Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Gwaith ffordd, croesfannau rheilffordd a thramffyrdd (288-307)

Mae Rheolau’r Ffordd Fawr yn berthnasol i Gymru, Lloegr a’r Alban. Dylai pawb ddarllen Rheolau’r Ffordd Fawr.

Gwaith ffordd

288

Pan fydd yr arwydd ‘Gwaith Ffordd o’ch Blaen’ yn cael ei ddangos, bydd rhaid i chi fod yn fwy gwyliadwrus a chwilio am arwyddion ychwanegol sy’n rhoi cyfarwyddiadau mwy penodol. Glynwch wrth neges bob arwydd - maent yno er eich diogelwch chi a diogelwch y gweithwyr ar y ffordd.

  • RHAID I CHI BEIDIO â gyrru’n gyflymach nag unrhyw gyfyngiad cyflymder dros dro
  • Defnyddiwch eich drychau a symudwch i’r lôn gywir ar gyfer eich cerbyd chi mewn da bryd fel mae’r arwyddion yn eich cyfarwyddo
  • Peidiwch â newid lonydd i basio traffig sydd mewn ciw
  • Cymrwch fwy o ofal yng nghyffiniau seiclwyr a beicwyr modur oherwydd meant yn fwy agored i sgidio ar raean, mwd neu ddarnau rhydd eraill ger y gwaith ffordd
  • Pan fo lonydd wedi cau oherwydd gwaith ar y ffordd, cyfunwch un ar ôl y llall (gweler Rheol 134)
  • Peidiwch â gyrru drwy ardal sydd wedi’i dynodi gan gonau traffig
  • Gwyliwch am draffig sy’n mynd i mewn i neu’n dod allan o’r man gwaith, ond peidiwch â chael eich llygad-dynnu gan beth sy’n digwydd yno. Canolbwyntiwch ar y ffordd o’ch blaen ac nid ar y gwaith ffordd
  • Cofiwch y gallai’r gwaith, neu draffig araf neu gerbydau sy’n sefyll yn eu hunfan, fod yn achosi rhwystr ar y ffordd o’ch blaen
  • Cadwch bellter diogel - gall fod ciw o’ch blaen

I gael rhagor o wybodaeth am waith ar y ffordd, gweler 'Gwybodaeth arall'.

[Cyfraith RTRA adran 16]

Rheolau ychwanegol ar gyfer ffyrdd cyflym

289

Cymerwch ofal arbennig ar draffyrdd a ffyrdd deuol cyflym.

  • Gallai un neu ragor o lonydd fod wedi’u cau i draffig a gallai cyfyngiad cyflymder is fod mewn grym
  • Weithiau, defnyddir cerbydau gwaith sy’n araf neu’n sefyll yn eu hunfan gydag arwydd mawr ‘Cadwch i’r Chwith’ neu ‘Cadwch i’r Dde’ ar y cefn i gau lonydd ar gyfer gwaith atgyweirio, ac mae’n bosib y defnyddir golau ar ffurf saeth sy’n fflachio fel bo’r cerbyd gwaith yn fwy amlwg o bellter er mwyn rhoi mwy o rybudd i yrwyr bod angen iddynt symud i lôn arall
  • Edrychwch yn y drychau, arafwch a newidiwch lonydd os bydd angen
  • Cadwch bellter diogel oddi wrth y cerbyd o’ch blaen (gweler Rheol 126)

290

Mae systemau Gwrthlif yn golygu y gallech fod yn teithio mewn lôn gulach nag arfer a heb rwystr parhaol rhyngoch a’r traffig sy’n dod tuag atoch. Gall y llain galed gael ei defnyddio ar gyfer traffig, ond byddwch yn ymwybodol y gallai fod cerbydau wedi torri lawr o’ch blaen. Cadwch bellter da oddi wrth y cerbyd o’ch blaen ac ufuddhewch i unrhyw gyfyngiadau cyflymder dros dro.

