Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Gwnewch yn siŵr bod eich cerbyd wedi'i yswirio: cosbau ar gyfer cerbydau modur heb yswiriant

O ganlyniad i’r ddeddf yswiriant cerbydau, bydd rhaid i geidwad cofrestredig cerbyd wneud yn siŵr bod y cerbyd wedi'i yswirio'n barhaus oni bai ei fod wedi gwneud datganiad Hysbysiad Oddi ar y Ffordd Statudol (HOS). Os nad oes gennych chi yswiriant ac os nad ydych wedi gwneud datganiad HOS, gallech gael eich cosbi. Yma, cewch wybod beth mae’r ddeddf yn ei olygu i chi.

Y ddeddf yswiriant cerbydau – peidiwch â chael eich dal heb yswiriant

Cofiwch y gyfraith – cofiwch yswirio

Drwy ddilyn y ddolen isod, gallwch wylio fideo am y rheolau ynghylch yswiriant a'r cosbau y gallech eu hwynebu

Os ydych chi’n geidwad cofrestredig ar gerbyd, rhaid bod gan y cerbyd yswiriant drwy'r amser.

Dyma'r eithriadau:

  • os ydych chi wedi gwneud datganiad HOS ar gyfer y cerbyd
  • os ydych chi wedi cadw eich cerbyd oddi ar y ffordd ers cyn i HOS ddod i rym ar 31 Ionawr 1998 – oni bai fod y cerbyd wedi dechrau cael ei ddefnyddio eto
  • os yw’ch cerbyd wedi cael ei gofnodi fel cerbyd wedi'i ddwyn, wedi’i drosglwyddo neu wedi’i werthu i’r diwydiant moduro neu rhwng ceidwaid cofrestredig
  • os yw'ch cerbyd wedi cael ei gofnodi fel cerbyd wedi’i sgrapio neu ei allforio gan yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA)

Beth fydd yn digwydd os nad oes gan eich cerbyd yswiriant

Ar ôl gwirio'r Gronfa Ddata Yswiriant Cerbydau – sef y cofnod canolog o yswiriant cerbydau'r DU – mae’r Ganolfan Yswirwyr Cerbydau yn anfon Llythyrau Cyngor Yswiriant at geidwaid cofrestredig cerbydau heb yswiriant. Bydd y llythyrau hyn yn dweud wrth y ceidwad cofrestredig nad oes gan ei gerbyd yswiriant yn ôl pob golwg, a pha gamau y dylai eu dilyn i osgoi cael cosb benodedig gan DVLA.

Os nad oes gan gerbyd yswiriant, gallai'r ceidwad cofrestredig wynebu'r canlynol:

  • cosb ariannol benodedig o £100
  • olwynion y cerbyd yn cael eu clampio, neu’r car yn cael ei lusgo i ffwrdd neu ei ddinistrio
  • cael ei erlyn gan y llys, gyda hyd at £1000 o ddirwy bosib

Nid yw talu cosb ariannol yn dileu’r angen am yswiriant cerbyd.

Sut mae osgoi cael cosb

Dylai fod manylion pob cerbyd sydd wedi'i yswirio fod wedi’u cynnwys ar y Gronfa Ddata Yswiriant Cerbydau. Gallwch wneud yn siŵr bod manylion eich yswiriant cerbyd wedi'u cynnwys ar y gronfa ddata a'u bod yn gywir drwy ddilyn y ddolen isod.

Os yw’r manylion yn anghywir, neu os nad ydynt ar y gronfa ddata, dylech gysylltu â'ch cwmni yswiriant ar unwaith. Dim ond eich cwmni yswiriant all ddiweddaru’r wybodaeth ar y Gronfa Ddata Yswiriant Cerbydau.

Os nad yw’ch cerbyd wedi’i yswirio:

  • ewch ati i yswirio eich cerbyd ar unwaith
  • gwnewch ddatganiad HOS, hyd yn oed os nad yw’r cerbyd yn cael ei ddefnyddio ar y ffordd
  • rhowch wybod i DVLA nad chi yw’r ceidwad cofrestredig mwyach

Os byddwch chi’n peidio â dilyn un o'r camau hyn, fe gewch chi ddirwy o £100.

Ydych chi’n torri’r gyfraith?

Os nad ydych chi’n defnyddio eich cerbyd, dylech wneud datganiad HOS. Os ydych yn defnyddio’r cerbyd, rhaid bod ganddo yswiriant

Bydd rhaid i chi ddychwelyd eich disg treth i DVLA er mwyn gallu tynnu eich cerbyd oddi ar y ffordd a chanslo eich yswiriant.

Rhaid dychwelyd y ddisg treth ar ffurflen V14W (ffurflen gais am ad-daliad disg treth) a datgan HOS yr un pryd.

Sut mae’r ddeddf hon yn effeithio ar gerbyd sy'n cael ei ddefnyddio yn ystod yr haf yn unig?

