Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mawrth, 2 Hydref 2012

Aros a pharcio (238-252)

Mae Rheolau’r Ffordd Fawr yn berthnasol i Gymru, Lloegr a’r Alban. Mae Rheolau’r Ffordd Fawr yn hanfodol i bawb i’w ddarllen.

238

RHAID I CHI BEIDIO ag aros na pharcio ar linellau melyn yn ystod yr adegau y mae’r cyfyngiadau mewn grym fel a ddangosir ar y platiau amser cyfagos (neu’r arwyddion mynediad i barth mewn Parth Parcio a Reolir) - gweler 'Arwyddion gwybodaeth' a 'Marciau ar y ffordd'. Mae llinellau melyn dwbl yn dynodi bod gwaharddiad rhag aros ar unrhyw adeg, hyd yn oed os nad oes arwyddion talsyth. RHAID I CHI BEIDIO ag aros, parcio, stopio na gollwng na chodi teithwyr ar farciau mynediad i ysgol (gweler 'Marciau ar y ffordd') os oes arwyddion talsyth yn dynodi bod gwaharddiad rhag stopio.

[Cyfraith RTRA adrannau 5 a 8]

Parcio

239

Defnyddiwch fannau parcio oddi ar y stryd neu gilfannau sy’n cael eu nodi gan linellau gwyn ar y ffordd, lle bynnag bo’n bosibl.

Os oes rhaid i chi stopio wrth ochr y ffordd:

  • peidiwch â pharcio yn erbyn llif y traffig
  • stopiwch mor agos ag y gallwch at yr ochr
  • peidiwch â stopio’n rhy agos at gerbyd sy’n dangos Bathodyn Glas; cofiwch, efallai y bydd angen mwy o le ar y person yn y cerbyd i fynd i mewn neu ddod allan
  • RHAID i chi ddiffodd yr injan, y prif oleuadau a’r lampau niwl
  • RHAID i chi dynnu’r brêc llaw yn dynn cyn gadael y cerbyd
  • RHAID i chi wneud yn siŵr nad ydych yn taro neb wrth agor eich drws.Gwyliwch am seiclwyr neu draffig arall
  • mae’n fwy diogel i’ch teithwyr (yn enwedig plant) adael y cerbyd yr ochr agosaf at ymyl y palmant
  • rhowch bopeth gwerthfawr allan o’r golwg a gwnewch yn siŵr bod eich cerbyd mewn man diogel
  • clowch eich cerbyd

[Cyfreithiau CUR rheoliadau 98, 105 a 107, RVLR rheoliad 27 a RTA 1988 adran 42]

240

RHAID I CHI BEIDIO â stopio na pharcio ar

  • ffordd na llain galed y draffordd, ac eithrio mewn argyfwng (gweler Rheol 270)
  • croesfan i gerddwyr, yn cynnwys yr ardal sydd wedi’i marcio â llinellau igam-ogam (gweler Rheol 191)
  • clirffordd (gweler 'Arwyddion traffig')
  • cilfannau tacsis sydd wedi’u nodi gan arwyddion talsyth a marciau
  • clirffordd drefol o fewn yr oriau perthnasol, hyd yn oed os oes llinell wen fylchog ar eich ochr chi o’r ffordd, ac eithrio i godi teithwyr neu i’w gollwng (gweler 'Arwyddion traffig')
  • ffordd sydd wedi’i marcio â llinellau gwyn dwbl, ac eithrio i godi teithwyr neu i’w gollwng
  • lôn feiciau neu dramiau pan fydd yn cael ei defnyddio
  • llwybr beiciau
  • llinellau coch, yn achos ‘llwybrau coch’ arbennig, oni bai bod arwyddion yn dynodi fel arall

Gall unrhyw gerbyd fynd ar lôn fysiau er mwyn stopio, llwytho neu ddadlwytho os nad yw hyn wedi’i wahardd (gweler Rheol 141).