Croesfannau rheilffordd

291

Croesfan rheilffordd yw lle mae ffordd yn croesi lein y rheilffordd neu dramffordd. Dylech agosáu at y groesfan a’i chroesi gyda gofal. Peidiwch byth â gyrru ar groesfan nes bod y ffordd yn glir ar yr ochr draw a pheidiwch â mynd yn rhy agos at y car o’ch blaen. Peidiwch byth â stopio na pharcio ar groesfan, nac yn agos at un.

292

Gwifrau trydan uwchben. Mae’n beryglus i gyffwrdd gwifrau trydan uwchben. RHAID i chi ufuddhau i’r arwyddion ffordd rhybudd uchder diogel ac ni ddylech chi fynd yn eich blaen ar y rheilffordd os yw eich cerbyd yn cyffwrdd ag unrhyw far neu gloch uchder. Fel arfer, mae’r uchder clirio yn 5 metr (16 troedfedd 6 modfedd) ond gall fod yn is.

[Cyfreithiau RTA 1988 adran 36, TSRGD 2002 rheoliad 17(5)]

293

Croesfannau rheoledig. Ar y rhan fwyaf o groesfannau ceir arwyddion goleuadau traffig gyda golau ambr cyson, pâr o oleuadau stopio coch sy’n fflachio (gweler 'Signalau goleuadau sy’n rheoli traffig' ac 'Arwyddion rhybudd') a larwm clywadwy i gerddwyr. Gallant fod â rhwystrau llawn, rhwystrau rhannol neu ddim rhwystrau o gwbl.

  • RHAID ufuddhau bob amser i’r goleuadau stopio coch sy’n fflachio
  • RHAID stopio tu ôl i’r llinell wen ar draws y ffordd
Rheol 293 Stopiwch pan fydd y goleuadau traffig i’w gweld
  • Daliwch i fynd os ydych eisoes wedi croesi’r llinell wen pan ddaw’r golau ambr ymlaen
  • Peidiwch â bacio yn ôl i groesfan rheoledig na throsto
  • RHAID aros os oes trên wedi mynd heibio a bod y goleuadau coch yn dal i fflachio. Mae hyn yn golygu y bydd trên arall yn mynd heibio’n fuan
  • Dim ond ar ôl i’r goleuadau ddiffodd ac i’r rhwystrau agor y cewch groesi
  • Peidiwch byth â mynd igam-ogam o gwmpas rhannau’r rhwystrau; maent yn dod i lawr yn awtomatig am fod trên yn agosáu
  • Ar groesfannau lle nad oes rhwystrau, mae trên yn agosáu pan fydd y goleuadau’n dangos

[Cyfreithiau RTA 1988 adran 36 a TSRGD rheoliadau 10 a 40]

294

Ffonau rheilffordd. Os ydych yn gyrru cerbyd sy’n fawr neu’n araf, cerbyd hir ac isel sydd mewn perygl o daro’r ddaear, neu’n bugeilio anifeiliaid, gallai trên gyrraedd cyn i chi groesi’r groesfan yn gyfan gwbl. RHAID ufuddhau i unrhyw arwydd sy’n eich cyfarwyddo i ddefnyddio ffôn y rheilffordd i gael caniatâd i groesi. RHAID hefyd ffonio pan fyddwch wedi mynd dros y groesfan, os oes gofyn i chi wneud hynny.

[Cyfreithiau RTA 1988 adran 36 a TSRGD rheoliadau 10 a 16(1)]

295

Croesfannau heb oleuadau. Dylai cerbydau stopio ac aros wrth y glwyd neu’r giât pan fydd yn dechrau cau, a pheidio â chroesi nes bydd y glwyd neu’r giât yn agor.

