Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Y Gronfa Ddata Yswiriant Cerbydau Modur (MID)

Mae'n rhaid i bob yswiriwr roi manylion eich yswiriant cerbyd modur ar y Gronfa Ddata. Nid yw bod wedi'ch yswirio yn ddigon bellach, mae'n rhaid i bob cerbyd fod wedi'i restru ar y Gronfa Ddata.

Swyddogaeth y Gronfa Ddata

Mae'r heddlu'n defnyddio data o'r Gronfa Ddata hon i'w helpu i ddal pobl sy'n gyrru heb yswiriant. Os nad yw'ch manylion wedi'u rhoi ar y Gronfa Ddata fe allwch gael eich stopio gan yr heddlu. Mae eich cerbyd mewn perygl o gael ei gymryd oddi arnoch os nad yw'r manylion cywir wedi'u cofrestru.

Yn achos unigolion preifat, cyfrifoldeb y darparwr yswiriant yw sicrhau bod manylion polisi, neu newidiadau iddo, ar y Gronfa Ddata cyn pen saith niwrnod wedi'r dyddiad gweithredol.

Yn achos cerbydau cwmni, cyfrifoldeb deilydd y polisi yw sicrhau y rhoddir manylion eu cerbyd cwmni ar y Gronfa Ddata. I gael gwybod mwy am hyn, mae croeso i chi gysylltu â'ch darparwr yswiriant.

Gwirio bod eich cerbyd ar y Gronfa Ddata

Erbyn hyn, mae modd i chi wirio bod eich cerbyd wedi'i gofrestru ar y Gronfa Ddata. Drwy gyflwyno eich hun i Askmid a dilyn y cyfarwyddiadau gallwch gadarnhau yn hwylus ac yn hawdd bod eich manylion yswiriant cerbyd wedi cael eu cofrestru.

Rhowch rif cofrestru eich cerbyd a chadarnhau mai chi neu eich cyflogwr yw perchennog y car, mai chi neu eich cyflogwr sydd wedi'i gofrestru a'i yswirio, ac mai chi sy'n ei yrru'n rheolaidd. Wedyn, cliciwch ar 'enter' a bydd y system yn dweud wrthych yn syth a oes polisi ar gyfer eich cerbyd wedi'i gofnodi ar y system ai peidio.

Cyfrifoldeb eich cwmni yswiriant yw sicrhau bod manylion eich polisi wedi'u cofnodi ar y Gronfa Ddata. Os nad oes cofnod o'ch yswiriant cerbyd ar system Askmid dylech gysylltu â'ch yswiriwr neu'ch brocer heb oedi.

Allweddumynediad llywodraeth y DU