Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Defnyddwyr y ffordd sy'n gofyn am ofal arbennig (204-225)

Mae Rheolau’r Ffordd Fawr yn berthnasol i Gymru, Lloegr a’r Alban. Dylai pawb ddarllen Rheolau’r Ffordd Fawr.

204

Y rhai sydd mewn mwyaf o berygl ar y ffordd yw cerddwyr, seiclwyr, beicwyr modur a phobl ar gefn ceffylau. Mae’n bwysig iawn eich bod yn ymwybodol o blant, pobl hŷn a phobl anabl, a gyrwyr a beicwyr sy’n dysgu neu’n ddibrofiad.

Cerddwyr

205

Mae perygl y bydd cerddwyr, yn enwedig plant, yn camu’n annisgwyl i’r ffordd. Dylech yrru gyda diogelwch plant mewn golwg ar gyflymder sy’n addas i’r amgylchiadau.

206

Gyrrwch yn ofalus ac yn araf

  • mewn strydoedd siopa prysur, mewn Parthau Cartrefi (Home Zones) a Lonydd Tawel (Quiet Lanes) (gweler Rheol 218) neu mewn ardaloedd preswyl
  • wrth yrru heibio i safleoedd bws a thram; gall cerddwyr gamu’n ddisymwth i’r ffordd
  • wrth fynd heibio i gerbydau sydd wedi’u parcio, yn enwedig faniau hufen iâ; mae gan blant fwy o ddiddordeb mewn hufen iâ na thraffig a gallant redeg i’r ffordd yn annisgwyl
  • pan fydd angen croesi palmant neu lwybr beiciau; er enghraifft, i fynd i mewn neu allan o ddreif. Ildiwch i gerddwyr a seiclwyr ar y palmant
  • wrth facio i ffordd gefn; edrychwch o gwmpas y cerbyd i gyd ac ildiwch i unrhyw gerddwyr sy’n croesi’r ffordd
  • wrth droi ar gyffyrdd; ildiwch i gerddwyr sydd eisoes yn croesi’r ffordd yr ydych yn troi iddi
  • lle mae’r palmant wedi’i gau oherwydd gwaith atgyweirio a bod cerddwyr yn cael eu cyfarwyddo i ddefnyddio’r ffordd
  • wrth agosáu at gerddwyr ar ffyrdd cefn gwlad cul os nad oes llwybr cerdded na llwybr troed ar gael. Dylech arafu bob amser a bod yn barod i stopio os oes angen, gan roi digon o le iddynt wrth i chi yrru heibio
Rheol 206: Gwyliwch am blant mewn mannau prysur

207

Cerddwyr sy’n arbennig o ddiamddiffyn. Ymhlith y rhain mae

  • plant a cherddwyr hŷn nad ydynt, efallai, yn gallu barnu eich cyflymder ac a allai gamu i’r ffordd o’ch blaen. Ar 40 mya (64 km/awr) mae’n bur debyg y bydd eich cerbyd yn lladd unrhyw gerddwyr y bydd yn eu taro. Ar 20 mya (32 km/awr), dim ond 1 cerddwr mewn 20 fydd yn cael ei ladd. Felly, pwyllwch
  • cerddwyr hŷn y mae angen mwy o amser arnynt efallai i groesi’r ffordd. Byddwch yn amyneddgar a gadewch iddynt groesi yn eu hamser eu hunain. Peidiwch â refio eich injan na symud ymlaen yn araf
  • pobl anabl. Efallai na fydd pobl gyda nam ar eu clyw yn ymwybodol o’ch cerbyd yn agosáu. Mae angen mwy o amser ar bobl gydag anawsterau cerdded
  • pobl ddall neu rannol ddall, sydd efallai yn cario ffon wen neu’n defnyddio ci arwain. Efallai na fyddant yn gallu eich gweld yn agosáu
  • pobl ddall a byddar sydd efallai yn cario ffon wen gyda rhwymyn coch neu’n defnyddio ci gyda harnais coch a gwyn. Efallai na fyddant yn gweld nac yn clywed cyfarwyddiadau na signalau

208

Ger ysgolion. Gyrrwch yn araf a byddwch yn arbennig o ymwybodol o feicwyr a cherddwyr ifanc. Mewn rhai mannau, efallai y bydd arwydd ambr yn fflachio islaw arwydd rhybudd 'Ysgol' sy’n dweud wrthych y gallai fod plant yn croesi’r ffordd o’ch blaen. Gyrrwch yn ofalus iawn nes byddwch allan o’r ardal.

209

Gyrrwch yn ofalus ac yn araf wrth fynd heibio i fws sy’n sefyll yn ei unfan sy’n dangos arwydd ‘Bws Ysgol’ (gweler 'Marciau ar gerbydau') oherwydd gallai fod plant yn camu ar neu oddi ar y bws.

210

RHAID i chi stopio pan fydd rheolwr croesfan ysgol yn dangos arwydd 'Stop i blant' (gweler 'Arwyddion gan bersonau ag awdurdod' ac 'Arwyddion traffig sy’n rhoi gorchmynion').

