Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Yswiriant modur ar gyfer cerbydau a fewnforiwyd a cherbydau sy'n ymweld

Mae'n rhaid i bob gyrrwr sy'n defnyddio'r ffyrdd yn y Deyrnas Unedig (DU) gael yswiriant trydydd parti. Yn unol â Chyfarwyddeb Yswiriant Cerbydau Modur, a chithau'n yrrwr sy'n ymweld â'r Undeb Ewropeaidd o wladwriaeth nad yw'n aelod (ac eithrio cerbydau o Andorra, Croatia, Gwlad yr Iâ, Norwy a’r Swistir), rhaid i chi allu cyflwyno tystiolaeth bod yr yswiriant angenrheidiol gennych chi e.e. Cerdyn Gwyrdd.

Archwilir bod gennych yswiriant wrth i chi fynd i mewn i'r UE ac felly ni chaiff archwiliadau, fel arfer, eu cynnal ar ffiniau gwahanol wledydd fel mater o drefn.

Cerbydau a ddefnyddir dros dro yn y DU

Caiff cerbydau a gofrestrir mewn gwledydd eraill ac a yrrir i'r DU dros dro gan breswylwyr tramor eu heithrio fel arfer rhag cael eu cofrestru a'u trwyddedu yn y DU. Yn unol â Chyfarwyddeb y GE 83/182, caniateir i gerbydau'r UE a ddefnyddir o fewn neu rhwng Aelod-wladwriaethau'r Gymuned gael eu defnyddio ar ffyrdd cyhoeddus heb gofrestru na thalu trethi yn y wlad y maent yn ymweld â hi. Mae'r darpariaethau hyn yn cyfyngu ymweliadau i chwe mis mewn cyfnod o 12 mis ac mae'n rhaid i'r cerbyd gydymffurfio â gofynion cofrestru a thrwyddedu gwlad gartref y cerbyd.

Er mwyn cael eu heithrio, rhaid i gartref arferol yr ymwelydd fod y tu allan i'r wladwriaeth y maent yn ymweld â hi. Ystyrir mai eich cartref yw'r man ble mae person yn byw ynddo fel arfer am o leiaf 185 diwrnod ym mhob blwyddyn galendr oherwydd cysylltiadau personol a galwedigaethol â hi. Mater i'r heddlu yw gorfodi hyn a gallant ofyn i berson unrhyw bryd i ddangos eu bod yn gymwys i gael defnyddio'r cerbyd heb orfod ei gofrestru a'i drwyddedu yn y DU.

Rhaid i unrhyw gerbyd arall a ddefnyddir yn y wlad hon am fwy na chwe mis mewn unrhyw 12 mis gael ei gofrestru a'i drwyddedu yn y ffordd arferol drwy'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA). Ar ben hynny, pan fydd ceidwad y cerbyd yn dod i fyw yn y wlad hon, rhaid cofrestru a thrwyddedu'r cerbyd yn syth. Ar ôl cofrestru cerbyd yn y wlad hon, rhaid cael polisi yswiriant cerbydau modur gan yswiriwr modur a awdurdodwyd yn y DU er mwyn ei ddefnyddio.

Plismona troseddau traffig y ffyrdd

Mae deddfwriaeth traffig y ffyrdd yn berthnasol i bawb sy'n defnyddio ffyrdd yn y DU. Fodd bynnag, mae'r heddlu sy'n plismona traffig, yn wynebu anawsterau wrth ddelio â gyrwyr sy'n ymweld ac sy'n torri'r gyfraith yn y DU ond sydd yn aros am gyfnod byr yn unig. Mae hyn yn wir mewn meysydd eraill hefyd. Prif swyddogion unigol yr heddlu ddylai benderfynu pa gamau y dylid eu cymryd. Yn yr achosion mwyaf difrifol, gall yr heddlu arestio'r gyrrwr sy'n ymweld a'i ddwyn gerbron y llys am wrandawiad y diwrnod canlynol. Mae hyn yn sicrhau y gellir delio'n gyflym â gyrwyr sydd heb breswyliaeth sefydlog yn y wlad hon ac y cydymffurfir â'r ddedfryd.

Allweddumynediad llywodraeth y DU