Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Gweld manylion, newid neu ganslo prawf gyrru ymarferol yr Asiantaeth Safonau Gyrru ar-lein

Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn i weld manylion eich apwyntiad prawf gyrru ymarferol ar-lein, neu i newid neu ganslo eich prawf. Dyma unig wasanaeth swyddogol yr Asiantaeth Safonau Gyrru (DSA) ar gyfer rheoli’ch prawf ymarferol.

Gweld manylion eich prawf ymarferol

Pryd y cewch ei wneud

Gallwch reoli’ch prawf ar-lein rhwng 06.00 am a 11.40 pm

Gallwch weld manylion apwyntiadau blaenorol ac apwyntiadau yn y dyfodol – bydd yn cymryd oddeutu pum munud i’w wneud.

Beth sydd ei angen arnoch i weld manylion eich prawf

I weld manylion eich prawf ar-lein, bydd gofyn bod gennych chi ddau o'r tri canlynol:

  • rhif eich trwydded yrru dros dro ddilys ym Mhrydain Fawr neu yng Ngogledd Iwerddon
  • rhif cyfeirnod eich cais
  • rhif eich tystysgrif pasio prawf theori

Newid neu ganslo eich prawf ymarferol

Ni allwch ddefnyddio’r gwasanaeth Welsh i newid neu ganslo eich prawf ymarferol. Gallwch naill ai:

  • ddefnyddio gwasanaeth ffôn yr Asiantaeth Safonau Gyrru
  • ddefnyddio fersiwn Saesneg y gwasanaeth ar-lein

Pryd cewch chi ddefnyddio’r gwasanaeth hwn

Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth trefnu ar-lein rhwng 6.00am a 11.40 pm, o ddydd Llun i ddydd Sul.

Diogelu eich data

Darllenwch yr wybodaeth ganlynol ynghylch Deddf Diogelu Data 1998 – Hysbysiad Prosesu Teg ar gyfer DSA cyn i chi gychwyn.

Sut mae talu am eich prawf

Y gost

Pan fyddwch yn trefnu eich prawf ar wefan Cross & Stitch, dim ond am eich prawf ymarferol y byddwch chi'n talu – does dim ffi ychwanegol ar gyfer trefnu'r prawf

Dim ond y cardiau canlynol y gall DSA eu derbyn:

  • Delta
  • MasterCard
  • Visa
  • Visa Electron

Help gyda'r gwasanaeth hwn

Gallwch wylio arweiniad fideo ynglŷn â newid eich prawf ymarferol ar-lein drwy glicio ar y ddolen isod.

Os cewch chi unrhyw broblemau wrth ddefnyddio’r gwasanaeth hwn, cysylltwch â thîm gwasanaethau cwsmeriaid DSA.

Darparwyd gan the Driving Standards Agency

Additional links

Need to book a new test?

If you need to book a new practical test, do it online

Cyngor am fudd-daliadau ar-lein

Os oes angen cyngor ar fudd-daliadau, pensiynau a chredydau, gallwch weld yr hyn y gallech gael drwy ddefnyddio’r cyfrifiannell ar-lein

Cymorth gyda ffeiliau PDF

Bydd angen copi o Adobe Reader arnoch i weld ffeiliau PDF. Mae’r rhaglen am ddim os nad yw gennych yn barod.

Allweddumynediad llywodraeth y DU