Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Diben y system Cerdyn Gwyrdd yw ei gwneud hi'n haws i gerbydau symud yn rhwydd dros ffiniau ac amddiffyn buddiannau dioddefwyr cerbydau a gofrestrwyd dramor. Comisiwn Economaidd Ewrop yng Ngenefa sy'n goruchwylio'r system.
Dogfen yw'r Cerdyn Gwyrdd a gaiff ei chydnabod mewn dros 40 o wledydd gan gynnwys holl wledydd Ewrop.
Nid yw'n cynnig dim yswiriant. Mae'n brawf bod polisi yswiriant cerbyd y person yn cynnwys y gofynion cyfreithiol sylfaenol ar gyfer yswiriant atebolrwydd i drydydd parti mewn unrhyw wlad y mae'r Cerdyn Gwyrdd yn ddilys ar eu cyfer.
Yn ôl y gyfraith, nid oes angen y Cerdyn Gwyrdd i groesi ffiniau o fewn yr Undeb Ewropeaidd a rhai gwledydd eraill. Y rheswm dros hyn yw bod pob gwlad yn yr UE a rhai gwledydd penodol eraill yn cydymffurfio â'r gyfarwyddeb gyntaf ar yswiriant cerbydau sy'n datgan bod yn rhaid i bob polisi yswiriant a gyflwynir yn yr UE ddarparu'r warchodaeth yswiriant sylfaenol sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith mewn unrhyw wlad arall yn yr UE.
Does dim angen y Cerdyn Gwyrdd yn y gwledydd canlynol:
Andorra, Awstria, Gwlad Belg, Bwlgaria, Croatia, Cyprus, Gweriniaeth Tsiec, Denmarc, Estonia, Ffindir, Ffrainc, Yr Almaen, Groeg, Hwngari, Gwlad yr Iâ, Iwerddon, Yr Eidal, Latfia, Lithwania, Lwcsembwrg, Malta, Yr Iseldiroedd, Norwy, Gwlad Pwyl, Portiwgal, Romania, Gweriniaeth Slofac, Slofenia, Sbaen, Sweden, Swistir
Dyma'r gwledydd sydd angen y Cerdyn Gwyrdd:
Albania, Belarws, Bosnia a Herzegofina, cyn Weriniaeth Iwgoslafaidd Macedonia, Gweriniaeth Islamaidd Iran, Israel, Moldofa, Moroco, Rwsia, Serbia a Montenegro, Tiwnisia, Twrci, Wcráin.
Bydd llawer o yswirwyr yn rhoi Cerdyn Gwyrdd ond nid oes rhaid iddynt wneud hynny. Os na fyddant, efallai yr hoffech chi wneud ymholiadau gydag yswirwyr eraill neu holi am gael yswiriant ffin wrth i chi fynd i mewn i wlad.
Dim ond prawf yw dogfen y Cerdyn Gwyrdd y gweithredir y warchodaeth atebolrwydd sylfaenol i drydydd parti sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith yn y wlad yr ydych yn ymweld â hi. Dylech holi eich yswirwyr i sicrhau bod eich polisi yswiriant yn y DU yn gwbl weithredol pan fyddwch chi'n teithio dramor p'un ai bod Cerdyn Gwyrdd wedi'i roi ai peidio.
O fewn gwledydd yr UE lle na wneir archwiliadau ar y ffiniau rhagor, mae'r Cerdyn Gwyrdd yn parhau i fod y ddogfen yswiriant a gaiff ei chydnabod a'i deall yn rhwydd gan heddluoedd rhyngwladol. Efallai y bydd yn rhaid i chi gyflwyno tystiolaeth o yswiriant ar wahân i'r adeg pan fyddwch chi ar y ffin e.e. ar ôl damwain, felly mae'n werth meddwl cario Cerdyn Gwyrdd er mwyn osgoi unrhyw anghyfleustra.
Gweinyddir y system Cerdyn Gwyrdd yn y DU gan y Ganolfan Yswirwyr Cerbydau (MIB).
Y Ganolfan Yswirwyr Cerbydau
Linford Wood House
6-12 Capital Drive
Linford Wood
Milton Keynes
MK14 6XT
Ffôn: 01908 830001
Ffacs: 01908 671681