Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cydrannau sy’n cael eu harchwilio yn ystod Cymeradwyaeth Cerbyd Sengl

Mae’r rhan fwyaf o'r eitemau sy'n cael eu harchwilio dan y cynllun Cymeradwyaeth Cerbyd Sengl (SVA) yr un fath â’r rheini sy'n cael eu profi pan fydd gwneuthurwyr yn gwneud cais am gymeradwyaeth math ar gerbydau sy'n cael eu masgynhyrchu. Isod, cewch wybod pa gydrannau sy’n cael eu harchwilio yn ystod archwiliad SVA.

Y cydrannau sy’n cael eu harchwilio

Mae’r tabl canlynol yn rhestru'r eitemau sy’n cael eu harchwilio ar gyfer y ddwy lefel SVA ar gyfer cerbydau ‘Diben Arbennig’ nwyddau ysgafn . Bydd yr holl eitemau ar gyfer SVA Safonol yn cael eu harchwilio yng ngorsaf brofi'r Asiantaeth Gwasanaethau Cerbydau a Gweithredwyr (VOSA). Fodd bynnag, ni ellir archwilio eitemau ar gyfer SVA Uwch (ESVA) yn yr orsaf brofi. Bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth ddogfennol ar gyfer eitemau o’r fath er mwyn cydymffurfio, fel yr eglurir isod.

Eitemau sy'n cael eu harchwilio yn ystod SVA Eitemau ychwanegol ar gyfer SVA Uwch

Gollyngiadau o'r egsôst

Tystiolaeth o gydymffurfio â safonau cymeradwyaeth math neu safonau derbyniol tebyg.

Efallai y bydd angen prawf annibynnol.

Brêcs

Tystiolaeth o gydymffurfio â safonau cymeradwyaeth math neu safonau derbyniol tebyg.

Sŵn ac offer distewi

Tystiolaeth o gydymffurfio â safonau cymeradwyaeth math neu safonau derbyniol tebyg.

Efallai y bydd angen prawf annibynnol.


Cymeradwyaeth Cerbyd Sengl Uwch

Bydd yn rhaid i gerbydau sy’n cael archwiliad ESVA fodloni gofynion SVA Safonol, yn ogystal â’r eitemau diogelwch, amgylcheddol a sicrwydd ychwanegol a restrir uchod. Bydd cerbydau’n cael eu harchwilio mewn gorsaf brofi VOSA i sicrhau eu bod yn cyd-fynd ag unrhyw dystiolaeth ddogfennol a ddarperir.

Allweddumynediad llywodraeth y DU