Os oes gennych chi gerbyd sydd heb ei yswirio ond ei fod yn cael ei drethu, gallech gael eich cosbi. Mae hyn yn cynnwys cartrefi modur, beiciau modur a cheir clasurol – pob math o gerbyd y mae pobl weithiau yn eu gadael heb yswiriant am ran o'r flwyddyn. Os yw hyn yn berthnasol i chi, bydd angen i chi ddychwelyd y ddisg treth ar ffurflen V14W(gan gynnwys disgiau dim gwerth) a datgan HOS yr un pryd.

A yw hyn yn effeithio ar geir clasurol/hen geir?

Os oes gennych gerbyd a gafodd ei gynhyrchu cyn 1 Ionawr 1973 ac nad oes rhaid i chi dalu am y ddisg treth ar ei gyfer, bydd DVLA yn dal i'w ystyried yn gerbyd wedi'i drethu. Os yw'ch cerbyd wedi’i drethu, mae’n rhaid bod ganddo yswiriant oni bai y byddwch yn dychwelyd eich disg treth ar ffurflen V14W ac yn datgan HOS yr un pryd.

Sut mae hyn yn effeithio ar gerbydau a oedd yn bodoli cyn i HOS ddod i rym?

Mae cerbydau sydd wedi’u cadw oddi ar y ffordd ers cyn i HOS ddod i rym ar 31 Ionawr 1998 wedi’u heithrio rhag y ddeddf hon. Os byddant yn dechrau cael eu defnyddio eto, ni fyddant wedi’u heithrio dim mwy. Os ydych am ddechrau defnyddio'r cerbyd unwaith eto, bydd angen i chi ei drethu a’i yswirio. Dilynwch y ddolen isod i wneud hyn.

Beth os oes gan eich cerbyd rif cofrestru personol?

Os byddwch chi’n newid rhif cofrestru eich cerbyd, dylech roi gwybod i'ch cwmni yswiriant. Os na fyddwch chi’n rhoi gwybod iddynt, gallech gael Llythyr Cyngor Yswiriant a fydd yn dweud wrthych nad yw eich cerbyd wedi cael ei yswirio.

Pam fyddai rhywun yn cael llythyr ynghylch cerbyd nad yw yn ei feddiant mwyach?

Pan gafodd cofnod y cerbyd ei gymharu â'r Gronfa Ddata Yswiriant Cerbydau, y person hwnnw oedd wedi'i nodi fel y ceidwad cofrestredig. Dyna pam yr anfonwyd y llythyr. Bydd y llythyr yn egluro pa gamau y mae angen eu dilyn er mwyn rhoi gwybod bod y ceidwad wedi newid. Dilynwch y dolenni isod os nad yw'r cerbyd yn eich meddiant mwyach.

Beth os ydw i’n symud dramor ac yn mynd â'm cerbyd gyda mi?

Os bydd y cerbyd dramor am lai na chwe mis, bydd y cerbyd yn dal yn gaeth i ddeddfau moduro'r DU a byddai angen ei yswirio.

Os bydd y cerbyd yn mynd dramor yn barhaol, dilynwch y ddolen isod i gael mwy o fanylion.

Sut mae'r ddeddf hon yn effeithio ar y Gofrestr Oddi ar y Ffordd?

Nid yw’r ddeddf yn effeithio ar feiciau oddi ar y ffordd na pheiriannau adeiladu sydd ar y Gofrestr Oddi ar y Ffordd. Os byddant yn cael eu cofrestru i’w defnyddio ar y ffordd gyhoeddus yn nes ymlaen, bydd y ddeddf yn effeithio arnynt.

Ymhle mae’r ddeddf yn berthnasol?

Mae’r ddeddf yn berthnasol yng Nghymru, yn Lloegr ac yn yr Alban. Nid yw’n berthnasol yng Ngogledd Iwerddon, yn Ynysoedd y Sianel nac yn Ynys Manaw.

Pethau i’w cofio

I grynhoi, os yw’ch cerbyd ar y ffordd, mae’n rhaid bod ganddo dreth ac yswiriant bob amser neu fe allech wynebu cosb ariannol.

Os yw eich cerbyd:

  • wedi cael ei drethu a’i yswirio – does dim angen i chi wneud dim byd nes bydd eich treth a’ch yswiriant yn dod i ben
  • wedi cael ei drethu ond heb ei yswirio – bydd rhaid i chi yswirio eich cerbyd, neu wneud cais am ad-daliad gyda datganiad HOS i DVLA os yw'ch cerbyd oddi ar y ffordd
  • heb gael ei drethu na’i yswirio – bydd rhaid i chi wneud datganiad HOS a chadw’r cerbyd oddi ar y ffordd
  • wedi'i yswirio ond heb gael ei drethu – bydd rhaid i chi wneud datganiad HOS a chadw’ch cerbyd oddi ar y ffordd

Cael y fargen yswiriant orau

Gallwch gael awgrymiadau a chyngor arbenigol ar leihau eich costau yswiriant ar wefan Stay Insured. Dilynwch y ddolen isod i gael gwybod rhagor.

Allweddumynediad llywodraeth y DU