Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cyflwyniad

Mae Rheolau’r Ffordd Fawr yn berthnasol i Gymru, Lloegr a’r Alban. Dylai pawb ddarllen Rheolau’r Ffordd Fawr.

Y rhai sydd mewn mwyaf o berygl ar y ffordd yw cerddwyr, yn enwedig plant, pobl hŷn neu bobl anabl, seiclwyr, beicwyr modur a phobl ar gefn ceffylau. Mae’n bwysig bod pawb sy’n defnyddio’r ffordd yn ymwybodol o’r Rheolau a’u bod yn ystyriol o’i gilydd. Mae hyn yr un mor wir i gerddwyr ag ydyw i yrwyr a beicwyr.


Mae llawer o’r rheolau yn ofynion cyfreithiol, ac os byddwch yn anufuddhau i’r rheolau hyn rydych yn cyflawni trosedd. Gallwch gael dirwy, cael pwyntiau ar eich trwydded neu gael eich gwahardd rhag gyrru. Yn yr achosion mwyaf difrifol, gallwch gael eich anfon i’r carchar. Gallwch adnabod rheolau o’r math hwn gan fod y geiriau 'RHAID/RHAID I CHI BEIDIO Â' yn cael eu defnyddio. Mae’r rheol hefyd yn cynnwys cyfeiriad talfyredig at y ddeddfwriaeth sy’n creu’r drosedd. Mae esboniad o’r talfyriadau i’w weld yn 'Defnyddiwr y ffordd a’r gyfraith'.


Na fydd methu â chydymffurfio â’r rheolau eraill o fewn Rheolau’r Ffordd Fawr ynddo’i hun yn achosi i berson gael ei erlyn. M9ae modd i Reolau’r Ffordd Fawr gael eu defnyddio mewn tystiolaeth fel rhan o achos llys o dan y Deddfau Traffig (gweler 'Defnyddiwr y ffordd a’r gyfraith') i sefydlu atebolrwydd. Mae hyn yn cynnwys rheolau sy’n cynnwys geiriau o gyngor, megis ‘dylech/ni ddylech’.


Gall gwybod Rheolau’r Ffordd Fawr a’u rhoi ar waith leihau nifer y bobl sy’n cael eu hanafu mewn damweiniau ar y ffordd yn sylweddol. Mae lleihau nifer y marwolaethau a’r anafiadau sy’n digwydd ar ein ffyrdd bob dydd yn gyfrifoldeb ar bob un ohonom. Gall Rheolau’r Ffordd Fawr ein helpu i ysgwyddo’r cyfrifoldeb hwnnw. Ceir rhagor o wybodaeth am dechnegau gyrru/beicio yn 'The Official DSA Guide to Driving - the essential skills' a 'The Official DSA Guide to Riding - the essential skills'.

Additional links

Rhaglen iPhone Rheolau’r Ffordd Fawr

Cael yr holl reolau’r ffordd ac arwyddion traffig diweddaraf ar flaenau’ch bysedd

Rheolau’r Ffordd Fawr – cael negeseuon atgoffa

Cael negeseuon atgoffa ynghylch Rheolau’r Ffordd Fawr drwy ei ddilyn ar Trydar (Twitter) a Facebook

Cymorth gyda ffeiliau PDF

I weld ffeiliau PDF bydd angen Adobe Reader arnoch. Mae’r rhaglen ar gael yn rhwydd os nad yw gennych eisoes.

Defnyddwyr y ffordd a'r gyfraith

Cael gwybod pa gyfreithiau a rheoliadau gellir darllen ar-lein

Allweddumynediad llywodraeth y DU