296

Rhwystrau neu giatiau sy’n cael eu gweithio gan ddefnyddwyr. Mae gan rai croesfannau arwyddion ‘Stop’ a goleuadau bach coch a gwyrdd. RHAID I CHI BEIDIO â chroesi pan fydd y golau coch yn dangos; dim ond pan fydd y golau gwyrdd ymlaen y cewch groesi. Os ydych yn groesi mewn cerbyd, dylech

  • agor y giatiau neu’r clwydi ar y ddwy ochr i’r groesfan
  • gwneud yn siŵr fod y golau gwyrdd ymlaen o hyd a chroesi’n gyflym
  • cau’r giatiau neu’r clwydi pan fyddwch wedi croesi’r groesfan

[Cyfreithiau RTA 1988 adran 36 a TSRGD rheoliadau 10 a 52(2)]

297

Os nad oes goleuadau, dilynwch y drefn yn Rheol 295. Stopiwch, edrychwch i’r ddau gyfeiriad a gwrandewch cyn i chi groesi. Os oes ffôn rheilffordd, dylech ei ddefnyddio bob amser i gysylltu â rheolwr signalau i wneud yn siŵr ei bod yn ddiogel i groesi. Rhowch wybod i’r rheolwr signalau eto pan fyddwch wedi croesi’r groesfan.

298

Croesfannau agored. Nid oes giatiau, rhwystrau, gofalwyr na goleuadau traffig ar y rhain, ond bydd yna arwydd ‘Ildiwch/Give Way’. Dylech edrych i’r ddau gyfeiriad, gwrando a gwneud yn siŵr nad oes trên yn dod cyn croesi.

299

Digwyddiadau a thorri lawr. Os yw eich cerbyd yn torri lawr, neu os cewch ddigwyddiad ar groesfan, dylech

  • gael pawb allan o’r cerbyd ac oddi ar y groesfan ar unwaith
  • defnyddio ffôn rheilffordd os oes un ar gael i roi gwybod i reolwr y signalau. Dilynwch y cyfarwyddiadau a roddir i chi
  • symud y cerbyd oddi ar y groesfan os oes amser cyn i drên gyrraedd. Os bydd y larwm yn canu, neu os daw’r golau ambr ymlaen, gadewch y cerbyd a safwch yn glir o’r groesfan ar unwaith

Tramffyrdd

300

RHAID I CHI BEIDIO â mynd ar ffordd, lôn na llwybr arall sy’n cael ei gadw i dramiau. Cymerwch ofal arbennig lle mae’r tramiau’n rhedeg ar hyd y ffordd. Dylech geisio osgoi gyrru yn union dros ben y cledrau a dylech fod yn ofalus lle mae tramiau yn gadael y brif lôn i fynd ar lôn sy’n cael eu cadw ar eu cyfer fel nad ydych yn eu dilyn. Yn aml, mae’r lled a gymerir gan y tramiau yn cael ei ddangos gan lonydd tram wedi’u marcio gan linellau gwyn, dotiau melyn neu gan fath gwahanol o wyneb ar y ffordd. Dim ond rhoi cyfarwyddiadau i yrwyr tramiau y mae arwyddion siâp diemwnt a signalau golau gwyn.

[Cyfraith RTRA adrannau 5 a 8]

301

Cymerwch ofal arbennig lle mae’r trac yn croesi o’r naill ochr o’r ffordd i’r llall a lle mae’r ffordd yn culhau a’r traciau’n dod yn agos at ymyl y palmant. Fel arfer, mae gan yrwyr tramiau eu signalau traffig eu hunain ac efallai eu bod yn cael symud pan fyddwch chi’n gorfod aros yn eich unfan. Dylech ildio i dramiau bob amser. Peidiwch â cheisio eu rasio, eu pasio na mynd heibio iddynt ar yr ochr fewn, oni bai eu bod ger safle tramiau neu wedi stopio o flaen signal i dramiau, a bod yna lôn ddynodedig i dramiau i chi fynd heibio iddynt.

302

RHAID I CHI BEIDIO â pharcio eich cerbyd lle gallai fod yn ffordd y tramiau neu lle gallai orfodi gyrwyr eraill i fynd i’w ffordd. Peidiwch â stopio ar unhyw ddarn o drac tramiau, heblaw mewn mannau dynodedig ar ochr y trac ac yn glir ohono. Wrth wneud hynny, sicrhewch fod pob rhan o’ch cerbyd y tu allan i lwybr diffiniedig y tramiau. Cofiwch na all tram lywio o amgylch rhwystr.

