Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Rheolau i yrwyr a beicwyr modur (89-102)

Mae Rheolau’r Ffordd Fawr yn berthnasol i Gymru, Lloegr a’r Alban. Dylai pawb ddarllen Rheolau’r Ffordd Fawr.

89

Cyflwr y cerbyd. RHAID i chi wneud yn siŵr fod eich cerbyd a’ch ôl-gerbyd yn cydymffurfio â gofynion llawn Rheoliadau Cerbydau’r Ffordd (Gwneuthuriad a Defnydd) a Rheoliadau Goleuo Cerbydau’r Ffordd (gweler 'Defnyddiwr y ffordd a’r gyfraith').

Ffitrwydd i yrru

90

Gwnewch yn siŵr eich bod yn ffit i yrru. RHAID i chi roi gwybod i’r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) am unrhyw gyflwr iechyd sy’n debygol o effeithio ar eich gyrru.

[Cyfraith RTA 1988 adran 94]

91

Mae gyrru pan fyddwch wedi blino yn cynddu’r perygl o gael gwrthdrawiad yn sylweddol. I leihau’r perygl hwn

  • gwnewch yn siŵr eich bod yn ffit i yrru. Peidiwch â chychwyn ar siwrnai os ydych wedi blino. Ceisiwch gael noson dda o gwsg cyn cychwyn ar siwrnai hir
  • dylech osgoi gwneud teithiau hirion rhwng hanner nos a 6 am, pan fyddwch chi’n lleiaf effro
  • cynlluniwch eich siwrnai fel eich bod yn cymryd digon o seibiannau. Mae seibiant o 15 munud o leiaf yn cael ei argymell ar ôl pob dwy awr o yrru
  • os ydych yn teimlo’n gysglyd o gwbl, stopiwch mewn man diogel. Peidiwch â stopio ar lain galed y draffordd
  • y ffyrdd mwyaf effeithiol o ddod dros awydd cwsg yw cymryd diod, er enghraifft, dau gwpanaid o goffi â chaffin a chysgu am ychydig (o leiaf 15 munud)

92

Golwg. RHAID eich bod yn gallu darllen plât rhif cofestru cerbyd, mewn golau dydd da, o bellter o 20 metr (neu 20.5 metr os mai’r hen fath o blât rhif ydyw). Os oes angen i chi wisgo sbectol (neu lensys cyffwrdd) i wneud hyn, RHAID i chi eu gwisgo bob amser wrth yrru. Gall yr heddlu ofyn i yrrwr gymryd prawf golwg.

[Cyfreithiau RTA 1988 adran 96 a MV(DL)R rheoliad 40 ac atodlen 8]

93

Os ydych chi’n cael eich dallu gan haul llachar dylech arafu a stopio os oes rhaid.

94

Yn y nos neu mewn gwelededd gwael, peidiwch â defnyddio sbectol, lensys na feisors wedi’u lliwio os ydynt yn amharu ar eich golwg.

Alcohol a chyffuriau

95

Peidiwch ag yfed a gyrru gan y bydd yn amharu’n ddifrifol ar eich gallu i farnu a’r hyn y galliwch ei wneud. RHAID I CHI BEIDIO â gyrru os bydd gennych lefel alcohol yn yr anadl sy’n uwch na 35 microgram/100 mililitr o anadl, neu lefel alcohol yn y gwaed sy’n uwch na 80 miligram/100 mililitr o waed. Bydd alcohol yn

  • rhoi ymdeimlad ffug o hyder
  • lleihau cydlyniad ac yn arafu’ch ymateb
  • effeithio ar eich gallu i farnu cyflymder, pellter a risg
  • lleihau’ch gallu i yrru, hyd yn oed os ydych o dan y cyfyngiad cyfreithiol
  • cymryd amser i adael eich corff; efallai na fyddwch yn ffit i yrru gyda’r nos ar ôl yfed amser cinio, neu yn y bore ar ôl yfed y noson gynt

Yr ateb gorau yw peidio ag yfed o gwbl os ydych yn bwriadu gyrru oherwydd mae unrhyw faint o alcohol yn effeithio ar eich gallu i yrru’n ddiogel. Os ydych am yfed, trefnwch ffordd arall o deithio.

[Cyfraith RTA 1988 adrannau 4, 5 a 11(2)]

96

RHAID I CHI BEIDIO â gyrru o dan ddylanwad cyffuriau na meddyginiaeth. Darllenwch y cyfarwyddiadau neu holwch eich meddyg neu fferyllydd. Mae defnyddio cyffuriau anghyfreithlon yn hynod beryglus. Peidiwch byth â’u cymryd os ydych yn bwriadu gyrru; does dim dal beth fydd eu heffaith, ond gallant fod yn fwy difrifol hyd yn oed nag alcohol, gan arwain at wrthdrawiadau ffordd angheuol neu ddifrifol.

