Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Gwener, 5 Hydref 2012

Rheolau i feicwyr modur (83-88)

Mae’r Rheolau hyn yn ychwanegol at y rhai yn yr adrannau canlynol sy’n berthnasol i bob cerbyd. Gweler 'Gofynion trwyddedu ar gyfer beiciau modur' hefyd.

Cyffredinol

83

Ar bob siwrnai, RHAID i’r beiciwr a’r teithiwr ar y piliwn ar feic modur, sgwter neu foped wisgo helmed amddiffynnol. Nid yw hyn yn berthnasol i bobl sy’n ddilynwyr crefydd Sikh os ydynt yn gwisgo tyrban. RHAID i helmedau gydymffurfio â’r Rheoliadau a RHAID iddynt gael eu cau’n dynn. Hefyd, dylai beicwyr a theithwyr ar feiciau modur tair a phedair olwyn (a elwir hefyd yn feiciau cwad) wisgo helmed amddiffynnol. Cyn cychwyn bob taith, sicrhewch fod fisor eich helmed yn lân ac mewn cyflwr da.

[Cyfreithiau RTA 1988 adrannau 16 a 17 a MC(PH)R fel y’i diwygiwyd, rheoliad 4]

84

Fe’ch cynghorir hefyd i wisgo rhywbeth i amddiffyn y llygaid, a RHAID i hwnnw gydymffurfio a’r Rheoliadau. Gall amddiffynwyr llygaid sydd wedi’u crafu neu sydd ddim yn ffitio’n dda gyfyngu ar yr hyn a welwch wrth feicio, yn enwedig mewn haul llachar ac yn y tywyllwch. Dylech ystyried gwisgo rhywbeth i amddiffyn y clustiau. Gall esgidiau cryfion, menig a dillad addas helpu i’ch amdiffyn pe baech yn cael gwrthdrawiad.

[Cyfreithiau RTA adran 18 a MC(EP)R fel y’i diwygiwyd, rheoliad 4]

85

RHAID I CHI BEIDIO â chario mwy nag un teithiwr ar y piliwn a RHAID iddo eistedd ag un goes bob ochr i’r peiriant ar sedd briodol. Dylent wynebu ymlaen a rhoi eu dwy droed ar y troedleoedd. RHAID I CHI BEIDIO â chario teithiwr ar y piliwn oni bai bod eich beic modur wedi’i ddylunio i wneud hynny. RHAID I ddeiliaid trwydded dros dro BEIDIO â chario teithiwr ar y piliwn.

[Cyfreithiau RTA 1988 adran 23, MV(DL)R 1999 rheoliad 16(6) a CUR 1986 rheoliad 102]

86

Beicio yn ystod y dydd. Gwnewch eich hun mor weladwy â phosibl o’r ochr yn ogystal ag o’r tu blaen a’r cefn. Gallech wisgo helmed olau neu un a lliwiau llachar arni a dillad neu stribedi fflwroleuol. Hefyd, gall goleuadau wedi’u dipio, hyd yn oed mewn golau dydd da, eich gwneud yn fwy amlwg. Serch hynny, byddwch yn ymwybodol efallai nad yw gyrwyr cerbydau eraill wedi’ch gweld neu heb farnu eich pellter na’ch cyflymder yn gywir, yn enwedig wrth gyffyrdd.

Rheol 86 Gwnewch hi’n hawsi bobl eich gweld

87

Beicio yn y tywyllwch. Gwisgwch ddillad neu stribedi adlewyrchol fel ei bod hi’n haws eich gweld yn y tywyllwch. Mae’r rhain yn adlewyrchu’r golau o brif oleuadau cerbydau eraill gan eich gwneud yn fwy gweladwy o ymhellach i ffwrdd. Gweler Rheolau 113-116 ar gyfer y gofynion o ran goleuadau.

88

Symud. Dylech fod yn ymwybodol o’r hyn sydd y tu ôl ichi ac i’r ochrau cyn gwneud unrhyw symudiad. Edrychwch y tu ôl i chi; defnyddiwch y drychau os oes rhai wedi’u gosod. Pan fyddwch mewn ciwiau traffig, dylech edrych am gerddwyr sy’n croesi rhwng cerbydau, cerbydau sy’n dod o gyffyrdd neu gerbydau sy’n newid lonydd. Lleolwch eich hun fel bo’r gyrwyr o’ch blaen yn gallu eich gweld yn eu drychau. Hefyd, wrth ffiltro mewn traffig sy’n symud yn araf, byddwch yn ofalus a chadwch eich cyflymder yn isel.

Cofiwch: Arsylwi - Rhoi Arwydd - Symud

Additional links

Rhaglen iPhone Rheolau’r Ffordd Fawr

Cael yr holl reolau’r ffordd ac arwyddion traffig diweddaraf ar flaenau’ch bysedd

Rheolau’r Ffordd Fawr – cael negeseuon atgoffa

Cael negeseuon atgoffa ynghylch Rheolau’r Ffordd Fawr drwy ei ddilyn ar Trydar (Twitter) a Facebook

Cymorth gyda ffeiliau PDF

I weld ffeiliau PDF bydd angen Adobe Reader arnoch. Mae’r rhaglen ar gael yn rhwydd os nad yw gennych eisoes.

Defnyddwyr y ffordd a'r gyfraith

Cael gwybod pa gyfreithiau a rheoliadau gellir darllen ar-lein

Allweddumynediad llywodraeth y DU