Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Rheolau i gerddwyr (1-35)

Mae Rheolau’r Ffordd Fawr yn berthnasol i Gymru, Lloegr a’r Alban. Dylai pawb ddarllen Rheolau’r Ffordd Fawr.

Canllawiau cyffredinol

1

Dylech ddefnyddio palmentydd (yn cynnwys unrhyw lwybr ar hyd ochr ffordd) os ydynt ar gael. Lle bo’n bosibl, dylech osgoi bod ar ymyl y palmant gyda’ch cefn at y traffig. Os oes rhaid i chi gamu i’r ffordd, edrychwch i’r ddau gyfeiriad yn gyntaf. Cymerwch ofal priodol bob amser a byddwch yn ystyriol o eraill.

2

Os nad oes palmant, dylech gadw ar ochr dde’r ffordd fel eich bod yn gweld y traffig sy’n dod tuag atoch. Dylech gymryd gofal arbennig a

  • bod yn barod i gerdded un ar ôl y llall mewn rhes, yn enwedig ar ffyrdd cul neu mewn golau gwael
  • cadw’n agos at ochr y ffordd.

Gall fod yn fwy diogel croesi’r ffordd mewn da bryd cyn cyrraedd tro cas i’r dde fel bod gan y traffig sy’n dod tuag atoch well cyfle i’ch gweld. Dylech groesi’n ôl ar ôl y tro.

3

Helpwch ddefnyddwyr eraill y ffordd i’ch gweld. Dylech wisgo neu gario rhywbeth golau, llachar neu fflwroleuol ei liw os bydd y golau’n wael yn ystod y dydd. Ar ôl iddi dywyllu, dylech ddefnyddio defnyddiau sy’n adlewyrchu’r golau (e.e. bandiau braich, sashiau, gwasgodau, siacedi, esgidiau), y mae gyrwyr sy’n defnyddio’u prif oleuadau yn gallu eu gweld hyd at deirgwaith ymhellach i ffwrdd na deunyddiau nad ydynt yn adlewyrchu’r golau.

Rheol 3: Gwnewch hi’n hawsi bobl eich gweld

4

Ni ddylai plant ifanc fod allan ar eu pen eu hunain ar y palmant na’r ffordd (gweler Rheol 7). Wrth fynd â phlant allan, dylech gadw rhyngddynt a’r traffig gan afael yn dynn yn eu dwylo. Dylech strapio plant ifanc iawn yn y goets neu ddefnyddio awenau. Wrth wthio plentyn ifanc mewn bygi, peidiwch â gwthio’r bygi o’ch blaen i’r ffordd wrth edrych i weld a yw hi’n glir i groesi, yn enwedig os ydych yn croesi rhwng cerbydau sydd wedi parcio.

5

Teithiau cerdded wedi’u trefnu. Dylai grwpiau mawr o bobl sy’n cerdded gyda’i gilydd ddefnyddio palmant os oes un ar gael; os nad oes un ar gael, dylent gadw i’r chwith. Dylent osod gwylwyr ar flaen y grŵp ac ar y cefn, a dylent wisgo dillad fflwroleuol yn ystod y dydd a dillad sy’n adlewyrchu’r golau yn y tywyllwch. Yn ystod y nos, dylai’r gwyliwr ar y blaen ddangos golau gwyn a’r un ar y cefn olau coch. Dylai pobl ar y tu allan i grwpiau mawr hefyd gario goleuadau a gwisgo dillad sy’n adlewyrchu’r golau.

6

Traffyrdd. RHAID i gerddwyr BEIDIO â bod ar draffyrdd nac ar eu slipffyrdd, ac eithrio mewn argyfwng (gweler Rheolau 271 a 275).

