yn tynnu ôl-gerbydau gyda MAM o dros 750kg

Mae categori B+E yn caniatáu i gerbydau sydd â MAM o hyd at 3.5 tunnell dynnu ôl-gerbydau sydd â MAM o dros 750kg. Er mwyn cael yr hawl hon, mae'n rhaid i'r rheiny sydd â thrwydded newydd categori B basio prawf ymarferol pellach ar gyfer categori B+E. Nid oes prawf theori ar gyfer categori B+E. At ddibenion trwyddedu gyrwyr, nid oes cyfyngiadau ar gymarebau pwysau cerbyd/ôl-gerbyd yng nghategori B+E.

Additional links

Ydy’ch cerbyd oddi ar y ffordd?

Cadwch eich cerbyd wedi’i yswirio, neu gwnewch ddatganiad HOS gyda DVLA - neu gallech wynebu cosb

Ffioedd profion gyrru

Cael gwybod y gost o brofion gyrru theori ac ymarferol pan fyddwch yn archebu ar Cross & Stitch

Allweddumynediad llywodraeth y DU