Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Gyrru heb yswiriant

Mae'n drosedd gyrru cerbyd ar ffordd neu mewn man cyhoeddus heb yswiriant yn erbyn risg trydydd parti. Mae gofyn bod gennych yr yswiriant priodol ar gyfer y cerbyd rydych chi’n bwriadu ei yrru, neu gallech gael hysbysiad cosb benodedig.

Y gost i chi

Mae gyrwyr heb yswiriant yn rhoi baich ariannol sylweddol ar fodurwyr eraill – oddeutu £380 miliwn bob blwyddyn neu oddeutu £30 o gost pob premiwm yswiriant. Mae'r difrod a wneir yn sgil damweiniau traffig ar y ffordd yn golygu bod y Ganolfan Yswirwyr Cerbydau (MIB) yn gorfod setlo nifer fawr o hawliadau.

Ond nid dyma’r unig gostau y mae ein cymdeithas yn eu hwynebu o ganlyniad i yrwyr heb yswiriant. Yn ôl gwaith ymchwil ac arolygon, mae gyrwyr heb yswiriant yn fwy tebygol o fod yn gysylltiedig â damweiniau traffig ar y ffordd, o beidio â dilyn arwyddion ac arwyddion traffig, ac, o bosib, o fod yn gysylltiedig â gweithgarwch troseddol arall.

Iawndal

Mae'r cytundeb gyrwyr heb yswiriant rhwng y llywodraeth a'r MIB yn sicrhau nad yw'r rhai dieuog sydd wedi dioddef yn sgil gyrwyr heb yswiriant yn mynd heb iawndal. Mae'r cytundeb yn darparu trefniadau i'r MIB dalu iawndal i'r rheini sy'n dioddef anaf personol neu ddifrod i'w heiddo o ganlyniad i ddamwain fodurol.

Mewn achosion lle na fu modd olrhain gyrwyr, dim ond ar gyfer difrod i eiddo lle mae'r cerbyd dan sylw wedi'i ddynodi y gellir hawlio iawndal.

Cydymffurfio a gorfodi

Mae'r Adran Drafnidiaeth wedi cyhoeddi pecyn mesurau i fynd i'r afael â'r oddeutu ddwy filiwn o fodurwyr sydd ar ein ffyrdd yn gyrru heb yswiriant. Daeth y mesurau yn dilyn argymhellion adolygiad yr Athro David Greenaway o yswiriant cerbydau modur yn y DU.

Mae trafodaethau rhwng yr Adran Drafnidiaeth, yr heddlu a'r diwydiant yswiriant yn mynd rhagddynt er mwyn canfod y ffordd fwyaf effeithiol o roi terfyn ar yrru heb yswiriant. Drwy ddarpariaethau Deddf Troseddu Cyfundrefnol Difrifol a'r Heddlu 2005, gall yr heddlu ddefnyddio'r Gronfa Ddata Yswiriant Cerbydau Modur ar y cyd â'u hoffer Darllen Platiau Rhif yn Awtomatig. O ganlyniad, mae'r heddlu yn dal oddeutu 1,500 o gerbydau heb yswiriant bob wythnos erbyn hyn.

Bydd y cynllun gorfodi yswiriant di-dor yn darparu cosb benodedig newydd ar gyfer pobl sy'n anwybyddu llythyrau atgoffa swyddogol bod eu hyswiriant wedi dod i ben. Bydd hyn yn berthnasol i gerbydau na chaiff eu datgan eu bod oddi ar y ffordd drwy'r Hysbysiad Oddi-ar-y-Ffordd Statudol (HOS) ac nad ydynt wedi'u hyswirio. Os bydd troseddwyr yn parhau i droseddu, mae'n fwy tebygol y caiff eu cerbyd ei feddiannu a'i ddinistrio.

Os nad yw cerbyd modur yn cael ei ddefnyddio ar ffordd neu mewn man cyhoeddus arall, nid oes rhaid prynu yswiriant ar gyfer risg 'ar y ffordd' ar yr amod bod datganiad HOS wedi'i wneud. Disgwylir i'r cynllun gorfodi yswiriant di-dor ddod i rym yn ystod 2011.

Cosbau

Adlewyrchir difrifoldeb y trosedd yn lefel y ddirwy eithaf, sef £5,000, ac wrth ardystio trwydded yrru'r troseddwr yn awtomatig gyda phwyntiau cosb yn amrywio o chwech i wyth pwynt. Gall y llysoedd orchymyn bod y troseddwr yn cael ei wahardd yn syth. Mae gan yr heddlu hefyd bwerau helaeth i atal cerbydau ac i archwilio tystysgrifau, ac mae hyn yn arwain at oddeutu 300,000 o euogfarnau am yrru heb yswiriant bob blwyddyn.

Cosbir gyrru heb yswiriant gan ddefnyddio'r system cosb benodedig. Gyda chosb benodedig o £200 a chwe phwynt cosb, mae modd gorfodi'r trosedd hwn yn fwy trylwyr. Mae'r posibilrwydd o roi cosb benodedig yn rhoi dewis arall i'r heddlu wrth iddynt ddelio â'r trosedd dan sylw, ond nid yw'n atal yr heddlu rhag erlyn mewn achosion priodol pan fyddant yn credu mai dyna’r peth gorau i’w wneud.

Mae gan yr heddlu'r grym i feddiannu cerbydau sy’n cael eu gyrru heb yswiriant, ac i’w dinistrio mewn rhai amgylchiadau. Dim ond drwy dalu'r gosb benodedig a chyflwyno tystysgrif yswiriant ddilys y rhyddheir unrhyw gerbyd a feddiannir yn unol â’r pwerau hyn. Dim ond i geidwad cofrestredig y cerbyd neu, os nad oes ceidwad cofrestredig, i'r person y tybir sy’n berchennog y rhyddheir y cerbyd. Gall yr heddlu waredu cerbydau sydd ddim yn cael eu hawlio o fewn amser penodedig.

Yn Neddf Diogelwch ar y Ffyrdd 2006, ceir darpariaethau ar gyfer dedfrydau mwy llym i rai sy'n lladd neu rai sydd mewn damweiniau wrth yrru heb yswiriant.

Allweddumynediad llywodraeth y DU