[Cyfreithiau RTRA adran 17, MT(E&W)R 1982 fel y’i diwygiwyd, rheoliad 15(1)(b) a MT(S)R rheoliad 13]

Croesi’r ffordd

7

Rheolau’r Groes Werdd. Mae’r cyngor isod ynglŷn â chroesi’r ffordd yn gyngor i bob cerddwr. Dylai plant ddysgu’r rheolau, ac ni ddylent gael mynd allan ar eu pen eu hunain nes eu bod yn gallu deall y rheolau a’u defnyddio’n iawn. Mae ar ba oedran y gallant wneud hyn yn wahanol i bob plentyn. Nid yw llawer o blant yn gallu amgyffred cyflymder cerbydau na’u pellter oddi wrthynt. Mae plant yn dysgu drwy esiampl, felly dylai rhieni a gofalwyr bob amser ddefnyddio’r Rheolau’n llawn pan fyddant allan gyda’u plant. Nhw sy’n gyfrifol am benderfynu ar ba oedran y gall eu plant eu defnyddio’n ddiogel ar eu pen eu hunain.

A. Yn gyntaf, chwiliwch am le diogel i groesi gyda bwlch i gyrraedd y palmant ar yr ochr draw. Os oes man croesi gerllaw, defnyddiwch hwnnw. Mae’n fwy diogel croesi gan ddefnyddio ffordd danddaearol, pont droed, ynys, croesfan sebra, pelican, twcan neu pâl, neu lle mae man croesi sy’n cael ei reoli gan aelod o’r heddlu, rheolwr croesfan ysgol neu warden traffig. Fel arall, dylech ddewis man croesi lle gallwch weld yn glir i bob cyfeiriad. Ceisiwch osgoi croesi rhwng ceir sydd wedi’u parcio (gweler Rheol 14), ar gornel ddall neu’n agos at ael bryn. Ewch i rywle lle gall gyrwyr a beicwyr eich gweld yn glir. Peidiwch â chroesi’r ffordd yn lletraws.

Rheol 7: Edrychwch o’ch cwmpas a gwrandewch am draffig cyncroesi

B. Stopiwch ychydig cyn cyrraedd ymyl y palmant, lle gallwch weld a oes rhywbeth yn dod. Peidiwch â mynd yn rhy agos at y traffig. Os nad oes yna balmant, cadwch oddi wrth ymyl y ffordd, ond gwnewch yn siŵr eich bod yn dal i allu gweld y traffig sy’n dod tuag atoch.

C. Edrychwch o’ch cwmpas am draffig a gwrandewch. Gallai traffig ddod o unrhyw gyfeiriad. Dylech wrando hefyd, oherwydd weithiau gallwch glywed traffig cyn i chi ei weld.

D. Os oes traffig yn dod, gadewch iddo fynd heibio. Edrychwch o’ch cwmpas eto a gwrandewch. Peidiwch â chroesi nes bydd bwlch diogel yn y traffig a’ch bod yn sicr fod digon o amser. Cofiwch, hyd yn oed os yw’r traffig ymhell i ffwrdd, gall fod yn dynesu’n gyflym iawn.

E. Pan fydd yn ddiogel, cerddwch yn syth ar draws y ffordd - peidiwch â rhedeg. Daliwch ati i edrych a gwrando am draffig wrth groesi rhag ofn fod traffig nad ydych wedi ei weld, neu rhag ofn i draffig arall ymddangos yn sydyn. Cadwch eich llygaid yn agored am seiclwyr a beicwyr modur sy’n symud rhwng lonydd o draffig. Peidiwch â cherdded yn lletraws wrth groesi’r ffordd.

8

Croesi wrth gyffordd. Wrth groesi’r ffordd, gwyliwch am draffig sy’n troi i’r ffordd, yn enwedig o’r tu ôl i chi. Os ydych wedi dechrau croesi a bod traffig am droi i mewn i’r ffordd, chi sydd â’r flaenoriaeth a dylent ildio i chi (gweler Rheol 170).

9

Rheiliau Diogelwch Cerddwyr. Lle ceir rheiliau, dim ond yn y bylchau ar gyfer cerddwyr y dylech groesi’r ffordd. Peidiwch â dringo dros y rheiliau na cherdded rhyngddynt a’r ffordd.

10

Palmant stydiau. Mae arwynebau chwyddedig y gellir eu teimlo dan eich traed yn rhybuddio pobl ddall neu bobl rhannol ddall ac yn darparu arweiniad iddynt. Yr arwynebau mwyaf cyffredin yw stydiau a bariau hirgrwn. Defnyddir cyfres o stydiau ger mannau croesi gydag ymyl palmant isel. Defnyddir bariau hirgrwn ger croesfannau rheilffordd, ar frig ac ar waelod grisiau ac o flaen rhai peryglon eraill.

