Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Gwener, 5 Hydref 2012

Ffyrdd aml-lôn (133-143)

Disgyblaeth lonydd

133

Os ydych chi am newid lôn, y peth cyntaf i’w wneud yw defnyddio’ch drychau, ac os oes angen, taflu cipolwg sydyn i’r ochr i sicrhau na fyddwch yn gorfodi defnyddiwr arall y ffordd i newid cyfeiriad neu gyflymder. Pan fydd yn ddiogel i chi wneud hynny, rhowch arwydd i ddangos i ddefnyddwyr eraill y ffordd beth yw eich bwriad a phan fydd yn glir, symudwch draw.

134

Dylech ddilyn yr arwyddion a’r marciau ar y ffordd a symud i’r lôn yn ôl y cyfarwyddyd. Pan fydd tagfa ar y ffordd, peidiwch â newid lôn yn ddiangen. Argymhellir cyfuno un ar ôl y llall, ond dim ond os yw’n ddiogel ac yn briodol i wneud hynny pan fo cerbydau yn teithio ar gyflymder isel iawn, e.e. wrth agosáu at waith ar y ffordd neu ddigwyddiad traffig ar y ffordd. Ni argymhellir hyn ar gyflymder uchel.

Ffordd sengl

135

Lle bydd tair lôn ar ffordd sengl ac nad yw’r arwyddion na’r marciau ar y ffordd yn rhoi blaenoriaeth i draffig o’r naill gyfeiriad na’r llall

  • dim ond i basio neu i droi i’r dde y dylech ddefnyddio’r lôn ganol. Cofiwch, does dim mwy o hawl gennych i ddefnyddio’r lôn ganol na gyrrwr sy’n dod o’r cyfeiriad arall
  • peidiwch â defnyddio’r lôn ar y dde

136

Lle bydd pedair neu ragor o lonydd ar ffordd sengl, dim ond y lonydd sy’n cael eu dangos gan arwyddion neu farciau y dylech eu defnyddio.

Ffyrdd deuol

Ffordd ddeuol yw ffordd gyda llain ganol yn rhannu’r lonydd.

137

Ar ffordd ddeuol ddwy lôn, dylech aros yn y lôn chwith. Defnyddiwch y lôn dde i basio neu droi i’r dde. Ar ôl pasio, symudwch yn ôl i’r lôn chwith pan fydd yn ddiogel i wneud hynny.

138

Ar ffordd ddeuol dair lôn, gallwch ddefnyddio’r lôn ganol neu’r lôn dde i basio ond dylech ddychwelyd i’r lôn ganol ac yna i’r lôn chwith pan fydd yn ddiogel.

139

Lonydd dringo a lonydd araf. Caiff y rhain eu darparu ar rai rhiwiau. Defnyddiwch y lôn hon os ydych yn gyrru cerbyd sy’n symud yn araf neu os oes cerbydau y tu ôl i chi sydd am eich pasio. Cadwch olwg am arwyddion a marciau ar y ffordd sy’n dynodi bod y lôn ar fin dod i ben.

140

Lonydd beiciau. Mae’r rhain yn cael eu dynodi gan farciau ar y ffordd ac arwyddion. RHAID I CHI BEIDIO â gyrru na pharcio ar lôn feiciau sydd wedi’i dynodi â llinell wen ddi-dor pan fydd yn cael ei defnyddio. Peidiwch â gyrru na pharcio ar lôn feiciau sydd wedi’i dynodi â llinell wen fylchog oni bai nad oes modd osgoi hynny. RHAID I CHI BEIDIO â pharcio ar unrhyw lôn feiciau tra bydd cyfyngiadau aros mewn grym.

[Cyfraith RTRA adrannau 5 a 8]

141

Lonydd bysiau. Dynodir y rhain gan farciau ar y ffordd ac arwyddion sy’n dangos pa gerbydau eraill (os o gwbl) sy’n cael defnyddio’r lôn fysiau. Oni nodir fel arall, ni ddylech chi yrru ar lôn fysiau yn ystod y cyfnod y mae mewn grym. Cewch fynd ar lôn fysiau er mwyn stopio, llwytho neu ddadlwytho os nad yw hyn wedi’i wahardd.

142

Lonydd ar gyfer cerbydau gyda mwy nag un person ynddynt a lonydd dynodedig ar gyfer cerbydau eraill. Gall cyfyngiadau fod mewn grym ar rai lonydd sy’n cyfyngu mathau penodol o gerbydau rhag eu defnyddio; gall y cyfyngiadau hyn fod mewn grym drwy’r amser neu ar brydiau. Dynodir ar yr arwyddion traffig cyfagos ar ba amseroedd y mae’r cyfyngiadau hyn mewn grym a’r mathau o gerbydau. RHAID I CHI BEIDIO â gyrru ar y lonydd hyn yn ystod yr amseroedd y mae’r cyfyngiadau mewn grym oni bai bod yr arwyddion yn caniatáu’r math o gerbyd sydd gennych chi (gweler 'Arwyddion gwybodaeth').

Gall cerbydau sydd â hawl i ddefnyddio’r lonydd dynodedig gynnwys beics, bysiau, tacsis, cerbydau hurio preifat trwyddedig, beiciau modur, cerbydau nwyddau trwm (HGV) a cherbydau gyda mwy nag un person ynddynt.

Pan fo’r lonydd ar gyfer cerbydau gyda mwy nag un person ynddynt mewn grym, yr UNIG RAI gaiff eu defnyddio yw

  • cerbydau sy’n cynnwys o leiaf y nifer lleiaf o bobl a ddynodir ar yr arwyddion traffig
  • unrhyw gerbydau eraill, megis bysiau a beiciau modur, yn ôl yr hyn a ddangosir ar yr arwyddion cyn i’r lôn gychwyn, waeth faint o bobl sydd ynddynt

[Cyfreithiau RTRA adrannau 5 a 8, a RTA 1988, adran 36]

143

Strydoedd unffordd. RHAID i draffig lifo i’r cyfeiriad a ddangosir gan arwyddion. Efallai y bydd lôn wrthlif i fysiau a/neu feiciau. Dewiswch y lôn gywir ar gyfer eich allanfa mor fuan ag y gallwch. Peidiwch â newid lonydd yn sydyn. Oni bai bod arwyddion neu farciau ar y ffordd yn dynodi fel arall, dylech ddefnyddio

  • y lôn chwith wrth fynd i’r chwith
  • y lôn dde wrth fynd i’r dde
  • y lôn fwyaf priodol wrth fynd yn syth ymlaen

Cofiwch - gallai’r traffig fod yn pasio ar y naill ochr a’r llall.

[Cyfreithiau RTA 1988 adran 36 a RTRA adrannau 5 ac 8]

Additional links

Rhaglen iPhone Rheolau’r Ffordd Fawr

Cael yr holl reolau’r ffordd ac arwyddion traffig diweddaraf ar flaenau’ch bysedd

Rheolau’r Ffordd Fawr – cael negeseuon atgoffa

Cael negeseuon atgoffa ynghylch Rheolau’r Ffordd Fawr drwy ei ddilyn ar Trydar (Twitter) a Facebook

Cymorth gyda ffeiliau PDF

I weld ffeiliau PDF bydd angen Adobe Reader arnoch. Mae’r rhaglen ar gael yn rhwydd os nad yw gennych eisoes.

Defnyddwyr y ffordd a'r gyfraith

Cael gwybod pa gyfreithiau a rheoliadau gellir darllen ar-lein

Allweddumynediad llywodraeth y DU