[Cyfraith RTRA adran 28]

Beicwyr modur a seiclwyr

211

Yn aml, mae’n anodd gweld beicwyr modur a seiclwyr, yn enwedig pan fyddant yn dod tuag atoch o’r tu ôl, yn dod o gyffyrdd, ar gylchfannau, wrth eich pasio neu’n gwau trwy’r traffig. Gwyliwch amdanynt bob amser pan fyddwch yn dod allan o gyffordd; gallant fod yn dod yn gynt nag a dybiwch. Pan fyddwch yn troi i’r dde ar draws rhes o draffig sy’n symud yn araf neu’n aros yn eu hunfan, gwyliwch am seiclwyr neu feicwyr modur ar ochr fewnol y traffig rydych chi’n croesi ar eu traws. Byddwch yn hynod o ofalus wrth droi, ac wrth newid cyfeiriad neu lôn. Gwnewch yn siŵr eich bod yn edrych yn ofalus yn eich drychau a thuag at y mannau dall.

Rheol 211: Gwyliwch am feicwyr modur a seiclwyr ar gyffyrdd

212

Wrth fynd heibio i feicwyr modur a seiclwyr, rhowch ddigon o le iddynt (gweler Rheolau 162-167). Os ydynt yn edrych yn ôl dros eu hysgwydd, gall hynny olygu eu bod yn bwriadu tynnu allan, troi i’r dde neu newid cyfeiriad. Rhowch amser a lle iddynt wneud hynny.

213

Efallai y bydd angen i feicwyr modur a seiclwyr osgoi wyneb anwastad ar y ffordd yn sydyn, a rhwystrau megis caeadau draeniau neu ddarnau olewog, gwlyb neu rewllyd o’r ffordd. Rhowch ddigon o le iddynt a thalwch sylw arbennig rhag ofn y bydd rhaid iddynt newid cyfeiriad yn sydyn.

Defnyddwyr eraill y ffordd

214

Anifeiliaid. Wrth fynd heibio i anifeiliaid, gyrrwch yn araf. Rhowch ddigon o le iddynt a byddwch yn barod i stopio. Peidiwch â chodi braw ar anifeiliaid drwy ganu’ch corn, refio’ch injan na gwasgu’n drwm ar y sbardun ar ôl i chi fynd heibio iddynt. Gwyliwch am anifeiliaid sy’n cael eu harwain, eu gyrru neu eu marchogaeth ar y ffordd a chymrwch fwy o ofal. Pwyllwch ar gorneli ac ar ffyrdd cefn gwlad cul. Os bydd ffordd wedi’i llenwi gan haid o anifeiliaid, stopiwch a diffoddwch eich injan nes byddant wedi gadael y ffordd. Gwyliwch am anifeiliaid ar ffyrdd sydd heb eu ffensio.

215

Pobl ar gefn ceffylau a cherbydau sy’n cael eu tynnu gan geffylau. Byddwch yn arbennig o ofalus o bobl ar gefn ceffylau ac o gerbydau sy’n cael eu tynnu gan geffylau, yn enwedig wrth eu pasio. Pasiwch yn araf a chan adael digon o le iddynt bob amser. Yn aml, plant sydd ar gefn ceffylau, felly cymerwch ofal mawr a chofiwch y caiff dau geffyl gerdded ochr yn ochr â’i gilydd pan fydd un marchog yn hebrwng marchog neu geffyl dibrofiad. Gwyliwch am bobl ar gefn ceffylau neu bobl sy’n gyrru ceffylau yn rhoi arwyddion ac ymatebwch i gais ganddynt i arafu neu stopio. Byddwch yn hynod ofalus a thrin pob ceffyl fel perygl posibl.

216

Gyrwyr hŷn. Efallai y byddant yn ymateb yn arafach na gyrwyr eraill. Rhaid cymryd hyn i ystyriaeth.

217

Dysgwyr a gyrwyr amhrofiadol. Efallai nad oes ganddynt gymaint o allu i ragweld ac ymateb i ddigwyddiadau. Byddwch yn amyneddgar iawn gyda dysgwyr a gyrwyr ifanc. Gall gyrwyr sydd newydd basio’u prawf ddangos plât neu sticer ‘gyrrwr newydd’ (gweler 'Cod diogelwch ar gyfer gyrwyr newydd').

Quiet Lane
Home Zone

218

Parthau Cartrefi (Home Zones) a Lonydd Tawel (Quiet Lanes). Llefydd yw’r rhain lle gall pobl fod yn defnyddio’r ffordd gyfan ar gyfer amrywiol weithgareddau, megis plant yn chwarae neu ddigwyddiad cymunedol. Dylech yrru’n araf ac yn ofalus gan fod yn barod i stopio er mwyn rhoi mwy o amser i bobl i’ch gadael i fynd heibio iddynt yn ddiogel.

