Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Cael plât rhif Q yn ystod ymweliad byr â'r DU

Os byddwch yn ymweld â'r DU gyda cherbyd sy'n dangos plât rhif â llythrennau nad ydynt yn adnabyddadwy yn y DU, bydd angen i chi wneud cais am blât rhif 'Q' dros dro y DU. Mynnwch wybod pa gerbydau y bydd angen plât rhif 'Q' arnynt a sut i gael un.

Cerbydau y mae angen plât rhif 'Q' dros dro y DU arnynt

Os byddwch yn ymweld â'r DU am hyd at chwe mis ac yn dod â'ch cerbyd gyda chi, efallai y bydd angen plât rhif dros dro y DU arnoch. Y cerbydau y mae angen plât rhif 'Q' dros dro y DU arnynt yw'r rheini sy'n dangos llythrennau a rhifau nad ydynt yn adnabyddadwy yn y DU. Er enghraifft, ni fyddai cerbyd sy'n dangos plât rhif ar sgript Arabeg yn adnabyddadwy yn y DU.

Caiff platiau 'Q' dros dro eu rhoi i gerbydau nad ydynt wedi'u cofrestru yn eu mamwlad ond y mae angen eu cofrestru yn y DU.

Mae angen i gerbydau sy'n aros yn y DU am fwy na chwe mis gael eu cofrestru a'u trwyddedu yma. Fodd bynnag, ceir eithriadau i fyfyrwyr a gweithwyr sydd fel arfer yn byw y tu allan i'r DU ac sydd ond yn y DU am gyfnod astudio neu weithio penodol.

Cael plât rhif 'Q' dros dro ar gyfer eich cerbyd

Pan fyddwch yn ymweld â'r DU ac yn dod â'ch cerbyd gyda chi, byddwch yn ei fewnforio dros dro. Os byddwch yn mewnforio cerbyd nad yw wedi'i gofrestru yn yr UE dros dro, ac y caiff rhyddhad treth ar dollau ei hawlio o dan 'Mynediad Dros Dro', bydd angen i chi gysylltu â'r Uned Genedlaethol ar gyfer Rhyddhad ar Fewnforion (NIRU).

Cyhyd â'ch bod chi a'ch cerbyd yn bodloni'r amodau a nodir gan Gyllid a Thollau EM (CThEM), gall yr NIRU o fewn CThEM stampio cefn eich ffurflen hysbysu C110 pan fyddwch yn cyrraedd ac yn gadael.

Os na wnaethoch gwblhau ffurflen hysbysu C110 pan gyrhaeddoch y DU, bydd angen i chi ei chwblhau cyn gynted â phosibl a'i hanfon i'r NIRU.

Manylion cyswllt yr NIRU

NIRU
Abbey House

Head Street
Enniskillen
County Fermanagh
BT74 7JL

Anfon eich ffurflen hysbysu C110 i'r RAC neu'r DVLA

Ar ôl i'ch ffurflen hysbysu C110 wedi'i stampio/chymeradwyo gael ei dychwelyd i chi gan y Tollau, bydd angen i chi ei hanfon i'r RAC ym Mryste neu swyddfa leol y DVLA yn Wimbledon ar ôl cyrraedd y DU. Bydd angen i chi anfon y dogfennau canlynol hefyd:

  • tystysgrif cofrestru dramor
  • manylion adnabod personol fel eich pasbort
  • dogfen yswiriant (gall fod yn dderbyniol i dramorwyr ddefnyddio yswiriant cerdyn gwyrdd dros dro yn y DU)
  • manylion cyswllt cyfeiriad yn y DU a man mynediad i'r DU

Pan fydd yr RAC ym Mryste neu'r swyddfa leol yn Wimbledon wedi cael eich dogfennau, byddant yn anfon y canlynol atoch:

  • manylion rhif cofrestru 'Q' dros dro y DU
  • cerdyn cofrestru V573 dros dro

Nid yw'r swyddfa leol yn Wimbledon na'r RAC yn codi ffi am y gwasanaeth hwn ar hyn o bryd.

Cyfeiriadau'r RAC a swyddfa leol y DVLA yn Wimbledon

Anfonwch eich ffurflen hysbysu C110 wedi'i stampio i'r RAC neu swyddfa leol y DVLA yn Wimbledon.

Bristol RAC motoring organisation

Wimbledon DVLA local office

RAC Carnets
Great Park Road
Bradley Stoke
Bristol
BS32 4QN

Connect House
133-137 Alexandra Road
Wimbledon
SW19 7J

Ffôn: 08000 468 375

Ffôn: 0300 790 6802

Ar ôl i chi gael cerdyn cofrestru V573 dros dro

Ar ôl i chi gael eich cerdyn cofrestru V573 dros dro, bydd angen i chi fynd ag ef at gyflenwr platiau rhif. Er nad oes dyddiad dod i ben ar y cerdyn cofrestru hwn, caiff y plât Q dros dro ei roi ar sail y ddealltwriaeth mai rhywbeth i'w arddangos dros dro ydyw tra bod rhywun o'r tu allan i'r DU yn teithio yn y DU yn ystod ei ymweliadau. Ni ddylai ymweliadau o'r fath bara am fwy na chwe mis.

Bydd y cyflenwr platiau rhif yn gallu creu platiau rhif 'Q' newydd y DU ar gyfer eich cerbyd.

Efallai y bydd y cyflenwr yn gofyn i chi ddangos manylion adnabod fel eich pasbort. Bydd cyflenwr y plât rhif yn codi ffi am wneud y platiau.

Allweddumynediad llywodraeth y DU