Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Prynu yswiriant cerbyd modur

Gallwch brynu yswiriant cerbyd modur mewn sawl ffordd. Mae dros 60 o gwmnïau yn darparu yswiriant yn y Deyrnas Unedig (DU). Mae rhai ohonynt yn delio'n uniongyrchol gyda chwsmeriaid, tra bo eraill yn cynnig polisïau drwy froceriaid yswiriant.

Sut i gael dyfynbris

Gall broceriaid yswiriant roi cyngor am yr amrywiol gynnyrch i'ch helpu i ddewis yr un sy'n gweddu orau i chi. Gallant chwilio'r farchnad ar eich rhan i ddod o hyd i'r dyfynbris gorau o blith y cwmnïau maent yn delio â nhw.

Fel arall, efallai eich bod am wneud y gwaith ymchwil eich hun a phrynu cynnyrch yn uniongyrchol gan y cwmni yswiriant dros y ffôn, wyneb yn wyneb neu dros y we. Mae'n ddigon hawdd cael gafael ar ddarparwyr a broceriaid yn y llyfr ffôn neu drwy chwilio ar y we.

Neu, gall fod yn fwy hwylus i chi brynu yswiriant wrth wneud rhywbeth arall, er enghraifft pan fyddwch yn y banc neu wrth siopa mewn archfarchnad.

Cwestiynau a ofynnir wrth wneud cais am yswiriant

Caiff pris yr yswiriant ei gyfrifo drwy bwyso a mesur pa mor debygol y mae'r gyrrwr o wneud hawliad. Gofynnir am lawer o wybodaeth wrth wneud cais am yswiriant. Fel arfer, bydd hyn yn cynnwys:

  • manylion y cerbyd
  • ar gyfer beth y defnyddir y cerbyd
  • ble fydd y cerbyd yn cael ei gadw
  • oedran a galwedigaeth y bobl a fydd yn gyrru'r cerbyd
  • unrhyw bwyntiau cosb ar eich trwydded yn dilyn euogfarnau am droseddau gyrru
  • unrhyw fonws dim-hawlio ac ers pryd rydych chi wedi bod yn gyrru
  • unrhyw hawliadau yswiriant diweddar

Mae'n hanfodol eich bod yn ateb yr holl gwestiynau hyn yn onest ac yn fanwl. Rhoddir dyfynbris i chi ar ôl casglu'r holl fanylion, ac os byddwch yn ei dderbyn yna anfonir y dogfennau yswiriant atoch.

Disgownt/bonws dim-hawlio

Os nad ydych yn gwneud hawliad bydd eich premiwm yn gostwng (gelwir hyn yn fonws dim-hawlio). Bydd y disgownt yn cynyddu o un flwyddyn i'r llall (hyd at bedair neu bum mlynedd fel arfer) a gall arwain at ostyngiad hyd at 75 y cant yng nghost eich yswiriant. Gallwch drosglwyddo'r disgownt o un cwmni yswiriant i'r llall.

Os ydych yn gwneud hawliad ac nid yw eich cwmni yswiriant yn gallu hawlio'r arian yn ôl gan rywun arall, mae'n bosib y byddwch yn colli rhan o'ch disgownt neu'r hyd yn oed y cyfan ohono. Bydd llawer o yswirwyr yn cynnig diogelu eich disgownt dim-hawlio am ffi ychwanegol, neu am ostyngiad bychan yng nghyfradd y disgownt.

Golyga hyn, hyd yn oed os ydych yn gwneud dau hawliad, er enghraifft, mewn cyfnod o dair blynedd, byddwch yn cael cadw eich disgownt dim-hawlio. Unwaith eto, mae'r arfer hwn yn amrywio o un cwmni i'r llall. Cofiwch mai eich disgownt sydd wedi'i ddiogelu - gall eich premiwm ddal i gynyddu oherwydd eich hanes o hawlio.

Gor-dâl polisi

Swm yw hwn a gytunwch i'w dalu os ydych yn gwneud hawliad. Fel arfer, mae'r swm yn amrywio o £100 i £250 ac, yn aml, mae'n agored i'w drafod. Os ydych chi'n fodlon talu mwy yna bydd premiwm eich yswiriant yn is. Pennir gor-dâl gorfodol yn ddieithriad bron os yw'r car am gael ei ddefnyddio gan yrrwr amhrofiadol.

Y dogfennau yswiriant y byddwch chi’n eu derbyn

Byddwch yn derbyn tair dogfen allweddol pan fyddwch yn prynu yswiriant modur, sef y dystysgrif, y polisi a'r atodlen.

Y dystysgrif

Mae hon yn cynnwys manylion y cerbyd a yswiriwyd, enw'r gyrrwr/gyrwyr sy'n cael defnyddio'r cerbyd, at ba ddefnydd yr yswiriwyd y cerbyd, a'r dyddiadau y mae'r polisi mewn grym. Hon yw'r ddogfen sy'n darparu tystiolaeth gyfreithiol bod gennych warchodaeth yswiriant a bydd ei hangen os digwydd damwain, pan fydd angen trethu'r cerbyd neu os bydd yr heddlu yn gofyn i chi ei chyflwyno.

Y polisi

Hwn sy'n amlinellu telerau ac amodau gwarchodaeth yr yswiriant.

Yr atodlen

Mae hon yn rhoi manylion eich polisi megis y gor-dâl, y disgownt dim-hawlio a pha rannau o'r polisi sy'n berthnasol yn eich achos chi (ee a yw'r warchodaeth yn gynhwysfawr).

Mae'n bosib y byddwch yn cael nodyn yswiriant dros-dro pan fyddwch yn codi polisi yswiriant am y tro cyntaf. Bydd y nodyn dros-dro hwn yn gyfystyr â thystysgrif a pholisi dros-dro tra bo'r dogfennau llawn yn cael eu llunio.

Mae'n bwysig iawn eich bod yn taro golwg fanwl dros eich dogfennau yswiriant i sicrhau bod y manylion yn gywir, ac os nad ydynt, rhaid eu diwygio.

Allweddumynediad llywodraeth y DU