Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cyngor cyffredinol (144-158)

144

RHAID I CHI BEIDIO â

  • gyrru’n beryglus
  • gyrru heb ofal a sylw digonol
  • gyrru heb roi ystyriaeth resymol i ddefnyddwyr eraill y ffordd

[Cyfraith RTA 1988 adrannau 2 a 3 fel y’i diwygiwyd gan RTA 1991]

145

RHAID I CHI BEIDIO â gyrru ar, na thros balmant, llwybr troed na llwybr ceffyl ac eithrio i gael mynediad cyfreithiol i eiddo, neu mewn argyfwng.

[Cyfreithiau HA 1835 adran 72 a RTA 1988 adran 34]

146

Addaswch eich gyrru i’r math o ffordd yr ydych yn gyrru ar ei hyd a’i chyflwr. Yn benodol

  • peidiwch ag edrych ar gyfyngiadau cyflymder fel targed. Yn aml, nid yw’n briodol nac yn ddiogel gyrru ar gyflymder uchaf y cyfyngiad
  • ystyriwch y ffordd a’r amodau traffig. Byddwch yn barod ar gyfer sefyllfaoedd annisgwyl neu anodd, er enghraifft, rhwystr ar y ffordd yr ochr draw i gornel ddall. Byddwch yn barod i addasu’ch cyflymder rhag ofn
  • lle mae cyffyrdd, byddwch yn barod am ddefnyddwyr y ffordd yn dod ohonynt
  • ar ffyrdd cefn a lonydd cefn gwlad gwyliwch am gyffyrdd sydd heb eu marcio lle nad oes gan neb flaenoriaeth
  • byddwch yn barod i stopio, yn ôl y gofyn, ger systemau rheoli traffig, croesfannau i gerddwyr, goleuadau traffig neu os oes gwaith ar y ffordd
  • ceisiwch ragweld beth allai cerddwyr a seiclwyr ei wneud. Os bydd cerddwyr, yn enwedig plant, yn edrych i’r cyfeiriad arall, gallent gamu i’r ffordd heb eich gweld

147

Byddwch yn ystyriol. Byddwch yn ofalus o bob math o ddefnyddwyr y ffordd ac yn ystyriol tuag atynt, yn enwedig y rheiny sydd angen gofal ychwanegol (gweler Rheol 204). Dylech

  • geisio bod yn oddefgar os bydd defnyddwyr eraill y ffordd yn achosi problemau; efallai eu bod yn ddibrofiad neu nad ydynt yn adnabod yr ardal yn dda
  • bod yn amyneddgar; cofiwch fod pawb yn gallu gwneud camgymeriad
  • peidio â chynhyrfu na chael eich tynnu i mewn i’r sefyllfa os bydd rhywun yn camymddwyn ar y ffordd. Dim ond gwneud y sefyllfa’n waeth fyddai hynny. Tynnwch i’r ochr, ymdawelwch a phan fyddwch yn teimlo eich bod wedi ymlacio, parhewch â’ch siwrnai
  • arafu a dal yn ôl os oes defnyddiwr ffordd yn tynnu allan i’ch llwybr wrth gyffordd. Gadewch iddynt dynnu’n glir. Peidiwch â gorymateb drwy yrru’n rhy agos y tu ôl iddynt yn fygythiol
  • peidio â thaflu dim byd allan o gerbyd, megis bonion sigarét, caniau, papur neu fagiau plastig. Gall hyn fod yn beryglus i ddefnyddwyr eraill y ffordd, yn enwedig beicwyr modur a seiclwyr

148

Rhaid canolbwyntio i yrru a beicio’n ddiogel.

Dylech osgoi pethau sy’n tynnu eich sylw wrth yrru neu feicio, megis

  • cerddoriaeth uchel (gall guddio synau eraill)
  • ceisio darllen mapiau
  • rhoi casét neu CD ymlaen neu diwnio’r radio
  • dadlau â’ch cyd-deithwyr neu ddefnyddwyr eraill y ffordd
  • bwyta ac yfed
  • ysmygu

RHAID I CHI BEIDIO âg ysmygu mewn cerbydau cludiant cyhoeddus nac ychwaith, dan rai amgylchiadau penodol, mewn cerbydau a ddefnyddir at ddibenion gwaith. Mae rheoliadau gwahanol mewn grym yng Nghymru, Lloegr a’r Alban.

