Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Rheoli llif y traffig ar slipffyrdd

Erbyn hyn, mae llif y traffig ar amryw o slipffyrdd traffordd yn cael ei reoli gan ‘fesuryddion ramp’ (ramp metering). Yma cewch wybod sut mae’r ‘mesuryddion ramp’ yn gweithio a'u manteision. Gallwch hefyd weld a oes mesuryddion ramp wedi’u cyflwyno ar y traffyrdd rydych chi'n eu defnyddio.

Beth yw mesuryddion ramp?

Mae mesuryddion ramp yn ffordd o leihau oedi ar gyffyrdd. Maent yn gweithio drwy reoli’r traffig ar slipffyrdd wrth iddynt ymuno â'r draffordd.

Yn ystod cyfnodau prysur, bydd yr arwyddion yn rhannu nifer fawr o gerbydau yn grwpiau llai wrth iddynt ymuno â’r draffordd. O ganlyniad, ni amherir gymaint ar y traffig wrth iddynt uno a cheir llai o dagfeydd.

Mae’r system yn defnyddio arwyddion ar y slipffordd. Mae rhain yn dechrau gweithio'n awtomatig pan fydd synwyryddion traffig ar y draffordd yn dangos bod traffig trwm yn symud yn arafach nag y dylai.

Gall weithio i'r gwrthwyneb hefyd. Os bydd y synwyryddion yn dod o hyd i giwiau hir ar y slipffordd, gall y goleuadau gynyddu llif y traffig i'r draffordd er mwyn sicrhau na fyddant yn tarfu ar ffyrdd lleol.

Y manteision

Drwy gynnal cyfradd fwy hafal o ran llif y traffig i'r draffordd, mae mesuryddion ramp yn helpu i sicrhau'r canlynol:

  • cynyddu llif y traffig yn ystod cyfnodau prysur
  • llai o stopio a chychwyn
  • siwrneiau mwy hwylus a mwy dibynadwy o ran eu hyd

Ble caiff mesuryddion ramp eu defnyddio?

Cafodd mesuryddion ramp eu cyflwyno am y tro cyntaf yn Lloegr yn 1989 ar yr M6, a chawsant eu profi am nifer o flynyddoedd. Ar ôl i’r cynllun peilot ddod i ben yn 2008, mae mesuryddion ramp bellach wedi'u cyflwyno ar hyd a lled y wlad.

Erbyn hyn, ceir dros 80 o safleoedd mesuryddion ramp ar draws rhwydwaith traffyrdd Lloegr.

Gallwch weld yr holl safleoedd mesuryddion ramp presennol drwy lwytho map yr Asiantaeth Priffyrdd.

Rhagor o wybodaeth

Os hoffech gael mwy o wybodaeth am fesuryddion ramp, gallwch lwytho taflen mesuryddion ramp yr Asiantaeth Priffyrdd.

Additional links

PWYLLWCH! cyngor ar ddiogelwch ar y ffyrdd

Dysgwch sut i aros yn ddiogel ar y ffyrdd gyda ffeithiau ac ystadegau, hysbysebion a gemau PWYLLWCH!

Allweddumynediad llywodraeth y DU