Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cerbydau’n torri lawr a digwyddiadau (274-287)

Mae Rheolau’r Ffordd Fawr yn berthnasol i Gymru, Lloegr a’r Alban. Dylai pawb ddarllen Rheolau’r Ffordd Fawr.

Torri lawr

274

Os yw’ch cerbyd yn torri lawr, meddyliwch yn gyntaf am holl ddefnyddwyr eraill y ffordd, yna dylech

  • gael eich cerbyd oddi ar y ffordd os yw’n bosibl
  • rhybuddio unrhyw draffig arall drwy ddefnyddio’ch goleuadau rhybudd os yw eich cerbyd yn achosi rhwystr
  • gwneud eich hun yn fwy amlwg i ddefnyddwyr eraill y ffordd drwy wisgo dillad golau neu fflwroleuol yng ngolau dydd a dillad adlewyrchol yn y nos neu mewn gwelededd gwael
  • rhoi triongl rhybuddio ar y ffordd o leiaf 45 metr (147 troedfedd) y tu ôl i’ch cerbyd ar yr un ochr i’r ffordd, neu ddefnyddio dyfeisiau rhybuddio priodol eraill os ydynt gennych. Cymerwch ofal mawr bob amser wrth eu gosod neu eu casglu, ond peidiwch byth â’u defnyddio ar draffyrdd
  • os yn bosib, cadwch eich goleuadau ochr ymlaen os yw hi’n dywyll neu os yw’r gwelededd yn wael
  • peidiwch â sefyll (na gadael i neb arall sefyll) rhwng eich cerbyd a’r traffig sy’n dod tuag atoch
  • yn y nos neu mewn gwelededd gwael, peidiwch â sefyll lle byddwch yn rhwystro defnyddwyr eraill y ffordd rhag gweld eich goleuadau

Rheolau ychwanegol i’r draffordd

275

Os yw eich cerbyd yn datblygu problem, gadewch y draffordd wrth yr allanfa nesaf neu tynnwch i mewn i ardal wasanaethu. Os na fedrwch wneud hynny, dylech

  • dynnu draw i’r llain galed gan stopio mor bell i’r chwith ag sy’n bosibl, gyda’ch olwynion wedi’u troi i’r chwith
  • ceisio stopio ger ffôn argyfwng (maent wedi’u lleoli bob rhyw filltir ar hyd y llain galed)
  • gadael y cerbyd drwy’r drws chwith a gwneud yn siŵr fod eich teithwyr yn gwneud yr un fath. RHAID gadael unrhyw anifeiliaid yn y cerbyd neu, mewn argyfwng, eu cadw dan reolaeth ar y llain ymyl ffordd. Peidiwch byth â cheisio gosod triongl rhybuddio ar draffordd
  • peidio â rhoi eich hun mewn perygl drwy roi cynnig ar y gwaith atgyweirio symlaf hyd yn oed
  • gwneud yn siŵr fod teithwyr yn cadw draw o’r ffordd a’r llain galed, a bod plant yn cael eu cadw o dan reolaeth
Rheol 275 Cadwch ddigon pell yn ôl oddi wrth y llain galed
  • gwneud yn siŵr fod teithwyr yn cadw draw o’r ffordd a’r llain galed, a bod plant yn cael eu cadw o dan reolaeth
  • cerdded at ffôn argyfwng ar eich ochr chi o’r ffordd (dilynwch y saethau ar y pyst ar gefn y llain galed) - mae’n ffôn di-dâl sy’n eich cysylltu’n uniongyrchol â’r Asiantaeth Priffyrdd neu’r heddlu. Defnyddiwch hwn yn hytrach na ffôn symudol (gweler Rheol 283). Dylech bob amser wynebu’r traffig wrth siarad ar y ffôn
  • rhoi manylion llawn i’r Asiantaeth Priffyrdd neu’r heddlu; dylech hefyd roi gwybod iddynt os ydych yn fodurwr sy’n agored i niwed, er enghraifft, os ydych yn anabl, yn berson hŷn neu’n teithio ar eich pen eich hun
  • dychwelyd ac aros ger eich cerbyd (ymhell oddi wrth y ffordd a’r llain galed)
  • os ydych yn teimlo dan fygythiad gan berson arall, ewch yn ôl i’ch cerbyd drwy’r drws chwith gan gloi pob drws. Gadewch eich cerbyd eto cyn gynted ag y teimlwch fod y perygl drosodd

[Cyfreithiau MT(E&W)R rheoliad 14 a MT(S)R rheoliad 12]

276

Cyn ailymuno â’r ffordd ar ôl torri lawr, codwch eich cyflymder ar y llain galed ac edrychwch am fwlch diogel yn y traffig. Byddwch yn ymwybodol y gall cerbydau eraill fod yn sefyll yn eu hunfan ar y llain galed.

