Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Y ffurflenni Cyllid a Thollau EM sydd eu hangen i gofrestru cerbyd sydd wedi'i fewnforio

Bydd angen i unrhyw gerbyd sy'n cael ei fewnforio i Wledydd Prydain gael ffurflenni Cyllid a Thollau EM er mwyn gallu cofrestru'r cerbyd i'w ddefnyddio ar y ffordd. Bydd y ffurflenni hynny'n dibynnu ar y wlad dan sylw.

Cerbydau wedi'u mewnforio o'r Undeb Ewropeaidd

Mae’r tabl isod yn rhestri’r ffurflenni y gellir eu defnyddio wrth fewnforio eich cerbyd o wlad sy’n rhan o’r Undeb Ewropeaidd.

Ffurflen

Disgrifiad o'r ffurflen

BFG414

Mae'r ffurflen hon yn cael ei rhoi i bob cerbyd sydd wedi'i eithrio gan y tollau, waeth pa mor hen, sydd wedi dod i feddiant personol personél Lluoedd Arfog Prydain yn yr Almaen o fewn yr Undeb Ewropeaidd

VAT415

Rhaid i'r ffurflen hon gael ei llenwi gan unigolion sydd wedi meddu'n bersonol ar fath newydd o gerbyd (NMT) mewn aelod-wladwriaeth arall. Mae'r ffurflen ar gael mewn swyddfeydd DVLA lleol ac ar ôl ei llenwi bydd yn cael ei hanfon ymlaen i Gyllid a Thollau EM. Gellir cael y ffurflen hefyd o ganolfannau cyngor busnes TAW. Yn ôl diffiniad Cyllid a Thollau EM, cerbydau sy'n dod yn wreiddiol o'r Undeb Ewropeaidd yw cerbydau NMT, ac maen nhw naill ai'n llai na chwe mis oed neu wedi teithio llai na 6,000km (3,750 milltir)

VAT413

Mae'r ffurflen hon yn cael ei rhoi gan Gyllid a Thollau EM ar gyfer cerbydau NMT sydd wedi cael eu meddu'n bersonol o fewn yr UE a bod HMRC wedi cael gwybod yn uniongyrchol am hynny, yn hytrach na'r swyddfa DVLA leol

VAT414

Dim ond dan amgylchiadau penodol y gellir defnyddio'r ffurflen hunanddatgan hon *

*Gallai amgylchiadau penodol fod:

  • ar gyfer cerbydau NMT sy'n cael eu meddu'n fasnachol o fewn yr UE gan fasnachwyr cofrestredig sy'n talu TAW
  • ar gyfer cerbydau nad ydynt yn gerbydau NMT (h.y. dros chwe mis oed ac wedi teithio dros 6,000km) sydd wedi dod o'r UE

Aelod-Wladwriaethau'r Gymuned Ewropeaidd o 1 Ionawr 2004

Portiwgal, Sbaen, Iwerddon, y DU, Ffrainc, yr Eidal, Lwcsembwrg, Gwlad Belg, yr Iseldiroedd, Denmarc, yr Almaen, Awstria, Groeg, Sweden, y Ffindir, Cyprus, y Weriniaeth Tsiec, Estonia, Hwngari, Latfia, Lithwania, Malta, Gwlad Pwyl, Slofenia, Gweriniaeth Slofacia, Romania, Bwlgaria.

Cerbydau wedi'u mewnforio o'r tu allan i'r Undeb Ewropeaidd

Mae’r tabl isod yn rhestri’r ffurflenni y gellir eu defnyddio wrth fewnforio eich cerbyd o wlad sy’n rhan o’r Undeb Ewropeaidd.

Ffurflen

Disgrifiad o'r ffurflen

C & E 386

Mae'r ffurflen hon yn cael ei chyhoeddi gan Gyllid a Thollau EM ar gyfer cerbyd o unrhyw oed sy'n cael ei fewnforio'n bersonol o'r tu allan i'r UE

C & E 388

Mae'r ffurflen hon yn cael ei chyhoeddi gan Gyllid a Thollau EM ar gyfer cerbyd o unrhyw oed sy'n cael ei fewnforio'n bersonol o'r tu allan i'r UE, os oes cyfyngiadau tollau arno

C & E 389

Ffurflen hunanddatgan yw hon a ddylai gael ei defnyddio gan fasnachwyr cofrestredig sy'n talu TAW ar gyfer mewnforio'n fasnachol o'r tu allan i'r UE

Cyngor pellach am dollau a threthi mewnforio

Am ragor o gyngor am dollau a threthi mewnforio, cysylltwch â Gwasanaeth Cynghori Cyllid a Thollau EM.

Ffurflen
0845 010 9000

Gwefan

Allweddumynediad llywodraeth y DU