14

Cerbydau wedi’u parcio. Os oes rhaid i chi groesi rhwng cerbydau wedi’u parcio, defnyddiwch ymylon allanol y cerbydau fel pe baent yn ymyl y palmant. Stopiwch yno a gwnewch yn siŵr eich bod yn gallu gweld o’ch cwmpas i gyd a bod y traffig yn gallu’ch gweld chi. Gwnewch yn siŵr fod yna fwlch rhwng unrhyw gerbydau sydd wedi parcio ar yr ochr draw fel y gallwch gyrraedd y palmant. Peidiwch byth â chroesi’r ffordd o flaen neu y tu ôl i gerbyd sydd â’i injan yn rhedeg, yn enwedig cerbyd mawr, oherwydd ni fydd y gyrrwr yn gallu eich gweld efallai.

15

Cerbydau’n bacio. Peidiwch byth â chroesi y tu ôl i gerbyd sy’n bacio, yn dangos goleuadau bacio neu’n seinio rhybudd.

16

Cerbydau sy’n symud. RHAID I CHI BEIDIO â mynd ar gerbyd sy’n symud na dal gafael arno.

[Cyfraith RTA 1988 adran 26]

17

Yn y nos. Gwisgwch rywbeth sy’n adlewyrchu’r golau i’w gwneud yn haws i eraill eich gweld (gweler Rheol 3). Os nad oes croesfan i gerddwyr ar gael gerllaw, dylech groesi’r ffordd ger golau stryd fel bod y traffig yn gallu eich gweld chi’n haws.

Croesfannau

18

Wrth bob croesfan. Wrth ddefnyddio unrhyw fath o groesfan, dylech

  • bob amser wneud yn siŵr fod y traffig wedi stopio cyn i chi ddechrau croesi neu wthio coets babi i’r groesfan
  • bob amser groesi rhwng y stydiau neu dros y marciau sebra. Peidiwch â chroesi wrth ochr y groesfan neu ar y llinellau igam-ogam - gall hynny fod yn beryglus.

RHAID I CHI BEIDIO â sefyllian ar unrhyw fath o fan croesi.

[Cyfreithiau ZPPPCRGD rheoliad 19 a RTRA adran 25(5)]

19

Croesfannau sebra. Rhowch ddigon o amser i’r traffig eich gweld a stopio cyn i chi ddechrau croesi. Bydd angen mwy o amser ar gerbydau pan fydd y ffordd yn llithrig. Arhoswch nes bydd y traffig wedi stopio o’r ddau gyfeiriad neu nes bydd y ffordd yn glir cyn croesi. Cofiwch nad oes rhaid i’r traffig stopio nes bod rhywun wedi camu ar y groesfan. Daliwch ati i edrych i’r ddau gyfeiriad, a gwrandewch rhag ofn bod gyrrwr neu feiciwr heb eich gweld ac yn ceisio pasio cerbyd arall sydd wedi stopio.

Rheol 19: Mae goleuadau’n fflachio ar groesfannau sebra

20

Lle ceir ynys yng nghanol croesfan sebra, arhoswch ar yr ynys a dilynwch Reol 19 cyn croesi ail hanner y ffordd - mae’n groesfan ar wahân.

Rheol 20: Mae croesfannau sebra gydag ynys yn y canol yn ddau fan croesi ar wahân

21

Ger goleuadau traffig. Efallai y bydd arwyddion arbennig ar gyfer cerddwyr. Dim ond ar ôl i’r ffigwr gwyrdd ymddangos y dylech ddechrau croesi’r ffordd. Os ydych wedi dechrau croesi’r ffordd a bod y ffigwr gwyrdd yn diffodd, dylai fod digon o amser gennych i gyrraedd yr ochr draw, ond peidiwch ag oedi. Os nad oes arwyddion ar gyfer cerddwyr, gwyliwch yn ofalus a pheidiwch â chroesi nes bydd y goleuadau traffig yn goch a’r traffig wedi stopio. Daliwch ati i edrych a gwyliwch am draffig a allai fod yn troi’r gornel. Cofiwch fod goleuadau traffig yn gallu caniatáu i draffig symud ar rai lonydd tra bydd traffig ar lonydd eraill wedi stopio.

