Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Gwener, 5 Hydref 2012

Cyffyrdd (170-183)

170

Cymerwch ofal arbennig wrth gyffyrdd. Dylech

  • wylio am seiclwyr, beicwyr modur, cadeiriau olwyn/sgwteri symudedd â phŵer, a cherddwyr gan nad ydynt bob amser yn hawdd i’w gweld. Byddwch yn ymwybodol nad ydynt efallai wedi’ch gweld neu’ch clywed chi os ydych yn dod o’r tu ôl iddynt
  • gwylio am gerddwyr sy’n croesi ffordd yr ydych yn troi i mewn iddi. Os ydynt wedi dechrau croesi, nhw sydd â’r flaenoriaeth, felly dylech ildio
  • gwyliwch am gerbydau hirion a allai fod yn troi ar gyffordd o’ch blaen; efallai y bydd rhaid iddynt ddefnyddio holl led y ffordd er mwyn troi (gweler Rheol 221)
Rheol 170: Dylech ildio i gerddwyr sydd wedi dechrau croesi
  • gwyliwch am bobl ar gefn ceffylau a all gymryd llinell wahanol ar y ffordd i’r un y byddech chi’n ei disgwyl
  • peidio â rhagdybio, wrth aros wrth gyffordd, fod cerbyd sy’n dod o’r dde ac sy’n rhoi arwydd i’r chwith yn mynd i droi mewn gwirionedd. Arhoswch i wneud yn siŵr
  • edrychwch i bob cyfeiriad cyn tynnu allan. Peidiwch â chroesi nac ymuno â ffordd nes bydd bwlch sy’n ddigon mawr i chi wneud hynny’n ddiogel

171

Wrth gyffordd ag arwydd 'Stop' a llinell wen, ddi-dor ar draws y ffordd, RHAID stopio y tu ôl i’r llinell. Arhoswch am fwlch diogel yn y traffig cyn dechrau symud.

[Cyfreithiau RTA 1988 adran 36 a TSRGD rheoliadau 10 a 16]

172

Gall fod arwydd 'Ildiwch/Give Way' neu driongl wedi’i farcio ar y ffordd wrth ddod at gyffordd. RHAID i chi ildio i draffig ar y briffordd wrth ddod allan o gyffordd sydd â llinellau gwyn bylchog ar draws y ffordd.

[Cyfreithiau RTA 1988 adran 36 a TSRGD rheoliadau 10(1),16(1) a 25]

Rheol 173: Cofiwch asesu hyd eich cerbyd a pheidiwch â rhwystro’r traffig

173

Ffyrdd deuol. Wrth groesi neu droi i’r dde, dylech yn gyntaf asesu a yw’r llain ganol yn ddigon dwfn i amddiffyn hyd eich cerbyd yn ei gyfanrwydd.

  • os yw, dylech drin dwy hanner y ffordd ddeuol fel ffordd ar wahân. Arhoswch ar y llain galed nes bod bwlch diogel yn y traffig ar ail hanner y ffordd
  • os nad yw’r llain ganol yn ddigon dwfn ar gyfer hyd eich cerbyd, arhoswch nes gallwch groesi’r ddwy lôn ar unwaith
Rheol 174 Dim ond os yw’ch ffordd allan yn glir y dylech fynd i mewn i gyffordd sgwâr

174

Cyffyrdd Sgwâr. Mae gan y rhain linellau melyn cris-croes wedi’u peintio ar y ffordd (gweler 'Marciau ar y ffordd'). RHAID I CHI BEIDIO â mynd i mewn i’r sgwâr nes bydd eich ffordd allan neu’ch lôn allan yn glir. Fodd bynnag, gallwch fynd i’r sgwâr ac aros pan fyddwch am droi i’r dde ac mai dim ond traffig yn dod tuag atoch sy’n eich rhwystro rhag gwneud hynny, neu gerbydau eraill sy’n aros i droi i’r dde. Ar gylchfannau ag arwyddion arnynt RHAID I CHI BEIDIO â mynd i mewn i’r sgwâr oni bai eich bod yn gallu ei groesi’n gyfan gwbl heb stopio.

[Cyfraith TSRGD rheoliadau 10(1) a 29(2)]

Cyffyrdd a reolir gan oleuadau traffig

175

RHAID i chi stopio y tu ôl i’r llinell wen 'Stop' ar draws eich ochr chi o’r ffordd oni bai bod y golau’n wyrdd. Os yw’r golau ambr yn ymddangos gallwch fynd yn eich blaen, ond dim ond os ydych wedi croesi’r llinell stopio’n barod neu eich bod mor agos ati fel y gallai stopio achosi gwrthdrawiad.

[Cyfreithiau RTA 1988 adran 36 a TSRGD rheoliadau 10 a 36]

176

RHAID I CHI BEIDIO â symud yn eich blaen dros y llinell wen pan fydd y golau coch i’w weld. Ewch yn eich blaen pan fydd y goleuadau traffig yn wyrdd, ond dim ond os oes lle i chi groesi’r gyffordd yn ddiogel neu eich bod yn cymryd eich priod le i droi i’r dde. Os nad yw’r goleuadau traffig yn gweithio, dylech drin y sefyllfa fel pe baech wrth gyffordd heb farciau a symud ymlaen yn ofalus iawn.

