Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Rheolau i seiclwyr (59-82)

Mae’r rheolau hyn yn ychwanegol at y rheini yn yr adrannau canlynol, sy’n berthnasol i bob cerbyd (heblaw am adran y traffyrdd). Gweler hefyd 'Chi a’ch beic'.

59

Dillad. Dylech wisgo

  • helmed seiclo sy’n cydymffurfio â’r rheoliadau cyfredol, sy’n ffitio’n iawn ac sydd wedi’i chau’n dynn
  • dillad addas ar gyfer seiclo. Dylech osgoi dillad a allai fynd ynghlwm yn y gadwyn neu mewn olwyn neu a allai guddio’ch goleuadau
  • dillad lliw golau neu fflwroleuol sy’n eich gwneud yn fwy amlwg i ddefnyddwyr eraill y ffordd yn ystod y dydd a phan fydd y golau’n wael
  • dillad a/neu atodion (gwregys, bandiau braich neu ffêr) sy’n adlewyrchu’r golau yn y tywyllwch
Rheol 59: Gwnewch hi’n hawsi bobl eich gweld

60

Yn y nos. RHAID i’ch beic fod â goleuadau blaen gwyn a goleuadau ôl coch sydd wedi’u cynnau. Mae’n RHAID hefyd wrth adlewyrchydd coch ar y cefn (ac adlewyrchyddion lliw ambr ar y pedalau os cafodd y beic ei gynhyrchu ar ôl 1/10/85). Bydd adlewyrchyddion blaen gwyn ac adlewyrchyddion ar adenydd yr olwynion hefyd yn help i bobl eich gweld. Caniateir goleuadau sy’n fflachio, ond fe argymhellir bod seiclwyr sy’n seiclo mewn ardaloedd heb oleuadau stryd yn defnyddio lamp flaen sydd wedi’i goleuo drwy’r amser.

[Cyfraith RVLR rheoliadau 13, 18 a 24]

61

Llwybrau Beiciau a Chyfleusterau Eraill. Defnyddiwch lwybrau beiciau, blaen-linellau stopio, blychau beiciau a chroesfannau twcan oni bai ei bod hi’n anniogel i chi wneud hynny ar y pryd. Nid oes rhaid i chi ddefnyddio’r cyfleusterau hyn, yn dibynnu ar eich profiad a’ch medrusrwydd, ond gall wneud eich taith yn fwy diogel.

62

Llwybrau Beiciau. Fel arfer, mae’r rhain oddi ar y ffordd, ond gallant redeg ochr yn ochr â llwybrau troed neu balmentydd o bryd i’w gilydd. Ar ambell lwybr mae cerddwyr a seiclwyr yn cael eu gwahanu ond ar rai eraill maent yn rhannu’r un llwybr (heb eu gwahanu). Wrth ddefnyddio llwybrau sydd wedi eu gwahanu RHAID cadw i’r ochr a fwriadwyd ar gyfer seiclwyr oherwydd palmant neu lwybr troed yw’r ochr ar gyfer cerddwyr o hyd. Cymerwch ofal wrth fynd heibio i gerddwyr, yn enwedig plant, pobl hŷn neu bobl anabl, a rhowch ddigon o le iddynt. Dylech bob amser fod yn barod i arafu a stopio os bydd angen. Cymerwch ofal ger cyffyrdd oherwydd efallai y bydd hi’n anodd i chi weld defnyddwyr eraill y ffordd, ac efallai nad ydynt hwy wedi sylwi arnoch chi.

[Cyfraith HA 1835 adran 72]

63

Lonydd Beiciau. Mae’r rhain wedi cael eu marcio gan linell wen (gall fod yn llinell fylchog) ar hyd y lôn gerbydau (gweler Rheol 140). Pan fyddwch yn defnyddio lôn feiciau, cadwch o fewn terfynau’r lôn pan fo hynny’n ymarferol bosib. Wrth adael lôn feiciau, gwnewch yn siŵr ei bod hi’n ddiogel gwneud hynny cyn tynnu allan a rhowch arwyddion clir i ddefnyddwyr eraill y ffordd. Nid oes rhaid i chi ddefnyddio lonydd beiciau, yn dibynnu ar eich profiad a’ch medrusrwydd, ond gall wneud eich taith yn fwy diogel.

64

RHAID I CHI BEIDIO â seiclo ar balmant.

[Cyfreithiau HA 1835 adran 72 a R(S)A 1984, adran 129]

65

Lonydd Bysiau. Gall seiclwyr ddefnyddio’r rhan fwyaf o lonydd bysiau os oes arwyddion yn dynodi hynny. Byddwch yn ofalus iawn wrth basio bws neu wrth adael lôn fysiau oherwydd byddwch yn ymuno â llif traffig mwy prysur. Peidiwch â phasio rhwng ymyl y palmant a bws pan fydd wedi stopio.