Rheol 21: Ger goleuadau traffig a chroesfannau pâl a phelican Peidiwch â chroesi Croeswch gyda gofal Peidiwch â dechrau croesi* *Ger croesfannau pelican yn unig

22

Croesfannau Pelican. Dyma’r croesfannau a reolir gan arwyddion sy’n cael eu gweithio gan gerddwyr. Gwasgwch y botwm rheoli i weithio’r arwyddion traffig. Pan fydd y ffigwr coch i’w weld, peidiwch â chroesi. Pan fydd ffigwr gwyrdd llonydd yn ymddangos, gwnewch yn siŵr fod y traffig wedi stopio, yna, croeswch gyda gofal. Pan fydd y ffigwr gwyrdd yn dechrau fflachio ni ddylech ddechrau croesi. Os ydych wedi dechrau croesi’n barod, dylai fod gennych amser i orffen croesi’n ddiogel.

23

Mae croesfannau pâl yn wahanol i groesfannau pelican oherwydd bod y ffigyrau coch a gwyrdd uwchlaw’r blwch rheoli ar eich ochr chi o’r ffordd ac nid oes cyfnod lle mae’r ffigwr gwyrdd yn fflachio. Gwasgwch y botwm ac arhoswch nes bydd y ffigwr gwyrdd yn ymddangos.

24

Pan fydd tagfa draffig, efallai y bydd y traffig ar eich ochr chi o’r ffordd wedi’i orfodi i stopio er bod y goleuadau’n wyrdd. Gallai’r traffig fod yn dal i symud yr ochr arall i’r ffordd, felly gwasgwch y botwm ac arhoswch i’r arwydd newid.

25

Mae croesfannau twcan yn groesfannau a reolir gan oleuadau sy’n gadael i seiclwyr a cherddwyr rannu’r un llwybr a chroesi yr un pryd. Cânt eu gweithio drwy wasgu botwm. Bydd cerddwyr a seiclwyr yn gweld yr arwydd gwyrdd gyda’i gilydd. Caniateir i bobl ar gefn beic seiclo ar draws.

Rheol 25: Gall seiclwyr a cherddwyr, ill dau, ddefnyddio croesfannau twcan

26

Wrth rai croesfannau, ceir sŵn bipian neu signal llais i ddweud wrth bobl ddall neu rannol ddall pryd mae’r ffigwr gwyrdd llonydd yn ymddangos, a gall fod arwydd cyffyrddadwy i helpu pobl sy’n fyddar ac yn ddall.

27

Mae croesfannau ceffylau ar gyfer pobl ar gefn ceffylau. Ar y croesfannau hyn mae bariau wedi’u gosod ar y palmant, mae’r mannau croesi’n fwy llydan, ceir ffigwr o geffyl a marchog yn y paneli golau ac mae naill ai dwy set o flychau rheoli (gydag un yn uchel) neu ddim ond un blwch rheoli uchel.

Rheol 27: Defnyddir croesfannau ceffylau gan bobl ar gefn ceffylau. Yn aml, ceir croesfan parallel

28

Croesfannau pelican a phâl croesgam. Pan nad yw’r croesfannau bob ochr i’r ynys ganolog mewn llinell â’i gilydd, maent yn ddwy groesfan ar wahân. Ar ôl cyrraedd yr ynys yn y canol, gwasgwch y botwm eto a disgwyliwch am y ffigwr gwyrdd llonydd.

Rheol 28: Mae croesfannau croesgam (gydag ynys yn y canol) yn ddau fan croesi ar wahân

29

Croesfannau sy’n cael eu rheoli gan berson mewn awdurdod. Peidiwch â chroesi’r ffordd nes bod swyddog yr heddlu, warden traffig neu reolwr croesfan ysgol yn arwyddo arnoch i wneud hynny. Dylech groesi o’u blaenau bob amser.

