Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Pasio (162-169)

162

Cyn pasio dylech wneud yn siŵr

  • bod y ffordd yn ddigon clir o’ch blaen
  • nad oes defnyddwyr ffordd yn dechrau eich pasio chi
  • bod bwlch digonol o flaen y defnyddiwr ffordd yr ydych yn bwriadu’i basio

163

Dim ond pan fydd yn ddiogel ac yn gyfreithlon i basio y dylech wneud hynny. Dylech

  • beidio â mynd yn rhy agos at y cerbyd yr ydych yn bwriadu’i basio
  • defnyddio eich drychau, rhoi arwydd pan fydd yn ddiogel i wneud hynny, taro cipolwg sydyn os oes angen ar y man dall ac yna dechrau symud allan
  • peidio â chymryd yn ganiataol y gallwch ddilyn cerbyd o’ch blaen sy’n pasio; mae’n bosibl nad oes ond digon o le i un cerbyd
  • symud heibio’n gyflym i’r cerbyd yr ydych yn ei basio, unwaith i chi ddechrau pasio. Gadewch ddigon o le. Symudwch yn ôl i’r chwith cyn gynted â phosibl ond peidiwch â thorri i mewn
Rheol 163 Rhoi o leiaf gymaint o le i ddefnyddwyr fordd sydd fwyaf agored i niwed ag y byddech yn ei roi i gar
  • cymryd gofal arbennig yn y nos ac mewn gwelededd gwael pan fydd yn fwy anodd barnu cyflymder a phellter
  • ildio i gerbydau sy’n dod tuag atoch cyn pasio cerbydau wedi’u parcio neu rwystrau eraill ar eich ochr chi o’r ffordd
  • pasio ar y chwith dim ond os yw’r cerbyd o’ch blaen wedi rhoi arwydd ei fod yn troi i’r dde, a bod digon o le i wneud hynny
  • aros yn eich lôn os bydd y traffig yn symud yn araf mewn ciwiau. Os bydd y ciw ar y dde yn symud yn arafach na chi, gallwch basio ar y chwith
  • rhoi o leiaf gymaint o le i feicwyr modur, seiclwyr a phobl ar gefn ceffylau ag y byddech yn ei roi i gar wrth basio (gweler Rheolau 211-215).

Cofiwch: Drychau - Rhoi Arwydd - Symud

164

Cerbydau mawr. Mae pasio’r rhain yn fwy anodd. Dylech

  • ddal yn ôl. Bydd hyn yn cynyddu eich gallu i weld ymlaen a dylai hyn alluogi gyrrwr y cerbyd mawr i’ch gweld yn ei ddrychau. Bydd symud yn rhy agos at gerbyd mawr, gan gynnwys cerbydau amaethyddol megis tractor gydag ôl-gerbyd neu ddarn o offer yn sownd iddo, yn golygu nad ydych yn gallu gweld cymaint o’r ffordd o’ch blaen a gallai fod cerbyd arall sy’n symud yn araf o flaen hwnnw
Rheol 164: Peidiwch â thorri i mewn yn rhy sydyn
  • gwneud yn siŵr fod gennych ddigon o le i gwblhau’ch symudiad pasio cyn mentro. Mae’n cymryd mwy o amser i fynd heibio i gerbyd mawr. Os nad ydych yn sicr, peidiwch â phasio
  • peidio â chymryd yn ganiataol y gallwch ddilyn cerbyd o’ch blaen sy’n pasio cerbyd hir. Os bydd problem yn datblygu, efallai y bydd yn rhoi’r gorau i’r ymgais ac yn tynnu’n ôl

