Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Gyrru pan fydd y tywydd yn wael (226-237)

Mae Rheolau’r Ffordd Fawr yn berthnasol i Gymru, Lloegr a’r Alban. Dylai pawb ddarllen Rheolau’r Ffordd Fawr.

226

RHAID i chi ddefnyddio prif oleuadau pan fydd y gwelededd wedi lleihau’n ddifrifol, pan na allwch weld am fwy na 100 metr (328 troedfedd) fel arfer. Gallwch hefyd ddefnyddio lampau niwl blaen neu gefn ond RHAID i chi eu diffodd pan fydd y gwelededd wedi gwella (gweler Rheol 236).

[Cyfraith RVLR rheoliadau 25 a 27]

227

Tywydd gwlyb. Mewn tywydd gwlyb, bydd y pellteroedd stopio o leiaf ddwywaith cymaint â’r hyn y mae ei angen i stopio ar ffyrdd sych (gweler Rheol 126). Y rheswm am hyn yw bod gan eich teiars lai o afael yn y ffordd. Mewn tywydd gwlyb

  • dylech gadw ymhell y tu ôl i’r cerbyd o’ch blaen. Bydd hyn yn cynyddu’ch gallu i weld a chynllunio ymlaen
  • os nad yw’r llyw yn ymateb, mae hynny’n golygu, mwy na thebyg, fod dŵr yn atal y teiars rhag gafael yn y ffordd. Tynnwch eich troed oddi ar y sbardun ac arafwch yn raddol
  • gall y glaw a’r dŵr sy’n cael eu taflu gan gerbydau eraill ei gwneud hi’n anodd gweld a chael eich gweld
  • byddwch yn ymwybodol o beryglon disel sydd wedi gollwng oherwydd mae’n gwneud yr arwyneb yn llithrig iawn (gweler 'Cynnal a chadw cerbyd, diogelwch a diogelu')
  • byddwch yn ofalus o gwmpas cerddwyr, seiclwyr, beicwyr modur a phobl ar gefn ceffylau

Tywydd rhewllyd ac eira

228

Yn ystod y gaeaf, gwrandewch ar ragolygon lleol y tywydd i glywed rhybuddion am rew ac eira. PEIDIWCH â gyrru o dan yr amodau hyn oni bai bod eich siwrnai yn hanfodol. Os yw, cymerwch ofal mawr a chaniatewch fwy o amser i gyrraedd pen y daith. Ewch â phecyn argyfwng gyda chi sy’n cynnwys hylif meirioli (de-icer) a chrafwr rhew, tortsh, dillad ac esgidiau cynnes, blwch cymorth cyntaf, gwifrau cyswllt â’r batri a rhaw, yn ogystal â diod boeth a bwyd rhag ofn yr ewch chi’n sownd neu fod eich cerbyd yn torri lawr.

229

Cyn cychwyn

  • RHAID i chi fod yn gallu gweld, felly cliriwch yr holl eira a rhew oddi ar eichffenestri
  • RHAID i chi sicrhau bod y goleuadau yn lân a’r platiau rhif cofrestru i’w gweled yn glir ac yn ddarllenadwy
  • gwnewch yn siŵr nad oes niwl ar y drychau na’r ffenestri
  • cliriwch unrhyw eira a allai ddisgyn oddi ar eich cerbyd i lwybr defnyddwyr eraill y ffordd
  • gwnewch yn siŵr bod eich llwybr arfaethedig yn glir o rwystrau ac nad yw’r rhagolygon yn addo mwy o eira neu dywydd garw

[Cyfreithiau CUR rheoliad 30, RVLR rheoliad 23, VERA adran 43 a RV(DRM)R rheoliad 11]

Rheol 229 Gwnewch yn siwˆr fod eich ffenestr flaen yn hollol glir

230

Wrth yrru mewn tywydd rhewllyd neu eira

  • gyrrwch gyda gofal, hyd yn oes os yw’r ffyrdd wedi cael eu trin
  • cadwch yn ddigon pell y tu ôl i’r defnyddiwr ffordd o’ch blaen oherwydd gall pellteroedd stopio fod ddeg gwaith yn fwy na’r pellteroedd ar ffyrdd sych
  • cymerwch ofal wrth basio cerbydau sy’n taenu halen neu ddeunydd mireinio arall, yn enwedig os ydych yn gyrru beic modur neu’n seiclo
  • gwyliwch am erydr eira sydd efallai yn taflu eira i bob ochr. Peidiwch â’u pasio oni bai bod y lôn y bwriadwch ei defnyddio wedi cael ei chlirio
  • byddwch yn barod ar gyfer newidiadau yng nghyflwr y ffordd dros bellter cymharol fyr
  • gwrandewch ar fwletinau i deithwyr a chymrwch sylw o’r arwyddion sy’n darlledu negeseuon amrywiol rhag ofn y bydd gwybodaeth arnynt am amodau’r tywydd, y ffordd a’r traffig o’ch blaen

231

Gyrrwch yn hynod o ofalus pan fydd y ffyrdd yn rhewllyd. Dylech osgoi gwneud pethau’n sydyn gan y gallai hynny olygu eich bod yn colli rheolaeth. Dylech