[Cyfraith RTA 1988 adran 4]

97

Cyn cychwyn. Dylech wneud yn siŵr

  • eich bod wedi cynllunio eich taith a’ch bod wedi gadael digon o amser
  • nad yw eich dillad a’ch esgidiau yn eich atal rhag defnyddio’r rheolyddion yn y ffordd gywir
  • eich bod yn gwybod ble mae’r holl reolyddion a sut i’w defnyddio cyn bod eu hangen arnoch. Nid yw pob cerbyd yr un fath; peidiwch ag aros nes ei bod yn rhy hwyr i ddod o hyd iddynt
  • bod eich drychau a’ch sedd wedi’u haddasu’n gywir er mwyn i chi fod yn hollol gyfforddus, bod gennych reolaeth lwyr a’ch bod yn gallu gweld cymaint â phosibl
  • bod atalyddion pen wedi’u haddasu’n iawn i leihau’r perygl o anaf i’r gwddf neu’r asgwrn cefn os digwydd gwrthdrawiad
  • bod gennych ddigon o danwydd cyn dechrau ar eich siwrnai yn enwedig os yw’n golygu gyrru ar y draffordd. Gall colli pŵer fod yn beryglus wrth yrru mewn traffig
  • sicrhau bod eich cerbyd yn gyfreithlon ac yn ddiogel i fod ar y ffordd
  • diffodd eich ffôn symudol
Rheol 97: Sicrhewch fod atalyddion pen wedi’u haddasu’n iawn

98

Cerbyd yn towio ac yn llwytho. Fel gyrrwr

  • RHAID I CHI BEIDIO â thowio mwy nag y mae eich trwydded yn ei ganiatáu. Os gwnaethoch chi basio prawf car ar ôl 1 Ionawr 1997, mae cyfyngiad ar bwysau’r ôl-gerbyd y gallwch chi ei dowio
  • RHAID I CHI BEIDIO â gorlwytho eich cerbyd na’ch ôl-gerbyd. Ni ddylech dowio pwysau sy’n fwy na’r hyn sy’n cael ei argymell gan wneuthurwr eich cerbyd
  • RHAID clymu eich llwyth yn ddiogel a RHAID IDDO BEIDIO â sticio allan yn beryglus. Sicrhewch fod unrhyw ddarnau trwm neu siarp ac unrhyw anifeiliaid yn cael eu clymu’n ddiogel. Os cewch wrthdrawiad, gallent daro yn erbyn rhywun yn y cerbyd gan achosi anafiadau difrifol
  • dylech wneud yn siŵr fod y pwysau wedi ei rannu’n briodol yn eich carafán neu’ch ôl-gerbyd gyda’r eitemau trwm ar ben yr echel(au) yn bennaf a dylech sicrhau bod pwysau’r llwyth tuag i lawr ar y belen dowio. Ni ddylid cario mwy o bwysau na’r hyn sy’n cael ei argymell gan y gwneuthurwr ac ni ddylai’r llwyth ar y belen dowio chwaith fod yn fwy na’r hyn a argymhellir gan y gwneuthurwr. Dylai hyn osgoi’r posibilrwydd o wyro, nadreddu neu fynd allan o reolaeth. Pe bai hynny’n digwydd, tynnwch eich troed oddi ar y sbardun ac arafwch yn raddol i adennill rheolaeth
  • gall cario llwyth neu dynnu ôl-gerbyd olygu bod angen i chi addasu’r goleuadau blaen

Os ydych yn torri lawr, cofiwch fod towio cerbyd gyda rhaff dowio yn gallu bod yn beryglus. Dylech ystyried gael cerbyd adfer proffesiynol i gludo’ch cerbyd.

[Cyfreithiau CUR rheoliad 100 a MV(DL)R rheoliad 43]

Gwregysau diogelwch a gwregysau i blant

99

RHAID gwisgo gwregys diogelwch mewn car, fan neu gerbyd nwyddau arall os oes un yno (gweler y tabl isod). RHAID i oedolion a phlant 14 oed a throsodd wisgo gwregys diogelwch neu wregys i blant, os oes rhai yno, wrth eistedd mewn bws mini neu fws mawr. Mae deiliaid trwyddedau eithrio meddygol a’r sawl sy’n danfon neu’n casglu nwyddau mewn cerbyd nwyddau ac yn teithio llai na 50 metr (oddeutu 162 troedfedd) wedi’u heithrio.

[Cyfreithiau RTA 1988 adrannau 14 a 15, MV(WSB)R, MV(WSBCFS)R a MV(WSB)(A)R]

Gofynion gwregysau diogelwch. Mae’r tabl hwn yn crynhoi’r prif ofynion cyfreithiol o ran gwisgo gwregysau diogelwch mewn ceir, faniau a cherbydau nwyddau eraill.

