Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os bydd ymwelwyr, myfyrwyr a gweithwyr yn dod i'r DU gyda cherbyd sydd â phlatiau rhif tramor, bydd rhaid iddynt ddilyn rheolau penodol. Yma cewch wybod beth yw’r rheolau, a beth y mae angen i chi ei wneud wrth ddod â cherbyd sydd â phlatiau rhif tramor i'r DU.
Fel arfer, gall ymwelwyr â’r DU nad ydynt yn bwriadu byw yma ddefnyddio cerbyd sydd â phlatiau rhif tramor am hyd at chwe mis mewn cyfnod o 12 mis. Gall hyn fod yn un ymweliad, neu’n sawl ymweliad byrrach, sy’n gwneud cyfanswm o chwe mis gyda’i gilydd. Yn ystod y cyfnod hwn, gall y cerbyd ddefnyddio platiau rhif tramor ar yr amod bod y cerbyd yn dal wedi'i gofrestru'n llawn a bod treth wedi'i thalu arno yn y wlad wreiddiol (y wlad lle mae'r gyrrwr yn byw).
Os bydd unrhyw un yn dymuno aros yn y DU am gyfnod hwy na chwe mis, fel arfer bydd angen iddynt gofrestru a threthu eu cerbyd gyda'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA). Ceir eithriadau ar gyfer myfyrwyr a gweithwyr sy’n byw y tu allan i’r DU fel arfer ond sydd yn y DU am gyfnod penodol i astudio neu i weithio. I gael mwy o wybodaeth am yr eithriadau hyn, dilynwch y ddolen isod.
Platiau rhif sydd ddim yn cael eu hadnabod yn y DU
Os ydych chi’n dod o wlad y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd (UE) ac yn gyrru cerbyd sydd â phlatiau rhif sy'n cynnwys rhifau nad ydynt yn cael eu hadnabod yn y DU (er enghraifft, sgript Arabeg), dilynwch y ddolen isod i gael gwybod beth ddylech chi ei wneud.
Os caiff cerbyd sydd wedi’i gofrestru y tu allan i’r UE ei fewnforio dros dro at ddibenion masnachol neu breifat, efallai y bydd modd i’r gyrrwr hawlio rhyddhad treth ar gostau tollau o ganlyniad i weithdrefn tollau a elwir yn ‘Mynediad Dros Dro – Hysbysiad Cyhoeddus 308’. I gael gwybod mwy am y ffurflen mynediad dros dro, neu i lwytho ac argraffu fersiwn bapur, dilynwch y ddolen isod.
Os bodlonir yr amodau yn Hysbysiad 308 Cyllid a Thollau EM, gall y cerbyd fynd drwy'r sianel 'dim byd i'w ddatgan' wrth gyrraedd y DU. Ar gyfer cerbydau defnydd preifat, gall y gyrrwr lenwi ffurflen hysbysu C110 Cyllid a Thollau EM.
I gael mwy o wybodaeth am ffurflen C110 neu i gael copi o ffurflen C110, dilynwch y ddolen isod. Gallwch hefyd gysylltu â Chyllid a Thollau EM drwy ffonio 0845 010 9000.
Os bydd yr heddlu’n eich stopio yn y cerbyd, eich cyfrifoldeb chi yw dangos eich bod yn cael defnyddio'r cerbyd yn y DU heb ei drethu na'i gofrestru yma. Efallai y gofynnir i chi ddangos prawf o hyd eich cyfnod yn y DU, megis tocyn fferi neu dystiolaeth eich bod chi a’ch cerbyd yn gymwys i gael rhyddhad treth ar dollau.
Os byddwch chi’n dod yn un o ddinasyddion y DU, mae’n bwysig cofio ei bod yn rhaid i chi drethu a chofrestru eich cerbyd yn y DU yn syth.
Nid yw trigolion y DU yn cael defnyddio cerbydau tramor cofrestredig ar ffyrdd y DU. Yr unig eithriad yw:
Yn achos myfyrwyr a gweithwyr nad ydynt yn dod o’r UE ac sy'n byw yn y DU dros dro tra byddant yn dilyn cwrs amser llawn neu’n gweithio yma am gyfnod byr, mae’n bosib y gallant ddefnyddio cerbydau o'r tu allan i’r UE heb eu trethu na’u cofrestru yma. Ond bydd rhaid bod y cerbyd wedi'i gofrestru'n llawn yn y wlad wreiddiol. Bydd angen i chi gysylltu â Chyllid a Thollau EM i lenwi hysbysiad rhyddhad tollau. Os hoffech chi gael gwybodaeth, ffoniwch Gyllid a Thollau EM ar 0845 010 9000.
Dylech gysylltu â Chyllid a Thollau EM cyn cyrraedd, neu wrth gyrraedd, y DU.
Os byddwch chi'n penderfynu aros yn y DU ar ôl i’ch rhyddhad tollau ddod i ben (ar ddiwedd y cyfnod astudio neu gyfnod gwaith fel arfer), bydd angen i chi gofrestru a threthu eich cerbyd gyda DVLA.
I gael gwybodaeth ynghylch sut mae cofrestru eich cerbyd ac i ddod o hyd i'ch swyddfa leol agosaf, cliciwch y ddolen ganlynol.
Os cewch wybod bod angen i gerbyd y mae rhyddhad tollau yn berthnasol iddo gael ei gofrestru a’i drethu yn y DU, bydd angen i chi lenwi ffurflen tollau C&E 388 ac anfon copi i roi gwybod i'r DVLA am y cyfyngiad tollau. Gallwch gael y ffurflen hon drwy gysylltu â’r Uned Genedlaethol ar gyfer Rhyddhad ar Fewnforion (NIRU).
Manylion cyswllt NIRU
NIRU
Abbey House
Head Street
Enniskillen
Swydd Fermanagh
BT 74 7JL