[Cyfreitiau TSf(EV) rheoliadau 2007, TSfP(W) rheoliadau 2007 a TPSCP(S) rheoliadau 2006]

Ffonau symudol a thechnoleg yn y cerbyd

149

RHAID i chi gadw’ch cerbyd o dan reolaeth briodol bob amser. RHAID I CHI BEIDIO â defnyddio ffôn symudol sy’n cael ei ddal â llaw, na dyfais debyg, wrth yrru nac wrth oruchwylio gyrrwr sy’n dysgu, ac eithrio i alw 999 neu 112 mewn argyfwng gwirioneddol a’i bod yn beryglus neu’n anymarferol i stopio. Peidiwch byth â defnyddio microffon sy’n cael ei ddal â llaw wrth yrru. Mae defnyddio offer dim-dwylo hefyd yn debygol o dynnu’ch sylw oddi ar y ffordd. Mae’n llawer mwy diogel peidio â defnyddio unrhyw ffôn tra’r ydych yn gyrru neu’n beicio - chwiliwch am fan diogel i stopio yn gyntaf neu defnyddiwch y peiriant ateb a gwrandewch ar y negeseuon yn nes ymlaen.

[Cyfreithiau RTA 1988 adrannau 2 a 3 a CUR rheoliadau 104 a 110]

150

Mae perygl y bydd sylw’r gyrrwr yn cael ei dynnu gan systemau o fewn y cerbyd megis systemau llywio llwybr, systemau rhybuddio am dagfeydd, Cyfrifiaduron personol, peiriannau amlgyfrwng ayb. RHAID i chi gadw’ch cerbyd o dan reolaeth briodol bob amser. Peidiwch â dibynnu ar systemau i gynorthwyo gyrwyr megis rheolydd cyflymder sefydlog (cruise control) neu system rybuddio os ydych yn gwyro oddi ar y lôn. Maent yno i’ch cynorthwyo, ond rhaid i chi barhau i ganolbwyntio yr un fath. Peidiwch â gadael i fapiau neu wybodaeth ar y sgrin (megis systemau llywio neu reoli cerbyd) dynnu eich sylw wrth yrru neu feicio. Os bydd rhaid, chwiliwch am le diogel i stopio.

[Cyfreithiau RTA 1988 adrannau 2 a 3 a CUR rheoliad 104]

Rheol 151 Peidiwch â blocio mynediad i ffordd gefn

151

Mewn traffig sy’n symud yn araf. Dylech

  • leihau’r pellter rhyngoch chi a’r cerbyd o’ch blaen er mwyn cynnal llif y traffig
  • peidio byth â mynd mor agos at y cerbyd o’ch blaen fel na allwch stopio’n ddiogel
  • gadael digon o le i allu symud os bydd y cerbyd o’ch blaen yn torri lawr neu os bydd angen i gerbyd argyfwng fynd heibio
  • peidio â newid lonydd i’r chwith er mwyn pasio
  • gadael mynediad i mewn ac allan o ffyrdd cefn, gan y bydd rhwystro’r rhain yn ychwanegu at y dagfa
  • byddwch yn ymwybodol o seiclwyr a beicwyr modur a all fod yn pasio ar y nail ochr neu’r llall

Gyrru mewn ardaloedd adeiledig

152

Strydoedd preswyl. Dylech yrru’n araf ac yn ofalus ar strydoedd lle mae’n debygol y bydd cerddwyr, seiclwyr a cheir wedi’u parcio. Mewn rhai ardaloedd, gallai cyfyngiad cyflymder o 20 mya (32 km/awr) fod mewn grym.

Gwyliwch am

  • gerbydau yn dod o gyffyrdd neu ddreifiau
  • cerbydau sy’n symud i ffwrdd
  • drysau ceir yn agor
  • cerddwyr
  • plant yn rhedeg allan rhwng ceir wedi’u parcio
  • seiclwyr a beicwyr modur

153

Dulliau tawelu traffig. Ar rai ffyrdd mae nodweddion megis twmpathau, rhwystrau igam-ogamu a darnau sydd wedi’u culhau a fwriadwyd i’ch arafu. Pan fyddwch yn dod at un o’r rhain, arafwch. Dylech adael lle i seiclwyr a beicwyr modur fynd drwyddynt. Cadwch eich cyflymder yn isel ar hyd y darn cyfan o ffordd sydd â’r dulliau tawelu hyn. Ildiwch i ddefnyddwyr ffordd sy’n dod tuag atoch os bydd arwyddion yn dweud wrthych am wneud hynny. Ni ddylech basio defnyddwyr eraill y ffordd sy’n symud tra byddwch yn yr ardaloedd hyn.

Rheol 153: Mae’n bosibl y bydd rhwystrau igam-ogamu yn cael eu defnyddio i gulhau’r ffordd er mwyn arafu’r traffig

Ffyrdd cefn gwlad

154

Cymerwch ofal arbennig ar ffyrdd cefn gwlad gan arafu wrth ddod at gorneli a allai fod yn dynnach nag y maent yn edrych, ac wrth gyffyrdd a throadau a allai fod wedi eu cuddio’n rhannol. Byddwch yn barod am gerddwyr, pobl ar gefn ceffylau, seiclwyr a cherbydau amaethyddol araf ar y ffordd neu fwd ar wyneb y ffordd. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gallu stopio gan adael lle o’ch blaen sy’n ymddangos yn glir o rwystrau. Dylech hefyd arafu lle mae ffyrdd cefn gwlad yn mynd i mewn i bentrefi.