Sedd flaen

Sedd gefn

Pwy sy’n gyfrifol?

Gyrrwr

RHAID gwisgo gwregys diogelwch os oes un yno

Gyrrwr

Plentyn dan 3

oed

RHAID defnyddio’r sedd gywir i blant

RHAID defnyddio’r sed gywir I blant. Os nad oes un i’w gael mewn tacsi, gall y plentyn deithio heb wregys

Gyrrwr

Plentyn o’i benblwydd yn 3 oed hyd nes ei fod yn 1.35 metr o daldra (neu ei benblwydd yn 12 oed, pa un bynnag sy’n digwydd gyntaf)

RHAID defnyddio’r sedd gywir i blant

RHAID defnyddio’r sedd gywir i blant os oes gwregysau diogelwch wedi’u gosod. RHAID defnyddio gwregys oedolyn os nad oes sedd i blant ar gael mewn tacsi trwyddedig neu gerbyd hurio preifat, neu am resymau annisgwyl lle mae’n rhaid cario plentyn dros bellter byr, neu os oes dau blentyn mewn seddau ac nid oes lle i osod trydedd sedd i blant

Gyrrwr

Plentyn dros 1.35 metr (oddeutu 4 troedfedd 5 modfedd) o daldra neu 12 neu 13 oed

RHAID gwisgo gwregys diogelwch oedolyn os oes un ar gael

RHAID gwisgo gwregys diogelwch oedolyn os oes un ar gael

Gyrrwr

Teithwyr sy’n Oedolion 14 oed a throsodd

RHAID gwisgo gwregys diogelwch oedolyn os oes un ar gael

RHAID gwisgo gwregys diogelwch oedolyn os oes un ar gael

Teithiwr

100

RHAID i’r gyrrwr sicrhau bod pob plentyn o dan 14 oed mewn car, fan a cherbyd nwyddau arall yn gwisgo gwregys diogelwch neu’n eistedd mewn sedd i blant sydd wedi’i chymeradwyo pan fo angen (gweler y tabl uchod). Os yw plentyn yn fyrrach na 1.35 metr (oddeutu 4 troedfedd 5 modfedd), RHAID i’r sedd babi, sedd plentyn, sedd godi neu glustog codi fod yn addas i bwysau’r plentyn dan sylw ac wedi’i osod yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr.

[Cyfreithiau RTA 1988 adrannau 14 a 15, MV(WSB)R, MV(WSBCFS)R a MV(WSB)(A)R]

Rheol 100: Gwnewch yn siwˆr bod y plentyn yn defnyddio gwregys addas sydd wedi’i addasu’n gywir ar ei gyfer

101

RHAID PEIDIO â gosod sedd babi sy’n wynebu’r cefn ar sedd sy’n cael ei hamddiffyn o’i flaen gan fag aer gweithredol, oherwydd mewn gwrthdrawiad gallai’r bag awyr achosi anafiadau difrifol i’r plentyn neu hyd yn oed ei ladd.

[Cyfreithiau RTA 1988 adrannau 14 a 15, MV(WSB)R, MV(WSBCFS)R a MV(WSB)(A)R]

102

Plant mewn ceir, faniau a cherbydau nwyddau eraill. Dylai gyrwyr sy’n cario plant mewn ceir, faniau a cherbydau nwyddau eraill sicrhau

  • bod plant yn mynd i mewn i’r cerbyd drwy’r drws sydd agosaf at y palmant
  • bod gwregysau plant yn cael eu gosod yn briodol yn ôl cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
  • nad yw’r plant yn eistedd y tu ôl i’r seddau cefn mewn car ystâd neu gar a’i gefn y codi, oni bai bod sedd plentyn arbennig wedi cael ei gosod
  • bod y cloeon diogelwch plant ar y drysau, os ydynt wedi’u gosod, yn cael eu defnyddio pan fydd plant yn y cerbyd
  • bod plant yn cael eu cadw dan reolaeth

Additional links

Rhaglen iPhone Rheolau’r Ffordd Fawr

Cael yr holl reolau’r ffordd ac arwyddion traffig diweddaraf ar flaenau’ch bysedd

Rheolau’r Ffordd Fawr – cael negeseuon atgoffa

Cael negeseuon atgoffa ynghylch Rheolau’r Ffordd Fawr drwy ei ddilyn ar Trydar (Twitter) a Facebook

Cymorth gyda ffeiliau PDF

I weld ffeiliau PDF bydd angen Adobe Reader arnoch. Mae’r rhaglen ar gael yn rhwydd os nad yw gennych eisoes.

Defnyddwyr y ffordd a'r gyfraith

Cael gwybod pa gyfreithiau a rheoliadau gellir darllen ar-lein

Allweddumynediad llywodraeth y DU