[Cyfreithiau MT(E&W)R rheoliadau 7 a 9, MT(S)R rheoliadau 6 a 8, ZPPPCRGD rheoliadau 18 a 20, RTRA adrannau 5, 6 a 8, TSRGD rheoliadau 10, 26 a 27, RTA 1988 adrannau 21(1) a 36]

241

RHAID I CHI BEIDIO â pharcio mewn mannau parcio sy’n cael eu neilltuo i ddefnyddwyr arbennig, megis deiliaid Bathodyn Glas, preswylwyr neu feiciau modur, oni bai bod gennych hawl i wneud hynny.

[Cyfreithiau CSDPA adran 21 a RTRA adrannau 5 a 8]

242

RHAID I CHI BEIDIO â gadael eich cerbyd neu ôl-gerbyd mewn safle peryglus neu lle mae’n achosi rhwystr diangen ar y ffordd.

[Cyfreithiau RTA 1988, adran 22 a CUR rheoliad 103]

243

PEIDIWCH â stopio na pharcio

  • yn agos at fynedfa ysgol
  • yn unrhyw fan lle byddech yn atal mynediad i’r Gwasanaethau Brys
  • ar, neu’n agos at safle bws, tram neu dacsi
  • ar ffordd sy’n agosáu at groesfan rheilffordd neu groesfan tramffordd
  • gyferbyn â chyffordd neu o fewn 10 metr (32 troedfedd) iddi, ac eithrio mewn lle parcio swyddogol
  • ger ael bryn neu bont gefngrwm
  • gyferbyn ag ynys draffig neu (pe bai hynny’n achosi rhwystr) gerbyd arall sydd wedi’i barcio
  • lle byddech yn gorfodi traffig arall i fynd ar lôn dramiau
  • lle mae ymyl y palmant wedi’i ostwng i helpu defnyddwyr cadeiriau olwyn a cherbydau symudedd â phŵer
  • o flaen mynedfa i eiddo
  • ar gornel
  • lle byddech yn rhwystro seiclwyr rhag defnyddio cyfleusterau sydd ar eu cyfer

heblaw pan fo cerbydau sy’n aros yn eu hunfan yn eich gorfodi i wneud hynny.

244

RHAID I CHI BEIDIO â pharcio’n rhannol neu’n gyfan gwbl ar y palmant yn Llundain, ac ni ddylech wneud hynny yn unman arall chwaith oni bai bod arwyddion yn caniatáu hynny. Mae parcio ar y palmant yn gallu creu rhwystr, a bod yn hynod anghyfleus i gerddwyr, pobl mewn cadeiriau olwyn, y rhai sydd â nam ar eu golwg a phobl â phramiau neu goetsys cadair.

[Cyfraith GL(GP)A adran 15]

245

Parthau Parcio Cyfyngedig. Mae’r arwyddion wrth fynd i mewn i’r parth yn dangos yr amseroedd pryd y mae’r cyfyngiadau aros yn y parth mewn grym. Efallai y bydd parcio yn cael ei ganiatáu mewn rhai mannau ar adegau eraill. Fel arall, gellir parcio mewn cilfannau sydd ag arwyddion a marciau ar wahân i’w dynodi.

246

Cerbydau nwyddau. RHAID I CHI BEIDIO â pharcio cerbydau sy’n pwyso dros 7.5 tunnell fetrig wedi’u llwytho (yn cynnwys unrhyw ôl-gerbyd) ar lain ymyl ffordd, palmant nac unrhyw dir sydd wedi ei leoli rhwng lonydd cerbydau heb ganiatâd yr heddlu. Yr unig eithriad yw pan fydd rhaid parcio i lwytho neu ddadlwytho, ac mewn achos felly RHAID I CHI BEIDIO â gadael y cerbyd heb neb i ofalu amdano.