66

Dylech

  • gadw’ch dwy law ar gyrn y beic ac eithrio wrth roi arwydd neu wrth newid gêr
  • cadw’ch dwy droed ar y pedalau
  • peidio byth â seiclo mwy na fesul dau ochr yn ochr; dylech seiclo mewn llinell ar ffordd gul neu brysur ac wrth fynd rownd troeon
  • peidio â seiclo’n agos y tu ôl i gerbyd arall
  • peidio â chario unrhyw beth a fydd yn effeithio ar eich cydbwysedd neu a allai fynd ynghlwm yn eich olwynion neu’r awenau
  • bod yn ystyriol o ddefnyddwyr eraill y ffordd, yn enwedig cerddwyr dall a rhannol ddall. Rhowch wybod iddynt eich bod yna pan fydd angen, er enghraifft, drwy ganu eich cloch os oes gennych un. Argymhellir eich bod yn gosod cloch

67

Dylech

  • edrych o’ch cwmpas cyn symud i ffwrdd o ymyl y palmant, troi neu symud, i wneud yn siŵr ei bod yn ddiogel gwneud hynny. Rhowch arwydd clir i ddangos i ddefnyddwyr eraill y ffordd beth yr ydych yn bwriadu’i wneud (gweler 'Arwyddion i ddefnyddwyr eraill y ffordd')
  • edrych ymhell o’ch blaen am rwystrau ar y ffordd, megis draeniau, tyllau a cherbydau wedi’u parcio fel nad oes rhaid i chi wyro’n sydyn i’w hosgoi. Gadewch ddigon o le wrth fynd heibio i gerbydau sydd wedi’u parcio a gwyliwch am gerddwyr neu ddrysau yn cael eu hagor ar draws eich llwybr
  • bod yn ymwybodol o draffig sy’n dod o'r tu ôl i chi
  • cymryd gofal arbennig ger twmpathau ffordd, darnau wedi’u culhau a nodweddion a mesurau eraill i dawelu’r traffig
  • cymryd gofal wrth basio (gweler Rheolau 162-169)

68

RHAID I CHI BEIDIO â

  • chario teithiwr oni bai bod eich beic wedi’i adeiladu neu’i addasu i’w gario
  • dal gafael ar gerbyd neu ôl-gerbyd sy’n symud
  • seiclo mewn ffordd sy’n beryglus, yn ddiofal neu’n anystyriol
  • seiclo o dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau, gan gynnwys meddyginiaeth

[Cyfraith RTA 1988 adrannau 24, 26, 28, 29 a 30 fel y’i diwygiwyd gan RTA 1991]

69

RHAID i chi ufuddhau i’r holl arwyddion traffig ac arwyddion goleuadau traffig.

[Cyfreithiau RTA 1988 adran 36 a TSRGD rheoliad 10(1)]

70

Wrth barcio eich beic

  • chwiliwch am leoliad amlwg lle gellir ei weld gan bobl sy’n mynd heibio
  • defnyddiwch standiau beics neu gyfleusterau parcio beics pan fo hynny’n bosib
  • peidiwch â’i adael mewn man lle gallai achosi rhwystr neu berygl i ddefnyddwyr eraill y ffordd
  • clymwch ef yn ddiogel fel na fydd yn disgyn drosodd ac yn achosi rhwystr neu berygl

71

RHAID I CHI BEIDIO â chroesi’r llinell stopio pan fydd y goleuadau traffig yn goch. Mae gan rai cyffyrdd flaen-linell stopio i’ch galluogi i aros a symud i’ch safle o flaen traffig arall (gweler Rheol 178).

[Cyfreithiau RTA 1988 adran 36 a TSRGD rheoliadau 10 a 36(1)]

Cyffyrdd

72

Ar y chwith. Wrth ddod at gyffordd ar y chwith, gwyliwch am gerbydau sy’n troi i mewn i neu allan o’r ffordd ochr o’ch blaen. Yn union cyn i chi droi, dylech edrych am seiclwyr neu feicwyr modur sy’n pasio ar y tu mewn. Peidiwch â seiclo ar y tu mewn i gerbydau sy’n arwyddo neu’n arafu i droi i’ch chwith.

73

Dylech roi sylw arbennig i gerbydau hir y mae angen llawer iawn o le arnynt i symud ar gorneli. Byddwch yn ymwybodol efallai na fydd gyrwyr yn gallu eich gweld. Efallai y bydd rhaid iddynt symud draw i’r dde cyn troi i’r chwith. Arhoswch nes byddant wedi gorffen symud oherwydd daw’r olwynion ôl yn agos iawn at ymyl y palmant wrth droi. Peidiwch â chael eich temtio i seiclo yn y bwlch rhyngddynt ac ymyl y palmant.

