159
Cyn dechrau symud dylech
- ddefnyddio pob drych i wneud yn siŵr fod y ffordd yn glir
- edrych o’ch cwmpas yn y mannau dall (y mannau hynny nad ydych yn gallu eu gweld yn y drychau)
- rhoi arwydd os oes rhaid cyn symud allan
- edrych yn ôl am y tro olaf
Peidiwch â dechrau symud oni bai ei bod yn ddiogel i wneud hynny.
160
Unwaith i chi ddechrau symud dylech
- gadw i’r chwith, oni bai bod arwyddion neu farciau ar y ffordd yn dynodi fel arall. Yr eithriadau yw pan fyddwch am basio, troi i’r dde neu fynd heibio cerbydau wedi’u parcio neu gerddwyr ar y ffordd
- cadw reit i’r chwith ar gorneli i’r dde. Byddwch yn gallu gweld y ffordd yn well a bydd yn help i osgoi’r risg o wrthdrawiad â thraffig sy’n dod tuag atoch o’r cyfeiriad arall
- gyrru gan gadw eich dwy law ar y llyw lle bo’n bosibl. Bydd hyn yn help i chi gadw rheolaeth lwyr dros eich cerbyd bob amser
- bod yn ymwybodol o ddefnyddwyr eraill y ffordd, yn enwedig beiciau a beiciau modur a all fod yn gwau’u ffordd drwy’r traffig. Mae’r rhain yn fwy anodd eu gweld na cherbydau mwy ac mae’r bobl sy’n ei gyrru yn neilltuol o ddiamddiffyn. Rhowch ddigon o le iddynt, yn enwedig os ydych yn gyrru cerbyd hir neu’n tynnu ôl-gerbyd
- dewis gêr isel cyn i chi gyrraedd llethr hir i lawr rhiw. Bydd hyn yn help i chi reoli eich cyflymder
- cofio, wrth dowio, y bydd yr hyd ychwanegol yn effeithio ar eich gallu i basio a symud. Bydd y pwysau ychwanegol hefyd yn effeithio ar y brecio a’r cyflymu
161
Drychau. Dylech ddefnyddio pob drych yn effeithiol ar hyd eich taith. Dylech
- ddefnyddio’r drychau’n aml fel eich bod yn gwybod bob amser beth sydd y tu ôl i chi ac ar y naill ochr a’r llall i chi
- eu defnyddio mewn da bryd cyn rhoi arwydd neu cyn newid cyfeiriad neu gyflymder
- bod yn ymwybodol nad yw’r drychau’n dangos pob man ac y bydd yna fannau dall. Bydd angen i chi edrych o’ch cwmpas a gwneud yn siŵr
Cofiwch: Drychau - Rhoi Arwydd - Symud