155

Ffyrdd un trac. Mae’r rhain ddim ond yn ddigon llydan i un cerbyd. Mae’n bosibl y bydd mannau pasio arbennig arnynt. Os ydych yn gweld cerbyd yn dod tuag atoch, neu os bydd y gyrrwr y tu ôl i chi am basio, dylech dynnu i mewn i fan pasio ar y chwith neu aros gyferbyn â man pasio ar y dde. Ildiwch i gerbydau sy’n dod i fyny rhiwiau pryd bynnag y gallwch. Os oes rhaid, baciwch yn ôl nes cyrraedd man pasio i adael i’r cerbyd arall fynd heibio. Arafwch wrth basio cerddwyr, seiclwyr a phobl ar gefn ceffylau.

156

Peidiwch â pharcio mewn mannau pasio.

Cerbydau sydd wedi’u gwahardd rhag cael eu defnyddio ar ffyrdd a phalmentydd

157

Nid yw rhai cerbydau modur yn cwrdd â’r gofynion o ran gwneuthruriad na’r gofynion technegol ar gyfer cerbydau ffordd ac, yn gyffredinol, nid ydynt wedi’u bwriadu ac nid ydynt yn addas nac yn gyfreithiol i’w defnyddio ar ffyrdd, palmentydd, llwybrau cerdded, llwybrau beiciau neu lwybrau i geffylau. Mae’r rhain yn cynnwys y rhan fwyaf o feiciau modur bychan (fe’u gelwir hefyd yn ‘mini motos’) a sgwteri modur bychan (fe’u gelwir hefyd yn ‘go peds’) sy’n cael eu gyrru gan injan drydan neu injan tanio mewnol. RHAID I CHI BEIDIO â defnyddio’r mathau hyn o gerbydau ar ffyrdd, palmentydd, llwybrau cerdded na llwybrau i geffylau.

[Cyfreithiau RTA 1988 adrannau 34, 41a, 42, 47, 63 a 66, HA 1835, adran 72, a R(S)A adran 129]

158

Mae rhai modelau o feiciau modur, beiciau modur tair olwyn a beiciau modur pedair olwyn (fe’u gelwir hefyd yn feiciau cwad), ddim ond yn addas ar gyfer eu defnyddio oddi-ar-y-ffordd ac nid ydynt yn bodloni’r safonau cyfreithiol ar gyfer eu defnyddio ar y ffyrdd. RHAID I CHI BEIDIO â defnyddio’r cerbydau hynny ar y ffordd os nad ydynt yn bodloni’r safonau hynny. RHAID I CHI BEIDIO â’u defnyddio ar balmentydd, llwybrau cerdded, llwybrau beiciau na llwybrau i geffylau chwaith. RHAID i chi wneud yn siŵr bod unrhyw feic modur, beic modur tair olwyn, beic modur pedair olwyn, neu unrhyw gerbyd modur arall, yn bodloni’r safonau cyfreithiol a’u bod wedi’u cofrestru, eu trethu a’u hyswirio’n briodol cyn eu defnyddio ar y ffordd. Hyd yn oed os yw cerbydau wedi’u cofrestru, eu trethu a’u hyswirio ar gyfer eu defnyddio ar y ffordd, RHAID I CHI BEIDIO â’u defnyddio ar balmentydd.

[Cyfreithiau RTA 1988 adrannau 34, 41a, 42, 47, 63, 66 a 156, HA 1835, adran 72, R(S)A adran 129, a VERA adrannau 1, 29, 31A, a 43A]

Tudalen blaenorol/tudalen nesaf

Additional links

Rhaglen iPhone Rheolau’r Ffordd Fawr

Cael yr holl reolau’r ffordd ac arwyddion traffig diweddaraf ar flaenau’ch bysedd

Rheolau’r Ffordd Fawr – cael negeseuon atgoffa

Cael negeseuon atgoffa ynghylch Rheolau’r Ffordd Fawr drwy ei ddilyn ar Trydar (Twitter) a Facebook

Cymorth gyda ffeiliau PDF

I weld ffeiliau PDF bydd angen Adobe Reader arnoch. Mae’r rhaglen ar gael yn rhwydd os nad yw gennych eisoes.

Defnyddwyr y ffordd a'r gyfraith

Cael gwybod pa gyfreithiau a rheoliadau gellir darllen ar-lein

Allweddumynediad llywodraeth y DU