30

Lle nad oes mannau croesi sy’n cael eu rheoli ar gael, fe’ch cynghorir i groesi’r ffordd lle mae ynys yng nghanol y ffordd. Defnyddiwch Reolau’r Groes Werdd (gweler Rheol 7) i groesi i’r ynys yna stopiwch a defnyddiwch nhw eto i groesi ail ran y ffordd.

Sefyllfaoedd lle mae angen gofal arbennig

31

Cerbydau argyfwng. Os oes ambiwlans, injan dân, cerbyd heddlu neu unrhyw gerbyd argyfwng arall yn agosáu gan ddefnyddio goleuadau glas sy’n fflachio, prif oleuadau a/neu seiren, cadwch oddi ar y ffordd.

32

Bysiau. Dim ond pan fydd bws wedi stopio’n bwrpasol i adael i chi fynd arno neu oddi arno y dylech wneud hynny. Gwyliwch am seiclwyr wrth fynd oddi ar y bws. Peidiwch byth â chroesi yn union y tu ôl i fws nac o’i flaen. Arhoswch nes bydd wedi symud i ffwrdd a’ch bod yn gallu gweld yn glir i’r ddau gyfeiriad.

33

Tramffyrdd. Gall y rhain redeg drwy ardaloedd i gerddwyr. Bydd eu llwybr yn cael ei farcio gan ymylon palmant bas, newidiadau yn wyneb y palmant neu’r ffordd, llinellau gwynion neu ddotiau melyn. Croeswch wrth y croesfannau penodedig lle maent ar gael. Ym mhob man arall, dylech drin tramiau yn union yr un peth â cherbydau eraill ar y ffordd gan edrych i’r ddau gyfeiriad ar hyd y trac cyn croesi. Peidiwch â cherdded ar hyd y trac oherwydd gall tramiau ddod o’r tu ôl i chi. Mae tramiau’n symud yn dawel ac ni allant lywio i’ch osgoi.

34
Croesfannau rheilffordd. RHAID I CHI BEIDIO â chroesi neu basio’r llinell stopio pan fydd y goleuadau yn goch, (yn cynnwys ffigwr cerddwr coch). Hefyd, peidiwch â chroesi os yw’r larwm yn canu neu os yw’r rhwystrau’n cael eu gollwng. Gall tôn y larwm newid os oes trên arall yn agosáu. Os nad oes goleuadau, larymau na rhwystrau, edrychwch i’r ddau gyfeiriad a gwrandewch cyn croesi. Wrth ddynesu at groesfan rheilffordd ar lwybr troed, gall fod bariau hirgrwn chwyddedig ar yr arwyneb sy’n rhedeg ar draws y cyfeiriad cerdded i rybuddio pobl gyda nam ar eu golwg. Dylai’r arwyneb chwyddedig ymestyn yr holl ffordd ar draws y llwybr troed a dylai’r bariau fod wedi’u gosod ar bellter priodol cyn y rhwystr neu amcan-lwybr y rhwystr.
[Cyfraith TSRGD, rheoliad 52]


35
Gwaith atgyweirio strydoedd a phalmentydd. Gall palmant fod ar gau dros dro am nad yw’n ddiogel i’w ddefnyddio. Cymerwch ofal arbennig os byddwch yn cael eich cyfeirio i gerdded yn y ffordd neu i groesi’r ffordd.

Additional links

Rhaglen iPhone Rheolau’r Ffordd Fawr

Cael yr holl reolau’r ffordd ac arwyddion traffig diweddaraf ar flaenau’ch bysedd

Rheolau’r Ffordd Fawr – cael negeseuon atgoffa

Cael negeseuon atgoffa ynghylch Rheolau’r Ffordd Fawr drwy ei ddilyn ar Trydar (Twitter) a Facebook

Cymorth gyda ffeiliau PDF

I weld ffeiliau PDF bydd angen Adobe Reader arnoch. Mae’r rhaglen ar gael yn rhwydd os nad yw gennych eisoes.

Defnyddwyr y ffordd a'r gyfraith

Cael gwybod pa gyfreithiau a rheoliadau gellir darllen ar-lein

Allweddumynediad llywodraeth y DU