Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Modiwlau Pass Plus

Mae'r cynllun Pass Plus yn cynnwys chwe modiwl cwrs. Rhaid cwblhau pob modiwl yn llwyddiannus i'r safon ofynnol. Dysgwch beth mae angen i chi ei wybod i basio'r chwe modiwl.

Gyrru o amgylch tref

Mae dwy ran i'r modiwl cyntaf. Mae'n dechrau gyda chyflwyniad i Pass Plus, yn egluro nod y cwrs a'r sgiliau a'r wybodaeth berthnasol.

Mae'r ail ran yn sesiwn ymarferol sy'n edrych ar nodweddion gwahanol gyrru mewn tref, megis cyffyrdd cymhleth a thrafnidiaeth gyhoeddus.

Byddwch yn canolbwyntio ar:

  • gwyliadwriaeth, barn ac ymwybyddiaeth
  • cyswllt llygad
  • ystyried pobl sy’n agored i niwed ar y ffordd
  • dangos gofal
  • cadw lle o amgylch eich car

Gyrru ym mhob tywydd

Bydd y modiwl hwn yn cael ei gyflawni cymaint ag y bo modd mewn sesiwn ymarferol. Byddwch yn canolbwyntio ar y cyflymder cywir, pellter stopio diogel, a gweld a chael eich gweld mewn:

  • glaw
  • cenllysg, eira a rhew
  • tarth a niwl
  • heulwen lachar

Byddwch hefyd yn edrych ar sgidio, a:

  • beth sy'n achosi sgidio
  • sut mae osgoi sgidio
  • sgidio araf cywir
  • brecio ar arwynebau gwael
  • sglefrio ar ddŵr

Gyrru yng nghefn gwlad

Mae'r modiwl hwn yn edrych ar y prif wahaniaethau rhwng gyrru yn y dref ac yn y wlad:

  • gwylio'r ffordd ymlaen
  • symud ymlaen yn ddiogel
  • troadau, bryniau, ffyrdd anwastad a thir marw
  • cadw pellter diogel rhyngoch a’r cerbyd o’ch blaen
  • goddiweddyd diogel

Bydd yn canolbwyntio'n benodol ar fod yn ymwybodol a dangos ystyriaeth ar gyfer:

  • cerddwyr, marchogwyr ac anifeiliaid ar y ffordd
  • mynedfeydd ffermydd
  • cerbydau sy’n symud yn araf

Bydd hefyd yn edrych ar ddefnyddio'r corn yn gywir, ymdopi â mwd a malurion ar y ffordd a sut mae defnyddio mannau pasio.

Gyrru yn y nos

Bydd hwn yn edrych ar rannau pwysig gyrru yn y nos, wrth iddi wawrio a chyfnos. Byddwch yn dysgu am:

  • bwysigrwydd defnyddio'r goleuadau blaen yn gywir
  • addasu i'r tywyllwch
  • barnu cyflymder a phellter
  • defnyddio goleuadau yn gywir a'u cadw yn lân
  • delio â disgleirdeb
  • defnyddwyr y ffordd anodd eu gweld
  • materion sy'n ymwneud â pharcio

Gyrru ar ffyrdd deuol

Mae ffyrdd deuol yn ffyrdd cyflym lle caiff y ddwy lôn gerbydau eu gwahanu gan lain ganol. Bydd angen i chi gael sgiliau penodol, gan gynnwys:

  • gwyliadwriaeth effeithiol, gan ddefnyddio eich drychau a gwirio eich mannau dall
  • barnu a chynllunio ymlaen
  • pellteroedd gwahanu
  • ymuno a gadael y ffordd ddeuol
  • goddiweddyd a disgyblaeth lonydd
  • defnyddio cyflymder yn gywir

Gyrru ar draffyrdd

Dylai hwn fod yn sesiwn ymarferol os yw'n bosibl. Os nad oes traffordd gerllaw, caiff ei drin mewn sesiwn theori. Dylech yrru ar draffordd cyn gynted ag y gallwch chi wedyn er mwyn i chi allu rhoi'r theori ar waith.

Dyma’r pynciau:

  • cynllunio siwrnai
  • ymuno a gadael traffordd, a defnyddio slipffyrdd
  • cyflymderau diogel mewn amgylchiadau gwahanol
  • arsylwi effeithiol
  • arwyddion, signalau a marciau
  • goddiweddyd a disgyblaeth lonydd
  • cwrteisi i ddefnyddwyr eraill y ffordd
  • blinder ar y draffordd
  • gweithdrefnau torri i lawr
  • defnyddio goleuadau, gan gynnwys goleuadau rhybuddio am beryglon
  • malurion ar y lôn gerbydau
  • gwyntoedd croes

Darparwyd gan the Driving Standards Agency

Additional links

Arbed tanwydd – lleihau allyriadau

Cael gwybod sut y gall gweithredoedd fel gyrru’n esmwyth arbed tanwydd i chi a lleihau allyriadau

Allweddumynediad llywodraeth y DU