74

Ar y dde. Os ydych yn troi i’r dde, edrychwch ar y traffig i wneud yn siŵr ei bod yn ddiogel. Yna, rhowch arwydd a symudwch i ganol y ffordd. Arhoswch nes bod bwlch diogel yn y traffig sy’n dod tuag atoch a rhowch un edrychiad olaf arall cyn gorffen troi. Gallai fod yn fwy diogel aros ar y chwith nes daw bwlch addas, neu ddod oddi ar eich beic a’i wthio ar draws y ffordd.

75

Ffyrdd Deuol. Cofiwch fod y traffig ar y rhan fwyaf o ffyrdd deuol yn symud yn gyflym. Wrth groesi, dylech aros am fwlch diogel ac yna groesi pob lôn yn ei thro. Cymerwch ofal arbennig wrth groesi slipffyrdd.

Cylchfannau

76

Ceir manylion llawn am y drefn gywir ar gylchfannau yn Rheolau 184-190. Gall cylchfannau fod yn beryglus a dylech fod yn ofalus arnynt.

77

Efallai y byddwch yn teimlo’n fwy diogel yn cerdded gyda’ch beic o gwmpas y gylchfan ar y palmant neu ar ymyl y ffordd. Os byddwch yn penderfynu seiclo o’i gwmpas gan gadw i’r lôn ar y chwith, dylech

  • fod yn ymwybodol na fydd gyrwyr yn gallu eich gweld yn hawdd efallai
  • cymryd mwy o ofal wrth seiclo ar draws allanfeydd. Efallai y bydd angen i chi roi arwydd i’r dde i ddangos nad ydych yn gadael y gylchfan
  • gwylio am gerbydau sy’n croesi eich llwybr i adael neu ymuno â’r gylchfan

78

Rhowch ddigon o le i gerbydau hir ar y gylchfan gan fod angen mwy o le arnynt i symud. Peidiwch â seiclo yn y lle y mae ei angen arnynt i fynd o amgylch y gylchfan. Efallai y bydd yn fwy diogel i chi aros nes byddant wedi gadael y gylchfan.

Croesi’r ffordd

79

Peidiwch â seiclo ar draws croesfannau i geffylau oherwydd mai croesfannau i bobl ar gefn ceffyl ydynt. Peidiwch â seiclo ar draws croesfan belican, pâl neu sebra. Dylech ddod oddi ar eich beic a’i wthio ar draws.

80

Croesfannau twcan. Croesfannau a reolir gan oleuadau yw’r rhain sy’n gadael i seiclwyr a cherddwyr rannu’r un llwybr a chroesi yr un pryd. Cânt eu gweithio drwy wasgu botwm. Bydd cerddwyr a seiclwyr yn gweld yr arwydd gwyrdd gyda’i gilydd. Caniateir i bobl ar gefn beic seiclo ar draws.

81

Croesfannau seiclo yn unig. Gall llwybrau beiciau ar y ddwy ochr i’r ffordd fod wedi’u cysylltu gan groesfannau sydd ag arwyddion arnynt. Gallwch seiclo ar eu traws ond RHAID I CHI BEIDIO â chroesi nes bydd y symbol seiclo gwyrdd yn ymddangos.

[Cyfraith TSRGD rheoliadau 33(2) a 36(1)]

82

Croesfannau rheilffordd/Tramffyrdd. Cymerwch ofal arbennig wrth groesi’r traciau (gweler Rheol 306). Dylech ddod oddi ar gefn eich beic ar groesfannau rheilffordd os oes arwydd yn gofyn i chi wneud hynny.

Additional links

Rhaglen iPhone Rheolau’r Ffordd Fawr

Cael yr holl reolau’r ffordd ac arwyddion traffig diweddaraf ar flaenau’ch bysedd

Rheolau’r Ffordd Fawr – cael negeseuon atgoffa

Cael negeseuon atgoffa ynghylch Rheolau’r Ffordd Fawr drwy ei ddilyn ar Trydar (Twitter) a Facebook

Cymorth gyda ffeiliau PDF

I weld ffeiliau PDF bydd angen Adobe Reader arnoch. Mae’r rhaglen ar gael yn rhwydd os nad yw gennych eisoes.

Defnyddwyr y ffordd a'r gyfraith

Cael gwybod pa gyfreithiau a rheoliadau gellir darllen ar-lein

Allweddumynediad llywodraeth y DU