Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Gwener, 5 Hydref 2012

Rheolau ynglŷn ag anifeiliaid (47-58)

Mae Rheolau’r Ffordd Fawr yn berthnasol i Gymru, Lloegr a’r Alban. Dylai pawb ddarllen Rheolau’r Ffordd Fawr.

Cerbydau sy’n Cael eu Tynnu gan Geffylau

47

Dylid gweithredu a chynnal a chadw cerbydau sy’n cael eu tynnu gan geffylau a ddefnyddir ar y ffordd fawr yn unol â’r safonau a nodwyd yng Nghod Ymarfer yr Adran Drafnidiaeth ar gyfer Cerbydau sy’n Cael eu Tynnu gan Geffylau. Mae’r Cod hwn yn gosod y gofynion ar gyfer asesu gyrru ar y ffordd ac mae’n cynnwys rhestr gynhwysfawr o brofion diogelwch i sicrhau bod y goets a’r gosodiadau yn ddiogel ac mewn cyflwr da. Os yw gweithredwr am gael trwydded gan Awdurdod Lleol i ddarparu gwasanaeth cludo teithwyr, efallai y bydd yr Awdurdod Lleol yn mynnu bod y safonau a nodir yn yr Asesiad Gyrru ar y Ffordd yn cael eu bodloni (gweler 'Gwybodaeth arall')

48

Offer a dillad diogelwch. Dylai pob cerbyd sy’n cael ei dynnu gan geffyl gael dau adlewyrchydd-ôl coch. Mae’n fwy diogel peidio â gyrru yn y nos, ond os ydych, yna RHAID gosod golau gwyn ar y tu blaen a golau coch ar y tu ôl.

[Cyfraith RVLR 1989 rheoliad 4]

Pobl ar gefn ceffylau

49

Offer diogelwch. RHAID i blant dan 14 oed wisgo helmed sy’n cydymffurfio â’r Rheoliadau. RHAID iddi gael ei chau’n dynn. Dylai marchogion eraill ddilyn y gofynion hyn hefyd. Nid yw’r gofynion hyn yn berthnasol i blentyn sy’n ddilynwr crefydd Sikh os yw’n gwisgo tyrban.

[Cyfreithiau Deddf H(PHYR) 1990, adran 1 a Rheoliadau H(PHYR) 1992, rheoliad 3]

50

Dillad eraill. Dylech wisgo

  • esgidiau mawr neu esgidiau sydd â sodlau a gwadnau caled
  • dillad lliw golau neu fflworoleuol yn ystod y dydd
  • dillad sy’n adlewyrchu golau os oes rhaid i chi farchogaeth yn y nos neu os bydd y gwelededd yn wael
Rheol 50: Gwnewch hi’n hawsi bobl eich gweld

51

Yn y nos. Mae’n fwy diogel peidio â marchogaeth ar y ffordd yn y nos neu os bydd y gwelededd yn wael, ond os ydych yn gwneud hynny, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gwisgo dillad adlewyrchol a bod eich ceffyl yn gwisgo bandiau adlewyrchol uwchlaw cymalau’r egwydydd. Dylech osod golau gwyn ar y tu blaen a golau coch ar y tu ôl yn ogystal â rhwymyn ar fraich dde’r marchog a/neu ar ei goes/esgid dde. Os ydych chi’n arwain ceffyl yn y nos, dylech gario golau yn eich llaw dde, gan daflu golau gwyn o’ch blaen a golau coch y tu ôl, gwisgo dillad adlewyrchol eich hun a rhoi dillad adlewyrchol ar y ceffyl. Argymhellir yn gryf hefyd eich bod yn rhoi stribed adlewyrchol/fflwroleuol ar gynffon eich ceffyl.

Marchogaeth

52

Cyn i chi fynd â cheffyl ar y ffordd, dylech

  • sicrhau bod y tac i gyd yn ffitio’n iawn a’i fod mewn cyflwr da
  • gwneud yn siŵr eich bod yn gallu rheoli’r ceffyl

Dylech bob amser farchogaeth gyda cheffylau eraill, llai nerfus, os ydych yn credu bod ofn traffig ar eich ceffyl chi. Peidiwch byth â marchogaeth ceffyl heb gyfrwy na ffrwyn, ill dau.

