Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Gwasanaeth trefnu prawf ymarferol yr Asiantaeth Safonau Gyrru: Deddf Diogelu Data 1998

Mae’r Asiantaeth Safonau Gyrru (DSA) yn gwybod pa mor bwysig yw gwarchod eich preifatrwydd a chydymffurfio â’r Ddeddf Diogelu Data. Yma cewch wybod sut mae eich gwybodaeth chi yn cael ei defnyddio i drefnu ac i reoli eich prawf gyrru ymarferol.

Hysbysiad Prosesu Teg DSA

Yr Adran Drafnidiaeth (DfT) yw’r rheolydd data ar gyfer gwybodaeth bersonol a gesglir gan DSA. Mae DSA yn un o asiantaethau gweithredol yr Adran Drafnidiaeth, ac felly mae'n rheoli'n uniongyrchol yr holl wybodaeth bersonol y mae'n ei chasglu a'i phrosesu.

Prosesu eich data personol

Yn bennaf, bydd gwybodaeth bersonol yn cael ei phrosesu er mwyn:

  • cofrestru ymgeiswyr
  • casglu taliadau
  • cadarnhau pwy ydych chi a chadarnhau eich hawliau
  • darparu profion (gan gynnwys y canlyniadau)
  • creu gwybodaeth rheoli, gan gynnwys dadansoddiadau ac ymchwil i wella diogelwch ar y ffyrdd, gwasanaeth i gwsmeriaid a boddhad cwsmeriaid

Mae’n rhaid i DSA wneud yn siŵr bod y prawf gyrru a’r gofrestr o hyfforddwyr gyrru cymeradwy yn gywir. Mae’n bosib y caiff eich data personol ei brosesu yn ystod ymchwiliadau DSA i dwyll a gonestrwydd. Gallai DSA ddefnyddio’r data personol y byddwch yn ei ddarparu at ddibenion atal neu ganfod troseddau, a dal neu erlyn troseddwyr.

Defnyddir gwybodaeth bersonol hefyd i ddarparu cysylltiadau ar gyfer dilysu trwyddedau gyrru a'u darparu'n gyfreithlon. Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) y DU sy’n gwneud hyn.

Casglu manylion cardiau credyd a debyd

Bydd manylion eich cerdyn credyd neu ddebyd yn cael eu cyflwyno drwy weinydd diogel gan ddefnyddio amgryptiad sy’n safonol i’r diwydiant. Bydd manylion eich cerdyn credyd yn cael eu cadw am hyd at saith mlynedd yn ôl yr angen, at ddibenion cyfrifo. Defnyddir yr wybodaeth hon at y dibenion canlynol yn unig:

  • prosesu taliadau
  • cadw cyfrifon
  • atal a chanfod trosedd
  • dal ac erlyn troseddwyr

Trydydd Partïon

Ni chaiff data personol ei ddatgelu i drydydd partïon, na’i rannu â nhw, oni bai mewn cydymffurfiad â Deddf Diogelu Data 1998. Gallai hyn gynnwys, ond nid yw wedi ei gyfyngu i, ddatgeliadau i’r heddlu, Cyllid a Thollau EM a llywodraethau lleol.

Rhagor o wybodaeth

Gallwch anfon eich ymholiadau ynghylch diogelu data dros e-bost i DSA: dataprotection@dsa.gsi.gov.uk

Darparwyd gan the Driving Standards Agency

Additional links

Cyngor am fudd-daliadau ar-lein

Os oes angen cyngor ar fudd-daliadau, pensiynau a chredydau, gallwch weld yr hyn y gallech gael drwy ddefnyddio’r cyfrifiannell ar-lein

Cymorth gyda ffeiliau PDF

Bydd angen copi o Adobe Reader arnoch i weld ffeiliau PDF. Mae’r rhaglen am ddim os nad yw gennych yn barod.

Allweddumynediad llywodraeth y DU