277

Os na allwch gael eich cerbyd ar y llain galed

  • peidiwch â cheisio gosod unrhyw ddyfais rybuddio ar y ffordd
  • rhowch eich goleuadau rhybuddio ymlaen
  • dim ond pan allwch fynd oddi ar y ffordd yn ddiogel y dylech adael eich cerbyd

278

Gyrwyr anabl. Os oes gennych anabledd sy’n eich atal rhag dilyn y cyngor uchod, dylech

  • aros yn eich cerbyd
  • rhoi eich goleuadau rhybuddio ymlaen
  • dangos baner 'Help' neu, os oes gennych ffôn car neu ffôn symudol, cysylltwch â’r gwasanethau argyfwng a byddwch yn barod i ddweud wrthynt beth yw eich lleoliad

Rhwystrau

279

Os bydd rhywbeth yn syrthio oddi ar eich cerbyd (neu unrhyw gerbyd arall) i’r ffordd, ni ddylech stopio i’w godi ond pan fydd yn ddiogel i wneud hynny.

280

Traffyrdd. Ar draffordd, peidiwch â cheisio symud y rhwystr eich hunan. Stopiwch wrth y ffôn argyfwng nesaf a ffoniwch yr Asiantaeth Priffyrdd neu’r heddlu.

Digwyddiadau

281

Arwyddion rhybudd neu oleuadau sy’n fflachio. Os ydych yn gweld neu’n clywed cerbydau argyfwng neu gerbydau cefnogi adeg digwyddiad yn y pellter, byddwch yn ymwybodol y gallai fod digwyddiad o’ch blaen (gweler Rheol 219). Efallai y bydd angen i Swyddogion yr Heddlu a Swyddogion Traffig yr Asiantaeth Priffyrdd weithio ar y ffordd, er enghraifft er mwyn delio gyda darnau ar y ffordd, gwrthdrawiadau neu i greu rhwystrau ffordd symudol. Bydd swyddogion yr heddlu yn defnyddio goleuadau-ôl coch a glas yn fflachio a bydd Swyddogion Traffig yr Asiantaeth Priffyrdd yn defnyddio goleuadau-ôl coch ac ambr yn fflachio mewn sefyllfaoedd o’r fath. Gwyliwch am signalau o’r fath, arafwch a byddwch yn barod i stopio. RHAID i chi ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan swyddogion yr Heddlu neu swyddogion Traffig er mwyn i chi allu mynd heibio’r digwyddiad neu’r rhwystr yn ddiogel.

[Cyfreithiau RTA1988, adrannau 35 a 163, ac fel y’i diwygiwyd gan TMA 2004, adran 6]

282

Wrth basio digwyddiad neu wrthdrawiad, peidiwch â chael eich llygad-dynnu nac arafu’n ddiangen (er enghraifft, os yw’r digwyddiad ar ochr arall ffordd ddeuol). Gall hyn achosi gwrthdrawiad neu dagfa, ond gweler Rheol 283.

