Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Yswiriant cerbyd modur

Rhaid i chi gael yswiriant ar eich cerbyd modur cyn y cewch ei yrru mewn lle cyhoeddus. Mae yswiriant cerbyd modur yn eich gwarchod chi, eich cerbyd a modurwyr eraill yn erbyn atebolrwydd os ydych mewn damwain. Gall ddarparu iawndal i dalu am unrhyw anafiadau a achoswyd i bobl neu ddifrod a achoswyd i eiddo.

Mathau o yswiriant

Trydydd parti yn unig

Mae'r gyfraith yn mynnu bod gennych o leiaf y warchodaeth hon. Mae'r lefel hon o warchodaeth yn sicrhau bod iawndal ar gael os caiff rhywun arall ei anafu (yn cynnwys unrhyw deithwyr yn eich cerbyd) neu os caiff eiddo rhywun arall ei ddifrodi yn sgil damwain a achoswyd gennych chi. Ni fydd yn ad-dalu eich costau chi o ganlyniad i ddamwain.

Mae'r rhan fwyaf o gwmnïau yswiriant yn cynnig lefelau ychwanegol o warchodaeth sy'n mynd y tu hwnt i'r gofyniad cyfreithiol. Bydd union natur y warchodaeth hon yn amrywio o un cwmni i'r llall.

Trydydd parti, tân a lladrad

Mae hwn yn cynnwys yr un warchodaeth â thrydydd parti yn unig, ond mae'r cwmni yswiriant yn yswirio'ch cerbyd os yw'n cael ei ddifrodi gan dân neu os yw'n cael ei ddwyn.

Cynhwysfawr

Mae hwn yn cynnwys yr un warchodaeth â thrydydd parti, tân a lladrad. Ond mae hefyd yn eich gwarchod os caiff eich cerbyd ei ddifrodi mewn damwain. Mae cwmnïau'n cynnig llawer o bethau sy'n ychwanegol at y lefel hon o warchodaeth, yn cynnwys:

  • darparu car cwrteisi tra bo'ch car yn cael ei atgyweirio
  • costau cyfreithiol i adennill y colledion a wynebwch sydd heb eu hyswirio (er enghraifft eich gor-dâl)
  • cynlluniau cludo-i'r-garej os yw'ch cerbyd yn torri lawr
  • trwsio'ch cerbyd os yw'n torri lawr

Os ydych chi mewn damwain

Os ydych chi'n cael damwain sy'n achosi difrod neu niwed i unrhyw berson, cerbyd, anifail neu eiddo, rhaid i chi roi eich enw a'ch cyfeiriad ac enw a chyfeiriad perchennog y cerbyd, yn ogystal â rhif cofrestru'r cerbyd, i unrhyw un sydd â sail resymol i ofyn am y manylion.

Os nad ydych yn rhoi eich manylion, yna dylech roi gwybod i'r heddlu am y ddamwain cyn gynted â phosib o fewn 24 awr. Rhaid i chi hefyd roi gwybod i'ch cwmni yswiriant am y ddamwain, hyd yn oed os nad ydych yn bwriadu gwneud hawliad.

Os ydych chi mewn damwain â modurwr heb yswiriant

Dylech roi gwybod i'r heddlu am unrhyw ddamwain sy'n ymwneud â gyrrwr heb yswiriant. Dylech hefyd roi gwybod i'ch cwmni yswiriant am unrhyw ddamwain, a gallant roi cyngor i chi ynghylch unrhyw hawliad. Hefyd, mae'r Ganolfan Yswirwyr Modur yn sicrhau bod iawndal ar gael i ddioddefwyr diniwed sydd wedi cael damwain â gyrrwr heb yswiriant neu â gyrrwr sydd wedi dianc (heb roi manylion).

Yswiriant Modur yn y Deyrnas Unedig a gyrru dramor

Mae pob polisi DU yn darparu'r lefel isaf o warchodaeth sydd ei hangen yn gyfreithiol yng ngwledydd eraill yr Undeb Ewropeaidd neu'r lefel isaf o warchodaeth sydd ei hangen yn gyfreithiol yn y DU, os yw'r lefel honno'n uwch. Nid yw difrod i'ch car na lladrad yn cael eu cynnwys yn awtomatig yn y warchodaeth hon.

Wrth deithio dramor, mae'r rhan fwyaf o bobl am gael yr un lefel o warchodaeth ag sydd ganddynt yn y DU, er enghraifft, gwarchodaeth gynhwysfawr, trydydd parti, tân a lladrad. Felly, yn ogystal â gwarchodaeth am atebolrwydd trydydd parti, sef y lefel gyfreithiol isaf, gallai gynnwys difrod damweiniol i'ch cerbyd neu ladrad, yn dibynnu ar y polisi.

Mae nifer o gwmnïau yswiriant yn darparu'r warchodaeth estynedig hon fel mater o drefn am gyfnod penodol, yn aml heb godi ffi ychwanegol. Serch hynny, mae'n bwysig eich bod yn holi'ch cwmni yswiriant neu'ch ymgynghorydd yswiriant cyn mynd dramor.

Y System Cerdyn Gwyrdd a gyrru dramor

Y tu allan i'r UE, mae cerdyn gwyrdd yn dystiolaeth bod eich polisi yswiriant modur domestig yn cynnwys y lefel gyfreithiol isaf yn y wlad yr ydych yn ymweld â hi.

Allweddumynediad llywodraeth y DU