Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Trefnu prawf gyrru ymarferol swyddogol yr Asiantaeth Safonau Gyrru ar-lein

Y ffordd gyflymaf a hawsaf o drefnu prawf gyrru ymarferol swyddogol yr Asiantaeth Safonau Gyrru (DSA) yw ar-lein. Pan fyddwch chi’n defnyddio’r gwasanaeth swyddogol hwn i drefnu’ch prawf, dim ond am y prawf y byddwch chi'n talu – does dim ffi ychwanegol ar gyfer trefnu’r prawf.

Beth fydd ei angen arnoch

Pryd cewch chi drefnu’r prawf

Cewch drefnu’r prawf ar-lein rhwng 6.00 am a 11.40 pm

Mae’n cymryd tua 15 munud i drefnu eich prawf ymarferol ar-lein. Bydd arnoch angen y canlynol:

  • rhif eich trwydded yrru dros dro ddilys ym Mhrydain Fawr neu yng Ngogledd Iwerddon
  • manylion eich cerdyn credyd neu ddebyd
  • dyddiad pasio prawf theori a rhif y dystysgrif (os yn briodol)
  • rhif personol eich hyfforddwr gyrru fel eich bod yn gallu gwneud yn siŵr ei fod ar gael – ond gallwch drefnu prawf heb wneud hyn

Pryd cewch chi drefnu’r prawf ar-lein

Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth trefnu ar-lein rhwng 6.00 am a 11.40 pm, o ddydd Llun i ddydd Sul.

Rhif tystysgrif pasio prawf theori sydd ar goll

Gallwch ddod o hyd i rif eich tystysgrif pasio prawf theori ar-lein os ydych wedi colli’ch llythyr gwreiddiol.

Diogelu eich data

Darllenwch yr wybodaeth ganlynol ynghylch Deddf Diogelu Data 1998 – Hysbysiad Prosesu Teg ar gyfer DSA cyn i chi barhau.

Sut mae talu am eich prawf

Y gost

Pan fyddwch yn trefnu eich prawf ar wefan Cross & Stitch, dim ond am eich prawf ymarferol y byddwch chi'n talu – does dim ffi ychwanegol ar gyfer trefnu'r prawf

Dim ond y cardiau canlynol y gall DSA eu derbyn:

  • Delta
  • MasterCard
  • Visa
  • Visa Electron

Ailsefyll eich prawf

Os gwnaethoch sefyll eich prawf ymarferol heddiw a methu, gallwch sefyll prawf arall o’r un categori ar ôl:

  • tri diwrnod gwaith clir ar gyfer prawf modiwl un lori, bws neu feic modur
  • deg diwrnod gwaith clir ar gyfer prawf modiwl dau car neu feic modur

Help gyda'r gwasanaeth hwn

Gallwch wylio arweiniad fideo ynglŷn â threfnu eich prawf ymarferol ar-lein drwy glicio ar y ddolen isod.

Os cewch chi unrhyw broblemau wrth ddefnyddio’r gwasanaeth hwn, cysylltwch â thîm gwasanaethau cwsmeriaid DSA.

Darparwyd gan the Driving Standards Agency

Additional links

Angen newid eich prawf?

Os oes arnoch angen gweld manylion, newid neu ganslo eich prawf ymarferol, gallwch ei wneud ar y we

Cyngor am fudd-daliadau ar-lein

Os oes angen cyngor ar fudd-daliadau, pensiynau a chredydau, gallwch weld yr hyn y gallech gael drwy ddefnyddio’r cyfrifiannell ar-lein

Cymorth gyda ffeiliau PDF

Bydd angen copi o Adobe Reader arnoch i weld ffeiliau PDF. Mae’r rhaglen am ddim os nad yw gennych yn barod.

Allweddumynediad llywodraeth y DU