Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
(Cerbydau i Bobl Anabl yn ôl diffiniad y gyfraith)
Ceir un dosbarth o gadeiriau olwyn gwthio (a elwir yn gerbyd i bobl anabl Dosbarth 1) a dau ddosbarth o gadeiriau olwyn a sgwteri symudedd â phŵer. Mae gan gadeiriau olwyn gwthio a cherbydau Dosbarth 2 gyfyngiad cyflymder uchaf o 4 mya (6km/awr) ac fe’u dyluniwyd ar gyfer eu defnyddio ar balmentydd. Mae gan gerbydau Dosbarth 3 gyfyngiad cyflymder uchaf o 8 mya (12 km/awr) ac fe allant gael eu defnyddio ar y ffordd yn ogystal ag ar y palmant.
Pan fyddwch chi ar y ffordd, dylech ufuddhau i’r canllawiau a’r rheolau ar gyfer cerbydau eraill; pan fyddwch chi ar y palmant, dylech ddilyn y canllawiau a’r rheolau ar gyfer cerddwyr.
Mae palmentydd yn fwy diogel na’r ffyrdd a dylech eu defnyddio pan fo hynny’n bosib. Dylech roi blaenoriaeth i gerddwyr a rhoi ystyriaeth i ddefnyddwyr eraill y palmant, yn enwedig y rheiny gyda nam ar eu clyw neu eu golwg nad ydynt o bosib yn ymwybodol eich bod chi yno.
RHAID I gadeiriau olwyn a sgwteri â phŵer BEIDIO â theithio’n gynt na 4 mya (6 km/awr) ar balmentydd neu mewn ardaloedd i gerddwyr. Efallai y bydd angen i chi leihau eich cyflymder i addasu i ddefnyddwyr eraill y palmant na fyddant o bosib yn gallu symud o’ch ffordd yn ddigon sydyn neu os yw’r palmant yn rhy gul.
[Cyfraith UICHR 1988 rheoliad 4]
Dylech fod yn hynod o ofalus wrth fynd oddi ar y palmant i’r ffordd. Cyn dechrau gwneud hynny, dylech edrych o’ch cwmpas i sicrhau ei bod hi’n ddiogel i chi ymuno â llif y traffig. Ceisiwch ddefnyddio ymyl palmant isel bob tro wrth symud oddi ar y palmant, hyd yn oed os yw hynny’n golygu teithio fymryn ymhellach i ddod o hyd i un. Os oes rhaid i chi ddringo neu ddisgyn oddi ar ymyl y palmant, dyneswch ato ar ongl sgwâr a pheidiwch â cheisio llywio dros ymyl sy’n uwch na’r hyn a nodir yn argymhellion gwneuthurwr y cerbyd.
Dylech fod yn ofalus wrth deithio ar y ffordd oherwydd mae’n bosib y byddwch yn teithio’n arafach na’r traffig arall (cyfyngir eich cerbyd i 8 mya (12 km/awr) ac rydych yn fwy anodd i’ch gweld).
42
Dylai cerbydau Dosbarth 3 deithio i’r un cyfeiriad â’r traffig ar y ffordd. Dylai defnyddwyr cerbydau Dosbarth 2 bob amser ddefnyddio’r palmant pan fo hynny’n bosib. Os nad oes palmant, dylech deithio ar y ffordd yn ofalus. Dylai defnyddwyr cerbydau Dosbarth 2, lle bo hynny’n bosib, deithio i’r un cyfeiriad â’r traffig. Os ydych chi’n teithio yn y nos, RHAID defnyddio golau a dylech deithio i’r un cyfeiriad â’r traffig fel nad ydych yn drysu defnyddwyr eraill y ffordd.
[Cyfraith UICHR 1988 rheoliad 9]
RHAID i chi ddilyn yr un rheolau â defnyddwyr eraill y ffordd o ran defnyddio golau, goleuadau cyfeirio a’r corn, os yw’r rhain wedi’u gosod ar eich cerbyd. RHAID defnyddio golau yn y nos. Dylech fod yn ymwybodol efallai nad yw defnyddwyr eraill y ffordd yn gallu eich gweld felly dylech wneud eich hun yn fwy amlwg - yn y dydd a min nos hefyd. Er enghraifft, drwy wisgo siaced adlewyrchol neu roi stripiau adlewyrchol ar gefn y cerbyd.
[Cyfraith UICHR 1988 rheoliad 9]
Cymerwch ofal arbennig wrth gyffyrdd. Os ydych yn mynd yn syth yn eich blaen, gwnewch yn siŵr nad oes cerbydau ar fin croesi’ch llwybr o’r chwith neu o’r dde, neu ar fin eich pasio a throi i’r chwith. Mae sawl dewis os ydych am droi i’r dde, yn enwedig os ydych yn troi oddi ar ffordd fawr.
Os yw symud i ganol y ffordd yn anodd neu’n beryglus, gallwch
• stopio ar ochr chwith y ffordd a disgwyl am fwlch diogel yn y traffig
• cymryd y tro fel cerddwr, h.y. teithio ar hyd y palmant a chroesi’r ffordd o un palmant i’r llall pan fo’n ddiogel gwneud hynny. Dylai defnyddwyr cerbydau Dosbarth 3 newid i’r cyfyngiad cyflymder isaf wrth deithio ar balmentydd
Os yw’r gyffordd yn rhy beryglus, efallai y dylech ystyried cymryd llwybr arall. Yn yr un modd, wrth deithio o gwmpas cylchfan fawr (h.y. gyda dwy lôn neu fwy), efallai y byddai’n fwy diogel i chi ddefnyddio’r palmant neu ganfod llwybr sy’n osgoi’r gylchfan yn gyfan gwbl.
Dylech gymryd sylw o’r holl gyfyngiadau parcio arferol. Ni ddylech adael eich cerbyd heb neb yn gofalu amdano os yw’n achosi rhwystr i bobl eraill - yn enwedig pobl mewn cadair olwyn. Bydd consesiynau parcio a ddarperir dan y cynllun Bathodyn Glas (gweler 'Gwybodaeth arall') yn berthnasol i gerbydau gyda bathodyn glas dilys wedi’i arddangos arnynt.
RHAID I CHI BEIDIO â defnyddio’r cerbydau hyn ar draffyrdd (gweler Rheol 253). Ni ddylech eu defnyddio ar ffyrdd deuol diamod lle mae’r cyfyngiad cyflymder yn uwch na 50 mya (80km/awr) ond os ydych yn gyrru cerbyd o’r fath ar ffordd ddeuol, RHAID gosod golau ambr i fflachio ar y cerbyd. Dylid defnyddio golau ambr yn fflachio ar bob math arall o ffordd ddeuol (gweler Rheol 220).
[Cyfreithiau RTRA adrannau 17(2) a (3), a RVLR rheoliadau 17(1) a 26]
Cael yr holl reolau’r ffordd ac arwyddion traffig diweddaraf ar flaenau’ch bysedd
Cael negeseuon atgoffa ynghylch Rheolau’r Ffordd Fawr drwy ei ddilyn ar Trydar (Twitter) a Facebook
I weld ffeiliau PDF bydd angen Adobe Reader arnoch. Mae’r rhaglen ar gael yn rhwydd os nad yw gennych eisoes.