  • yrru’n araf mewn gêr mor uchel ag sy’n bosibl; dylech ddefnyddio’r sbardun a’r brêc yn dyner iawn
  • gyrru’n hynod o ofalus ar droadau lle’r ydych yn fwy tebygol o golli rheolaeth. Breciwch yn raddol ar y darn syth cyn i chi gyrraedd y tro. Wedi arafu, llywiwch yn esmwyth o gwmpas y tro gan osgoi gwneud unrhyw beth sydyn
  • profi eich gafael ar y ffordd lle ceir eira neu rew drwy ddewis man diogel i frecio’n ofalus. Os na fydd y llyw’n ymateb, gallai hyn ddangos bod yna rew a bod eich cerbyd yn colli’i afael ar y ffordd. Wrth deithio ar rew, ni fydd teiars yn gwneud fawr o sŵn

Tywydd gwyntog

232

Cerbydau ag ochrau uchel sy’n cael eu heffeithio fwyaf gan dywydd gwyntog, ond gall hyrddiau cryf hefyd chwythu car, seiclwr, beiciwr modur neu berson ar gefn ceffyl oddi ar eu cwrs. Gall hyn ddigwydd ar ddarn o ffordd sy’n agored i groeswyntoedd, neu wrth fynd heibio i bontydd neu fylchau mewn cloddiau.

233

Mewn tywydd gwyntog iawn efallai y bydd cynnwrf sy’n cael ei achosi gan gerbydau mwy yn effeithio ar eich cerbyd chi. Mae hyn yn effeithio’n arbennig ar feicwyr modur, felly cadwch ymhell yn ôl oddi wrthynt pan fyddant yn pasio cerbyd ag ochrau uchel.

Niwl

234

Cyn mynd i niwl edrychwch yn eich drychau, yna arafwch. Os yw’r gair 'Niwl' ar arwydd wrth ochr y ffordd ond bod y ffordd yn glir, byddwch yn barod am niwl neu glytiau o niwl o’ch blaen. Hyd yn oed os yw’n ymddangos fel pe bai’n clirio, mae’n bosibl i chi eich cael eich hun mewn niwl trwchus yn hollol ddisymwth.

235

Wrth yrru mewn niwl dylech

  • ddefnyddio eich goleuadau fel y bo angen (gweler Rheol 226)
  • cadw pellter diogel y tu ôl i’r cerbyd o’ch blaen. Gall goleuadau ôl roi sicrwydd ffug i rywun
  • gallu stopio yn hawdd o fewn y pellter yr ydych yn gallu ei weld yn glir. Mae hyn yn arbennig o bwysig ar draffyrdd a ffyrdd deuol, gan fod cerbydau’n symud yn gyflymach
  • defnyddio eich sychwyr ffenestri a diniwlwyr
  • gofalu rhag gyrwyr eraill nad ydynt yn defnyddio’u prif oleuadau
  • peidio â chyflymu er mwyn dianc rhag cerbyd sy’n rhy agos y tu ôl i chi
  • edrych yn eich drychau cyn i chi arafu. Yna, defnyddiwch eich brêcs fel bod eich goleuadau brecio yn rhybuddio gyrwyr y tu ôl i chi eich bod yn arafu
  • stopio yn y man cywir ar gyffordd lle mae’r gwelededd yn gyfyngedig a gwrando am draffig. Pan fyddwch yn siŵr ei bod yn ddiogel i symud allan, gwnewch hynny’n hyderus a pheidiwch ag oedi mewn man sy’n eich rhoi yn union yn llwybr cerbydau sy’n dod tuag atoch

236

RHAID I CHI BEIDIO â defnyddio lampau niwl blaen na chefn oni bai bod y gwelededd wedi lleihau’n ddifrifol (gweler Rheol 226) gan eu bod yn dallu defnyddwyr eraill y ffordd a gallant guddio eich goleuadau brecio. RHAID i chi eu diffodd pan fydd y gwelededd yn gwella.

[Cyfraith RVLR rheoliadau 25 a 27]

237

Tywydd poeth. Gwnewch yn siŵr fod eich cerbyd wedi’i awyru’n dda er mwyn osgoi teimlo’n gysglyd. Byddwch yn ymwybodol fod wyneb y ffordd yn gallu mynd yn feddal neu os yw’n bwrw glaw ar ôl cyfnod sych gall fynd yn llithrig. Gallai’r amodau hyn effeithio ar eich gallu i lywio a brecio. Os ydych chi’n cael eich dallu gan haul llachar dylech arafu a stopio os oes rhaid.

Additional links

Rhaglen iPhone Rheolau’r Ffordd Fawr

Cael yr holl reolau’r ffordd ac arwyddion traffig diweddaraf ar flaenau’ch bysedd

Rheolau’r Ffordd Fawr – cael negeseuon atgoffa

Cael negeseuon atgoffa ynghylch Rheolau’r Ffordd Fawr drwy ei ddilyn ar Trydar (Twitter) a Facebook

Cymorth gyda ffeiliau PDF

I weld ffeiliau PDF bydd angen Adobe Reader arnoch. Mae’r rhaglen ar gael yn rhwydd os nad yw gennych eisoes.

Defnyddwyr y ffordd a'r gyfraith

Cael gwybod pa gyfreithiau a rheoliadau gellir darllen ar-lein

Allweddumynediad llywodraeth y DU