[Cyfreithiau RTA 1988 adran 36 a TSRGD rheoliadau 10 a 36]

177

Saeth ffilter werdd. Lôn ffilter yn unig sy’n cael ei dangos gan hon. Peidiwch â mynd i’r lôn honno oni bai eich bod am fynd i gyfeiriad y saeth. Gallwch fynd i gyfeiriad y saeth werdd pan fydd hi, neu’r golau gwyrdd llawn i’w weld. Rhowch le ac amser i draffig arall symud i’r lôn gywir, beicwyr yn arbennig.

Rheol 178: Peidiwch â chroesi drosodd yn ddiangen i’r ardal lle mae seiclwyr yn aros

178

Blaen-linellau stopio. Mae gan rai cyffyrdd sy’n cael eu rheoli gan signalau flaen-linellau stopio fel bod modd i seiclwyr gymryd eu lle o flaen gweddill y traffig.

RHAID i fodurwyr, gan gynnwys beicwyr modur, stopio wrth y llinell wen gyntaf os yw’r golau yn ambr neu’n goch a dylent osgoi blocio’r ffordd neu groesi drosodd i’r ardal wedi’i marcio ar adegau eraill, e.e. os yw’r gyffordd o’u blaen wedi’i blocio. Os yw eich cerbyd wedi croesi’r llinell wen gyntaf pan fo’r signal yn troi’n goch, RHAID i chi stopio wrth yr ail linell wen, hyd yn oed os yw eich cerbyd yn yr ardal wedi’i farcio. Gadewch amser a lle i seiclwyr symud i ffwrdd pan fydd y golau gwyrdd yn ymddangos.

[Cyfreithiau RTA 1988 adran 36 a TSRGD rheoliadau 10, 36(1) a 43(2)]

Troi i’r dde

179

Ymhell cyn troi i’r dde, dylech

  • ddefnyddio’ch drychau i wneud yn siŵr eich bod yn gwybod safle a symudiad y traffig y tu ôl i chi
  • rhoi arwydd i droi i’r dde
  • cymryd eich safle priodol ychydig i’r chwith o ganol y ffordd neu yn y man a nodir ar gyfer traffig sy’n troi i’r dde
  • gadael lle i gerbydau eraill fynd heibio ar y chwith os yw’n bosibl

180

Arhoswch nes bydd bwlch diogel rhyngoch ac unrhyw gerbyd sy’n dod tuag atoch. Gwyliwch am seiclwyr, beicwyr modur, cerddwyr a defnyddwyr eraill y ffordd. Edrychwch yn eich drychau ac i gyfeiriad y man dall unwaith eto i wneud yn siŵr nad oes neb yn eich pasio, yna gwnewch y tro. Peidiwch â thorri’r gornel. Cymerwch ofal mawr wrth droi i briffordd; bydd angen i chi wylio am draffig o’r ddau gyfeiriad ac aros am fwlch diogel.

Cofiwch: Drychau - Rhoi Arwydd - Symud

Rheol 180: Ewch i’ch safle priodol er mwyn osgoi rhwystro’r traffig

181

Wrth droi i’r dde ar groesffordd lle mae cerbyd sy’n dod tuag atoch hefyd yn troi i’r dde, mae gennych ddau ddewis

  • trowch ochr dde i ochr dde; cadwch y cerbyd arall ar y dde i chi a throwch y tu ôl iddo. Dyma gan amlaf yw’r dull mwyaf diogel gan y gallwch weld yn glir a oes unrhyw draffig yn dod wrth gwblhau eich tro
  • ochr chwith i ochr chwith, gan droi o flaen eich gilydd. Gall hyn eich rhwystro rhag gweld cerbydau sy’n dod, felly dylech gymryd gofal arbennig. Gall seiclwyr a beicwyr modur yn arbennig fod wedi’u cuddio o’ch golwg. Gall cynllun y ffordd, marciau ar y ffordd, neu safle’r cerbyd arall bennu pa ddewis ddylech chi ei gymryd
Rheol 181: Troi ochr dde i ochr dde. Troi ochr chwith i ochr chwith

Troi i’r chwith

182

Defnyddiwch eich drychau a rhowch arwydd i droi i’r chwith ymhell cyn i chi droi. Peidiwch â phasio rhywbeth yn union cyn ichi droi i’r chwith a gwyliwch am draffig sy’n dod i fyny ar y chwith i chi cyn i chi droi, yn enwedig wrth yrru cerbyd mawr. Gall seiclwyr, beicwyr modur a defnyddwyr eraill y ffordd yn arbennig fod wedi’u cuddio o’ch golwg.

Rheol 182: Peidiwch â thorri ar draws seiclwyr

183

Wrth droi

  • cadwch mor agos i’r chwith ag sy’n ddiogel ac yn ymarferol
  • ildiwch i unrhyw gerbydau sy’n defnyddio lôn fysiau, lôn feiciau neu dramffordd o’r naill gyfeiriad a’r llall

Tudalen blaenorol/tudalen nesaf

Additional links

Rhaglen iPhone Rheolau’r Ffordd Fawr

Cael yr holl reolau’r ffordd ac arwyddion traffig diweddaraf ar flaenau’ch bysedd

Rheolau’r Ffordd Fawr – cael negeseuon atgoffa

Cael negeseuon atgoffa ynghylch Rheolau’r Ffordd Fawr drwy ei ddilyn ar Trydar (Twitter) a Facebook

Cymorth gyda ffeiliau PDF

I weld ffeiliau PDF bydd angen Adobe Reader arnoch. Mae’r rhaglen ar gael yn rhwydd os nad yw gennych eisoes.

Defnyddwyr y ffordd a'r gyfraith

Cael gwybod pa gyfreithiau a rheoliadau gellir darllen ar-lein

Allweddumynediad llywodraeth y DU