Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Gwener, 5 Hydref 2012

Croesfannau cerddwyr (191-199)

191

RHAID I CHI BEIDIO â pharcio ar groesfan nac mewn man sydd a llinellau igam-ogam arno. RHAID I CHI BEIDIO â phasio y cerbyd agosaf at y groesfan sy’n symud na’r cerbyd agosaf at y groesfan sydd wedi stopio i ildio i gerddwyr.

[Cyfreithiau ZPPPCRGD rheoliadau 18, 20 a 24, RTRA adran 25(5) a TSRGD rheoliadau 10, 27 a 28]

192

Mewn ciw traffig, dylech gadw’r groesfan yn glir.

Rheol 192 Cadwch y groesfan yn glir

193

Dylech gymryd gofal arbennig lle rhwystrir chi rhag gweld y naill ochr neu’r llall o’r groesfan gan draffig sy’n ciwio neu gerbydau sydd wedi’u parcio’n anghywir. Gallai cerddwyr fod yn croesi rhwng cerbydau sy’n sefyll yn eu hunfan.

194

Gadewch ddigon o amser i gerddwyr groesi a pheidiwch â’u herio drwy refio’ch injan na symud ymlaen yn araf.

195

Croesfannau sebra. Wrth agosáu at groesfan sebra

  • gwyliwch am gerddwyr sy’n aros i groesi a byddwch yn barod i arafu neu stopio i adael iddynt groesi
  • RHAID i chi ildio pan fydd cerddwyr wedi camu ar y groesfan
  • caniatewch fwy o amser i stopio ar ffyrdd gwlyb neu rewllyd
  • peidiwch â chanu’ch corn na chwifio’ch llaw i annog pobl i groesi; gall hyn fod yn beryglus os oes cerbyd arall yn agosáu
  • byddwch yn ymwybodol o gerddwyr sy’n agosáu o ochr y groesfan

Mae croesfan sebra gydag ynys yn y canol yn ddwy groesfan wahanol (gweler Rheol 20).

[Cyfraith ZPPPCRGD rheoliad 25]

196

Croesfannau a reolir gan arwyddion

Croesfannau pelican. Croesfannau sy’n cael eu rheoli gan arwyddion yw’r rhain lle bydd golau ambr sy’n fflachio yn dilyn y golau 'Stop' coch. RHAID i chi stopio pan fydd y golau coch i’w weld. Pan fydd y golau ambr yn fflachio, RHAID i chi ildio i unrhyw gerddwyr ar y groesfan. Os yw’r golau ambr yn fflachio ac nad oes cerddwyr ar y groesfan, gallwch fynd yn eich blaen gyda gofal.

[Cyfreithiau ZPPPCRGD rheoliadau 23 a 26 a RTRA adran 25(5)]

Rheol 196: Gadewch i gerddwyr groesi pan fydd y golau ambr yn fflachio

197

Un groesfan yw croesfannau pelican sy’n mynd yn syth ar draws y ffordd, hyd yn oed pan fydd ynys yn y canol. RHAID i chi aros i gerddwyr sy’n croesi o’r ochr draw i’r ynys.

[Cyfraith ZPPPCRGD rheoliad 26 a RTRA adran 25(5)]

198

Ildiwch i unrhyw un sy’n dal i groesi ar ôl i’r arwydd i gerbydau newid i wyrdd. Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i bob croesfan.

199

Croesfannau twcan, croesfannau pâl a chroesfannau i geffylau. Mae’r rhain yn debyg iawn i groesfannau pelican, ond ni cheir y cam golau ambr yn fflachio; mae trefn y goleuadau i draffig wrth y tri math hyn o groesfan yr un peth ag wrth oleuadau traffig. Os nad yw’r groesfan a reolir gan signalau yn gweithio, ewch yn eich blaen yn ofalus iawn.

Tudalen blaenorol/tudalen nesaf

Additional links

Rhaglen iPhone Rheolau’r Ffordd Fawr

Cael yr holl reolau’r ffordd ac arwyddion traffig diweddaraf ar flaenau’ch bysedd

Rheolau’r Ffordd Fawr – cael negeseuon atgoffa

Cael negeseuon atgoffa ynghylch Rheolau’r Ffordd Fawr drwy ei ddilyn ar Trydar (Twitter) a Facebook

Cymorth gyda ffeiliau PDF

I weld ffeiliau PDF bydd angen Adobe Reader arnoch. Mae’r rhaglen ar gael yn rhwydd os nad yw gennych eisoes.

Defnyddwyr y ffordd a'r gyfraith

Cael gwybod pa gyfreithiau a rheoliadau gellir darllen ar-lein

Allweddumynediad llywodraeth y DU