165

RHAID I CHI BEIDIO â phasio

  • os byddai rhaid i chi groesi neu yrru bob ochr i linellau gwyn dwbl sydd â llinell ddi-dor agosaf atoch chi (ond gweler Rheol 129)
  • os byddai rhaid i chi fynd i ardal sydd wedi ei bwriadu i rannu’r traffig, os yw wedi ei hamgylchynu â llinell wen ddi-dor
  • y cerbyd agosaf at groesfan i gerddwyr, yn enwedig pan fydd wedi stopio i adael i gerddwyr groesi
  • os byddai rhaid i chi fynd ar lôn sydd wedi’i chadw ar gyfer bysiau, tramiau neu feiciau yn ystod yr oriau pan fydd yn cael ei defnyddio
  • ar ôl arwydd 'Dim Pasio' nes byddwch yn mynd heibio arwydd sy’n diddymu’r cyfyngiad

[Cyfreithiau RTA 1988 adran 36, TSRGD rheoliadau 10, 22, 23 a 24, ZPPPCRGD rheoliad 24]

166

PEIDIWCH â phasio os oes unrhyw amheuaeth, neu lle na allwch weld yn ddigon pell o’ch blaen i fod yn siŵr a yw’n ddiogel. Er enghraifft, pan fyddwch yn agosáu at

  • gornel neu dro
  • pont gefngrwm
  • ael bryn

167

PEIDIWCH â phasio lle gallech wrthdaro â defnyddwyr eraill y ffordd. Er enghraifft

  • wrth ddod at gyffordd ar y naill ochr neu’r llall o’r ffordd
  • lle mae’r ffordd yn culhau
  • wrth ddod at batrôl croesfan ysgol
  • rhwng ymyl y palmant a bws neu dram pan fydd wedi stopio
  • lle mae traffig yn ciwio wrth gyffordd neu waith ffordd
  • os byddech yn gorfodi defnyddiwr arall y ffordd i wyro neu arafu
  • wrth groesfan reilffordd
  • pan fydd defnyddiwr ffordd yn rhoi arwydd i’r dde, hyd yn oed os ydych yn credu y dylai’r arwydd fod wedi cael ei ganslo. Peidiwch â mentro, arhoswch nes i’r arwydd gael ei ganslo
  • os ydych yn dilyn seiclwr wrth agosáu at gylchfan neu gyffordd, a’ch bod chi am droi i’r chwith, dylech aros y tu ôl iddo
  • os yw tram yn sefyll ger man stopio ar ymyl y palmant i dramiau ac nid oes lôn basio wedi’i marcio ar gyfer traffig eraill

168

Cael eich pasio. Os oes gyrrwr yn ceisio’ch pasio chi, dylech gadw at gwrs a chyflymder cyson, gan arafu os oes rhaid i chi adael i’r cerbyd fynd heibio. Peidiwch byth â rhwystro gyrwyr sydd am basio. Mae cyflymu neu yrru’n anwadal wrth i rywun eich pasio yn beryglus. Tynnwch yn ôl er mwyn sicrhau bwlch dwy eiliad os bydd rhywun yn pasio ac yn tynnu i mewn i fwlch o’ch blaen.

169

Peidiwch â dal ciw hir o draffig, yn enwedig os ydych yn gyrru cerbyd mawr neu gerbyd sy’n symud yn araf. Edrychwch yn eich drych yn aml ac, os oes rhaid, tynnwch i mewn i fan diogel i adael i’r traffig fynd heibio.

Tudalen blaenorol/tudalen nesaf

Additional links

Rhaglen iPhone Rheolau’r Ffordd Fawr

Cael yr holl reolau’r ffordd ac arwyddion traffig diweddaraf ar flaenau’ch bysedd

Rheolau’r Ffordd Fawr – cael negeseuon atgoffa

Cael negeseuon atgoffa ynghylch Rheolau’r Ffordd Fawr drwy ei ddilyn ar Trydar (Twitter) a Facebook

Cymorth gyda ffeiliau PDF

I weld ffeiliau PDF bydd angen Adobe Reader arnoch. Mae’r rhaglen ar gael yn rhwydd os nad yw gennych eisoes.

Defnyddwyr y ffordd a'r gyfraith

Cael gwybod pa gyfreithiau a rheoliadau gellir darllen ar-lein

Allweddumynediad llywodraeth y DU