Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cylchfannau (184-190)

184

Wrth agosáu at gylchfan cymerwch sylw a gweithredwch ar yr holl wybodaeth sydd ar gael i chi, gan gynnwys arwyddion traffig, goleuadau traffig a marciau lôn sy’n eich cyfeirio at y lôn gywir. Dylech

  • ddefnyddio Drychau - Rhoi Arwydd - Symud ar bob cam
  • penderfynu mor fuan ag sy’n bosibl pa allanfa y mae gofyn i chi ei chymryd
  • rhoi arwydd priodol (gweler Rheol 186). Amseru pryd fyddwch yn rhoi arwyddion
  • fel nad ydych yn drysu defnyddwyr eraill y ffordd
  • mynd i’r lôn gywir
  • addasu eich cyflymder a’ch safle i gyd-fynd â’r amodau traffig
  • bod yn ymwybodol o gyflymder a safle’r holl ddefnyddwyr ffordd o’ch cwmpas

185

Wrth gyrraedd y gylchfan dylech

  • roi blaenoriaeth i draffig sy’n dod o’r dde i chi, oni chyfarwyddir chi fel arall gan arwyddion, marciau ffordd neu oleuadau traffig
  • edrych i weld a yw’r marciau ar y ffordd yn caniatáu i chi ymuno â’r gylchfan heb ildio. Os ydynt, ewch yn eich blaen ond dylech edrych i’r dde cyn ymuno serch hynny
  • gwylio am holl ddefnyddwyr eraill y ffordd sydd eisoes ar y gylchfan; byddwch yn ymwybodol y gallent fod yn rhoi arwydd anghywir o bosibl, neu ddim arwydd o gwbl
  • edrych yn eich blaen cyn dechrau symud i wneud yn siŵr bod y traffig o’ch blaen wedi symud
Rheol 185: Dilynwch y drefn gywir ar gylchfannau

186

Rhoi arwyddion a safle.

Wrth gymryd yr allanfa gyntaf, oni fydd arwyddion neu farciau ar y ffordd yn dangos fel arall

  • rhowch arwydd i’r chwith a dewch at y gylchfan yn y lôn chwith
  • cadwch i’r chwith ar y gylchfan a daliwch i roi arwydd i’r chwith i adael

Wrth gymryd allanfa i’r dde neu wrth fynd o amgylch y gylchfan yn llwyr, oni fydd arwyddion neu farciau ar y ffordd yn dangos fel arall

  • rhowch arwydd i’r dde gan agosáu yn y lôn dde
  • cadwch i’r dde ar y gylchfan nes bod angen i chi newid lôn i adael y gylchfan
  • rhowch arwydd i’r chwith ar ôl i chi fynd heibio’r allanfa cyn yr un yr ydych chi ei heisiau

Wrth gymryd unrhyw allanfa hanner ffordd, oni fydd arwyddion neu farciau ar y ffordd yn dangos fel arall

  • dewiswch y lôn briodol wrth agosáu at y gylchfan
  • fel arfer, ni fydd angen i chi roi arwydd wrth agosáu
  • arhoswch yn y lôn hon nes bod angen i chi newid eich llwybr er mwyn gadael y gylchfan
  • rhowch arwydd i’r chwith ar ôl i chi fynd heibio’r allanfa cyn yr un yr ydych chi ei heisiau

Pan fydd mwy na thair lôn ar y fynedfa i gylchfan, defnyddiwch y lôn fwyaf priodol wrth agosáu ati a mynd drwyddi.

187

Ym mhob achos, gwyliwch am a rhowch ddigon o le i

  • gerddwyr a allai fod yn croesi’r ffyrdd agosáu a’r allanfeydd
  • traffig sy’n croesi o’ch blaen ar y gylchfan, yn enwedig cerbydau sy’n bwriadu gadael ar yr allanfa nesaf
  • traffic sydd efallai ar draws dwy lôn neu yn y safle anghywir
  • beicwyr modur
  • seiclwyr a phobl ar gefn ceffylau sydd efallai yn aros yn y lôn chwith a rhoi arwydd i’r dde os ydynt yn bwriadu parhau i fynd o amgylch y gylchfan. Gadewch iddynt wneud hynny
  • cerbydau hir (yn cynnwys y rheiny sy’n tynnu ôl-gerbydau). Efallai y bydd rhaid iddynt gymryd llwybr gwahanol neu ymestyn ar draws dwy lôn wrth agosáu at neu ar y gylchfan, oherwydd eu hyd. Gwyliwch am eu harwyddion

188

Cylchfannau bach. Dylech agosáu atynt yn yr un ffordd â chylchfannau arferol. RHAID i bob cerbyd fynd o gwmpas y marciau canol ac eithrio cerbydau sy’n rhy fawr i wneud hynny. Cofiwch fod yna lai o le i symud a llai o amser i roi arwydd. Ceisiwch osgoi gwneud troad pedol (troad-U) ar gylchfannau bach. Gwyliwch rhag ofn bod eraill yn gwneud hynny.

[Cyfreithiau RTA 1988 adran 36 a TSRGD rheoliadau 10(1) a 16(1)]

189

Wrth gylchfannau bach dwbl, dylech drin pob cylchfan ar wahân gan ildio i draffig o’r dde.

190

Aml-gylchfannau. Wrth rai cyffyrdd cymhleth, gall fod cyfres o gylchfannau bach wrth bob croesffordd. Dylech drin pob cylchfan fach ar wahân a dilyn y rheolau arferol.

Rheol 190: Dylech drin pob cylchfan ar wahân

Tudalen blaenorol/tudalen nesaf

Additional links

Rhaglen iPhone Rheolau’r Ffordd Fawr

Cael yr holl reolau’r ffordd ac arwyddion traffig diweddaraf ar flaenau’ch bysedd

Rheolau’r Ffordd Fawr – cael negeseuon atgoffa

Cael negeseuon atgoffa ynghylch Rheolau’r Ffordd Fawr drwy ei ddilyn ar Trydar (Twitter) a Facebook

Cymorth gyda ffeiliau PDF

I weld ffeiliau PDF bydd angen Adobe Reader arnoch. Mae’r rhaglen ar gael yn rhwydd os nad yw gennych eisoes.

Defnyddwyr y ffordd a'r gyfraith

Cael gwybod pa gyfreithiau a rheoliadau gellir darllen ar-lein

Allweddumynediad llywodraeth y DU