[Cyfraith RTRA adrannau 5 a 8]

303

Safleoedd tramiau. Lle mae’r tramiau’n stopio wrth blatfform, un ai yng nghanol neu ar ochr y ffordd, RHAID i chi ddilyn y llwybr sy’n cael ei ddangos gan arwyddion a marciau ar y ffordd. Wrth arosfannau heb blatfform, RHAID I CHI BEIDIO â gyrru rhwng tram ac ymyl y palmant ar y chwith pan fydd tram wedi stopio i godi teithwyr. Os nad oes arwyddion ar gyfer llwybr arall, peidiwch â phasio’r tram - arhoswch nes ei fod wedi dechrau symud.

[Cyfraith RTRA adrannau 5 a 8]

304

Gwyliwch am gerddwyr, yn enwedig plant, sy’n rhedeg allan i ddal tram sy’n dod at arhosfan.

305

Dylech roi blaenoriaeth i dramiau bob amser, yn enwedig wrth iddynt roi arwydd eu bod am ddechrau symud ar ôl stopio ger arhosfan, oni bai ei bod hi’n anniogel gwneud hynny. Cofiwch y gallent fod yn cario nifer fawr o deithwyr sy’n sefyll ar eu traed a gallai’r teithwyr hynny gael eu hanafu pe bai’n rhaid i’r tram stopio ar frys. Gwyliwch am bobl sy’n dod oddi ar fws neu dram ac yn croesi’r ffordd.

306

Dylai pob defnyddiwr ffordd, yn enwedig seiclwyr a beicwyr modur, gymryd gofal arbennig wrth fynd yn agos at draciau neu wrth eu croesi, yn enwedig os yw’r cledrau’n wlyb. Dylech gymryd gofal arbennig wrth groesi’r cledrau ar ongl lem, ar gorneli ac ar groesffyrdd. Mae’n fwy diogel croesi’r traciau’n uniongyrchol ar ongl sgwâr. Dylai defnyddwyr eraill y ffyrdd fod yn ymwybodol bod efallai angen mwy o le ar seiclwyr a beicwyr modur i groesi’r traciau’n ddiogel.

307

Gwifrau trydan uwchben. Fel arfer, mae gwifrau uwchben tramffyrdd 5.8 metr uwchben unrhyw lôn, ond gallant fod yn is. Dylech sicrhau bod digon o le rhwng y wifren a’ch cerbyd (yn cynnwys unrhyw lwyth y gallech fod yn ei gario), cyn gyrru o dan wifren uwchben. Dylai gyrwyr cerbydau gyda chraeniau sy’n ymestyn, trawstiau, offer tipio neu fathau eraill o offer y gellir amrywio’u huchder, sicrhau bod yr offer wedi’i ostwng i’r uchder isaf. Os yw’r gwifrau uwchben yn is na 5.8 metr, dynodir hynny gyda marciau uchder - sy’n debyg i arwyddion ‘pont isel’. Dylech gymryd sylw ac ufuddhau i’r marciau uchder ar y platiau hyn. Os nad ydych yn siŵr a fydd eich cerbyd yn gallu mynd heibio o dan y gwifrau’n ddiogel, dylech gysylltu â’r heddlu lleol neu weithredwr y dramffordd bob tro. Peidiwch â’i mentro hi oherwydd gallai hynny fod yn beryglus iawn.

Additional links

Rhaglen iPhone Rheolau’r Ffordd Fawr

Cael yr holl reolau’r ffordd ac arwyddion traffig diweddaraf ar flaenau’ch bysedd

Rheolau’r Ffordd Fawr – cael negeseuon atgoffa

Cael negeseuon atgoffa ynghylch Rheolau’r Ffordd Fawr drwy ei ddilyn ar Trydar (Twitter) a Facebook

Cymorth gyda ffeiliau PDF

I weld ffeiliau PDF bydd angen Adobe Reader arnoch. Mae’r rhaglen ar gael yn rhwydd os nad yw gennych eisoes.

Defnyddwyr y ffordd a'r gyfraith

Cael gwybod pa gyfreithiau a rheoliadau gellir darllen ar-lein

Allweddumynediad llywodraeth y DU