283

Os ydych mewn gwrthdrawiad neu’n stopio i roi cymorth

  • defnyddiwch eich goleuadau rhybudd i rybuddio’r traffig arall
  • gofynnwch i yrwyr ddiffodd injan eu cerbydau a pheidio ag ysmygu
  • trefnwch i’r gwasanaethau brys gael eu galw ar unwaith a rhowch fanylion llawn lleoliad y digwyddiad ac unrhyw rai sydd wedi’u hanafu (ar draffordd, defnyddiwch y ffôn argyfwng sy’n ei gwneud hi’n haws i’r gwasanaethau argyfwng leoli’r ddamwain. Os ydych yn defnyddio ffôn symudol, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod eich lleoliad drwy edrych ar y pyst marcio wrth ochr y llain galed yn gyntaf)
  • symudwch bobl sydd heb gael eu hanafu oddi wrth y cerbydau i fan diogel; ar draffordd, os yw’n bosibl, dylai hyn fod ymhell oddi wrth y traffig, y llain galed a’r llain ganol
  • peidiwch â symud pobl sydd wedi’u hanafu o’u cerbydau oni bai bod perygl uniongyrchol y ceir tân neu ffrwydrad
  • peidiwch â thynnu helmed beiciwr modur oni bai bod yn rhaid gwneud hynny
  • byddwch yn barod i roi cymorth cyntaf fel a ddangosir ar Cymorth cyntaf ar y ffordd
  • arhoswch wrth y ddamwain nes bydd y gwasanaethau argyfwng yn cyrraedd

Os ydych mewn unrhyw argyfwng meddygol arall ar y draffordd, cysylltwch â’r gwasanaethau argyfwng yn yr un modd.

Digwyddiadau lle mae yna nwyddau peryglus

284

Mae cerbydau sy’n cario nwyddau peryglus mewn pecynnau yn cael eu dynodi gan blatiau oren plaen, adlewyrchol. Bydd gan danceri ffordd a cherbydau sy’n cario cynwysyddion tanc o nwyddau peryglus blatiau rhybuddio (gweler 'Marciau ar gerbydau').

285

Os bydd digwyddiad yn cynnwys cerbyd sy’n cario nwyddau peryglus, dilynwch y cyngor yn Rheol 283, ac yn arbennig

  • diffoddwch bob injan a PHEIDIWCH AG YSMYGU
  • cadwch ymhell oddi wrth y cerbyd a pheidiwch â chael eich temtio i achub pobl sydd wedi cael eu hanafu gan y gallech chi eich hunan gael eich anafu
  • ffoniwch y gwasanaethau brys a rhowch gymaint o wybodaeth ag sy’n bosibl am y labeli a’r marciau ar y cerbyd. PEIDIWCH â defnyddio ffôn symudol yn agos at gerbyd sy’n cario llwyth fflamadwy

Dogfennau

286

Os ydych mewn gwrthdrawiad sy’n achosi difrod neu anaf i unrhyw berson, cerbyd, anifail neu eiddo arall, RHAID i chi

  • stopio
  • rhoi’ch enw chi ac enw a chyfeiriad perchennog y cerbyd, a rhif cofrestru’r cerbyd i unrhyw un sydd â sail resymol i ofyn amdanynt
  • os nad ydych yn rhoi eich enw a’ch cyfeiriad ar adeg y gwrthdrawiad, dylech roi gwybod i’r heddlu amdano cyn gynted ag sy’n ymarferol bosibl ac o fewn 24 awr ym mhob achos

[Cyfraith RTA 1988 adran 170]

287

Os caiff person arall ei anafu ac nad ydych yn cyflwyno eich tystysgrif yswiriant ar adeg y gwrthdrawiad i swyddog heddlu neu unrhyw un sydd â sail resymol i ofyn amdani, RHAID i chi

  • roi gwybod i’r heddlu cyn gynted ag sy’n ymarferol bosibl ac o fewn 24 awr ym mhob achos
  • cyflwyno eich tystysgrif yswiriant i’r heddlu o fewn 7 diwrnod

[Cyfraith RTA 1988 adran 170]

Additional links

Rhaglen iPhone Rheolau’r Ffordd Fawr

Cael yr holl reolau’r ffordd ac arwyddion traffig diweddaraf ar flaenau’ch bysedd

Rheolau’r Ffordd Fawr – cael negeseuon atgoffa

Cael negeseuon atgoffa ynghylch Rheolau’r Ffordd Fawr drwy ei ddilyn ar Trydar (Twitter) a Facebook

Cymorth gyda ffeiliau PDF

I weld ffeiliau PDF bydd angen Adobe Reader arnoch. Mae’r rhaglen ar gael yn rhwydd os nad yw gennych eisoes.

Defnyddwyr y ffordd a'r gyfraith

Cael gwybod pa gyfreithiau a rheoliadau gellir darllen ar-lein

Allweddumynediad llywodraeth y DU