53

Cyn i chi gychwyn neu droi, edrychwch y tu ôl i chi i wneud yn siŵr ei bod yn ddiogel, yna rhowch arwydd clir efo’ch braich.

Wrth farchogaeth ar y ffordd, dylech

  • gadw i’r chwith
  • cadw’ch dwylo ar yr awenau oni bai eich bod yn rhoi arwydd
  • cadw eich dwy droed yn y gwartholion
  • peidio â chario person arall
  • peidio â chario dim byd a allai effeithio ar eich cydbwysedd neu a allai fynd
  • ynghlwm yn yr awenau
  • cadw ceffyl sy’n cael ei arwain gennych i’r chwith i chi
  • symud i gyfeiriad llif y traffig ar stryd unffordd
  • peidio byth â marchogaeth mwy na fesul dau ochr yn ochr; dylech farchogaeth mewn llinell ar ffordd gul neu brysur ac wrth fynd rownd troeon

54

RHAID I CHI BEIDIO â mynd â cheffyl ar lwybr troed na phalmant, ac ni ddylech fynd â cheffyl ar lwybr beiciau. Defnyddiwch lwybr ceffylau lle bo’n bosibl. Mae’n bosib bod croesfannau i geffylau ar gael i groesi’r ffordd a dylech eu defnyddio os ydynt ar gael (gweler tudalen 12). Dylech ddod oddi ar gefn eich ceffyl ar groesfannau rheilffordd os oes arwydd yn gofyn i chi wneud hynny.

[Cyfreithiau HA 1835 adran 72, R(S)A 1984, adran 129(5)]

55

Dylech osgoi cylchfannau lle bynnag bo’n bosibl. Os byddwch yn eu defnyddio, dylech

  • gadw i’r chwith a gwylio am gerbydau’n croesi’ch llwybr er mwyn gadael neu ymuno â’r gylchfan
  • rhoi arwydd i’r dde wrth farchogaeth ar draws allanfeydd i ddangos nad ydych yn gadael
  • rhoi arwydd i’r chwith yn union cyn gadael y gylchfan

Anifeiliaid eraill

56

Cŵn. Peidiwch â gadael ci allan ar y ffordd ar ei ben ei hun. Dylech ei gadw ar dennyn byr wrth gerdded ar balmant, ffordd neu lwybr a rennir gyda seiclwyr neu bobl ar gefn ceffylau.

57

Pan fyddwch mewn cerbyd, gwnewch yn siŵr fod cŵn neu anifeiliaid eraill yn cael eu rhwystro’n ddiogel fel na allant dynnu’ch sylw wrth i chi yrru na’ch anafu chi, neu eu hunain, os byddwch yn stopio’n gyflym. Mae harneisi gwregys, basgedi cludo, cewyll neu gardiau cŵn yn ffyrdd o gario anifeiliaid yn ddiogel mewn ceir.

58

Anifeiliaid sy’n cael eu bugeilio. Dylech gadw’r rhain dan reolaeth drwy’r adeg. Os yn bosibl, dylech anfon person arall ar hyd y ffordd o’u blaenau i rybuddio defnyddwyr eraill y ffordd, yn enwedig wrth dro neu wrth ael bryn. Mae’n fwy diogel peidio â symud anifeiliaid ar ôl iddi dywyllu, ond os byddwch chi’n gwneud hynny, dylech wisgo dillad sy’n adlewyrchu’r golau a gwneud yn siŵr eich bod yn cario goleuadau (gwyn o flaen yr anifeiliaid a choch y tu cefn iddynt).

Additional links

Rhaglen iPhone Rheolau’r Ffordd Fawr

Cael yr holl reolau’r ffordd ac arwyddion traffig diweddaraf ar flaenau’ch bysedd

Rheolau’r Ffordd Fawr – cael negeseuon atgoffa

Cael negeseuon atgoffa ynghylch Rheolau’r Ffordd Fawr drwy ei ddilyn ar Trydar (Twitter) a Facebook

Cymorth gyda ffeiliau PDF

I weld ffeiliau PDF bydd angen Adobe Reader arnoch. Mae’r rhaglen ar gael yn rhwydd os nad yw gennych eisoes.

Defnyddwyr y ffordd a'r gyfraith

Cael gwybod pa gyfreithiau a rheoliadau gellir darllen ar-lein

Allweddumynediad llywodraeth y DU