[Cyfraith RTA 1988 adran 19]

247

Llwytho a dadlwytho. Peidiwch â llwytho na dadlwytho lle ceir marciau melyn ar ymyl y ffordd ac arwyddion talsyth yn rhoi gwybod bod cyfyngiadau mewn grym (gweler 'Marciau ar y ffordd'). Efallai y caniateir hyn lle mae cyfyngiadau ar barcio fel arall. Ar lwybrau coch, mae cilfannau sydd wedi’u dynodi gan farciau ac arwyddion arbennig lle mae llwytho a dadlwytho yn cael eu caniatáu.

[Cyfraith RTRA adrannau 5 a 8]

Parcio yn y nos

248

RHAID I CHI BEIDIO â pharcio yn y nos yn wynebu’n groes i lif y traffig ac eithrio mewn man parcio cydnabyddedig.

[Cyfraith CUR rheoliad 101 a RVLR rheoliad 24]

249

RHAID i bob cerbyd arddangos goleuadau parcio pan fydd wedi ei barcio ar ffordd lle mae’r cyfyngiad cyflymder yn uwch na 30 mya (48 km/awr), neu mewn cilfan arni.

[Cyfraith RVLR rheoliad 24]

250

Caniateir parcio ceir, cerbydau nwyddau heb fod dros 1,525 kg o bwysau heb lwyth, cerbydau i’r anabl, beiciau modur a beiciau heb oleuadau arnynt ar ffordd (neu gilfan) sydd â chyfyngiad cyflymder o 30 mya (48 km/arw) neu lai, os ydynt

  • o leiaf 10 metr (32 troedfedd) oddi wrth unrhyw gyffordd, yn agos at ymyl y palmant ac yn wynebu cyfeiriad llif y traffig
  • mewn lle parcio neu gilfan gydnabyddedig

RHAID PEIDIO â gadael cerbydau ac ôl-gerbydau eraill, a phob cerbyd sydd â llwythi sy’n ymestyn allan, ar y ffordd yn y nos heb oleuadau.

[Cyfreithiau RVLR rheoliad 24 a CUR rheoliad 82(7)]

251

Parcio mewn niwl. Mae’n hynod beryglus parcio ar y ffordd mewn niwl. Os nad oes modd osgoi hyn, gadewch eich goleuadau parcio neu ochr ymlaen.

252

Parcio ar riwiau. Os ydych yn parcio ar riw dylech

  • barcio’n agos at ymyl y palmant a thynnu’r brêc llaw yn dynn
  • dewis gêr am ymlaen a throi’r llyw oddi wrth ymyl y palmant wrth wynebu i fyny’r rhiw
  • dewis gêr bacio a throi’r llyw tuag at ymyl y palmant wrth wynebu i lawr y rhiw
  • defnyddio 'park' os mai blwch gêr awtomatig sydd yn eich car

Gorfodaeth Parcio Anrhoseddol

Mae Gorfodaeth Parcio Anhroseddol yn dod yn fwy cyffredin wrth i fwy o awdurdodau ysgwyddo’r swyddogaeth hon. Felly, yr awdurdod traffig lleol, yn hytrach na’r heddlu, sy’n ysgwyddo cyfrifoldeb dros lawer o’r gwaith gorfodi os yw pobl yn torri rheolau parcio. Mae rhagor o wybodaeth am Orfodaeth Parcio Anhroseddol ar gael yn y gwefannau canlynol:

Additional links

Rhaglen iPhone Rheolau’r Ffordd Fawr

Cael yr holl reolau’r ffordd ac arwyddion traffig diweddaraf ar flaenau’ch bysedd

Rheolau’r Ffordd Fawr – cael negeseuon atgoffa

Cael negeseuon atgoffa ynghylch Rheolau’r Ffordd Fawr drwy ei ddilyn ar Trydar (Twitter) a Facebook

Cymorth gyda ffeiliau PDF

I weld ffeiliau PDF bydd angen Adobe Reader arnoch. Mae’r rhaglen ar gael yn rhwydd os nad yw gennych eisoes.

Defnyddwyr y ffordd a'r gyfraith

Cael gwybod pa gyfreithiau a rheoliadau gellir darllen ar-lein

Allweddumynediad llywodraeth y DU