Cerbydau eraill

219

Cerbydau Argyfwng a Cherbydau Cefnogi adeg Digwyddiadau. Dylech edrych a gwrando am ambiwlans, injan dân, cerbydau heddlu neu feddyg neu gerbydau argyfwng eraill sy’n defnyddio goleuadau glas, coch neu wyrdd sy’n fflachio a seirenau neu oleuadau blaen sy’n fflachio, neu gerbydau Swyddog Traffig yr Asiantaeth Priffyrdd a cherbydau Cefnogi adeg Digwyddiad sy’n defnyddio goleuadau ambr sy’n fflachio. Pan fydd un yn agosáu, peidiwch â mynd i banig. Ystyriwch pa ffordd y mae’r cerbyd yn mynd a chymerwch gamau priodol er mwyn gadael iddo fynd heibio, tra’n cydymffurfio â’r holl signalau traffig. Os oes angen, tynnwch i mewn i un ochr y ffordd a stopio, ond ceisiwch osgoi stopio cyn ael bryn, cornel neu ddarn cul o’r ffordd. Peidiwch â rhoi eich hun, defnyddwyr eraill y ffordd na cherddwyr mewn perygl a cheisiwch osgoi rhag mynd ar y palmant. Peidiwch â brecio’n galed wrth agosáu at gyffordd neu gylchfan, oherwydd efallai nad yw gyrrwr y cerbyd y tu ôl i chi yn gallu gweld yr un peth â chi.

220

Cerbydau â phŵer a ddefnyddir gan bobl anabl. Gall y cerbydau bach hyn deithio ar gyflymder uchaf o 8 mya (12 km/awr). Ar ffordd ddeuol lle mae’r cyfyngiad cyflymder yn uwch na 50 mya (80 km/awr) RHAID iddynt gael golau ambr sy’n fflachio, ond ar ffyrdd eraill, mae’n bosibl na chewch y rhybudd hwnnw ymlaen llaw (gweler Rheolau 36 i 46).

[Cyfraith RVLR rheoliad 17(1) a 26]

221

Cerbydau mawr. Efallai y bydd angen mwy o le ar y rhain i droi neu i ddelio â pherygl nad ydych chi’n gallu ei weld. Os ydych yn dilyn cerbyd mawr, megis bws neu lori gymalog, cadwch mewn cof efallai nad yw’r gyrrwr yn gallu eich gweld yn ei ddrychau. Byddwch yn barod i stopio ac aros os bydd angen lle neu amser arno i droi.

Rheol 221: Mae angen fwy o le ar gerbydau mawr

222

Gall cerbydau mawr eich rhwystro rhag gweld. Bydd eich gallu i weld a chynllunio ymlaen yn gwella os tynnwch yn ôl i gynyddu’r pellter sydd rhyngoch. Byddwch yn amyneddgar, oherwydd mae cyfyngiadau cyflymder is i gerbydau mwy o’i gymharu â cheir a beiciau modur. Mae dyfeisiau i gyfyngu ar gyflymder wedi’u gosod ar lawer o gerbydau mawr sy’n cyfyngu eu cyflymder i 56 mya (90 km/awr), hyd yn oed ar draffordd.

223

Bysiau, bysiau moethus a thramiau. Rhowch flaenoriaeth i’r cerbydau hyn pan fyddwch yn gallu gwneud hynny’n ddiogel, yn enwedig pan fyddant yn rhoi arwydd i dynnu allan o arhosfan. Gwyliwch am bobl sy’n dod oddi ar fws neu dram ac yn croesi’r ffordd.

224

Cerbydau trydan. Byddwch yn ofalus o gerbydau trydan megis faniau llefrith a thramiau. Mae tramiau’n symud yn gyflym a thawel ac ni allant lywio i’ch osgoi.

225

Cerbydau sydd â goleuadau ambr sy’n fflachio. Mae’r rhain yn rhoi rhybudd am gerbydau sy’n symud yn araf neu sy’n aros yn eu hunfan (megis cerbyd Swyddog Traffig, cerbyd graeanu, aradr eira neu gerbyd cludo-i’r-garej) neu lwythi anarferol, felly dylech fynd yn eich blaen gyda gofal. Ar ffyrdd deuol diamod, RHAID i gerbydau modur a ddefnyddiwyd gyntaf ar neu ar ôl lonawr 1947, gydag uchafswm cyflymder o 25 mya (40 km/awr) neu lai (megis tractorau) ddefnyddio goleuadau ambr sy’n fflachio (gweler hefyd Rheol 220).

[Cyfraith RVLR 1989, rheoliad 17]

Additional links

Rhaglen iPhone Rheolau’r Ffordd Fawr

Cael yr holl reolau’r ffordd ac arwyddion traffig diweddaraf ar flaenau’ch bysedd

Rheolau’r Ffordd Fawr – cael negeseuon atgoffa

Cael negeseuon atgoffa ynghylch Rheolau’r Ffordd Fawr drwy ei ddilyn ar Trydar (Twitter) a Facebook

Cymorth gyda ffeiliau PDF

I weld ffeiliau PDF bydd angen Adobe Reader arnoch. Mae’r rhaglen ar gael yn rhwydd os nad yw gennych eisoes.

Defnyddwyr y ffordd a'r gyfraith

Cael gwybod pa gyfreithiau a rheoliadau gellir darllen ar-lein

Allweddumynediad llywodraeth y DU