Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Arwyddion negeseuon electronig

Ceir bron i 3,000 o arwyddion negeseuon electronig (neu arwyddion negeseuon amrywiol) ar hyd rhwydwaith traffyrdd a chefnffyrdd Lloegr. Yma gallwch ddysgu beth yw ystyr y gwahanol arwyddion a sut maent yn gweithio â systemau rheoli traffig awtomatig.

Arwyddion negeseuon electronig – y pethau pwysig

Mae arwyddion negeseuon electronig yn ymddangos ar draws y system, a gallant ddangos negeseuon gwahanol yn ôl yr angen.

Maent yn amrywio o ran maint: o arwyddion llai sy’n ymddangos ar byst ar y llain ganol, i arwyddion mawr ar bont arwyddion uwchben y draffordd. Mae hyd yn oed arwyddion negeseuon electronig symudol ar gael, y gellir eu defnyddio i ddangos gwybodaeth amser real am draffig pan na fydd arwyddion sefydlog ar gael.

Eu nod yw gwella diogelwch ar y ffyrdd a lleihau effaith tagfeydd drwy roi’r wybodaeth ddiweddaraf i yrwyr am amodau traffig ac amodau ffordd.

Dyma rai o’r negeseuon sy’n ymddangos ar arwyddion:

  • cyfyngiadau cyflymer newidiol a osodir mewn ymateb i'r amodau traffig
  • rhybuddion i yrwyr am ddigwyddiadau, gwaith ffordd neu dagfeydd
  • amcangyfrif o amseroedd teithio neu gyfnodau oedi
  • gwybodaeth am ffyrdd eraill
  • negeseuon diogelwch

Mae tua 500 o arwyddion negeseuon electronig wedi’u gosod mewn mannau lle bydd gyrwyr yn gwneud penderfyniadau allweddol. Pwrpas hyn yw eich galluogi i ddefnyddio’r wybodaeth am amodau’r ffordd o’ch blaen i newid eich llwybr os bydd angen.

Dim ond negeseuon a all helpu gyrwyr gaiff eu dangos ar yr arwyddion – ni chânt byth eu defnyddio ar gyfer gwybodaeth ddiangen nac at ddibenion hysbysebu.

Pa negeseuon y gellir eu dangos ar yr arwyddion?

Ceir pedwar prif fath o neges:

  • rheoli digwyddiadau – negeseuon fel ‘DAMWAIN, ARAFWCH’, ‘GWYRIAD AR Y GYFFORDD NESAF’
  • gwybodaeth i yrwyr – negeseuon fel ‘M6 WEDI CAU AR Y GYFFORDD NESAF’, ‘TAGFEYDD AR M1 Y GOGLEDD,’ ‘115 MILLTIR, 1 AWR 40 MUNUD TAN GYFFORDD 6A (M25)’
  • gwyriadau strategol – negeseuon fel ‘M40 WEDI CAU AR GYFFORDD 10 - AR GYFER LLUNDAIN DEFNYDDIWCH M6 (DE), M1 (DE)’
  • gwaith ffordd – negeseuon fel ‘GWEITHWYR AR Y FFORDD – ARAF’

Pictogramau

Yn ddiweddar, mae pictogramau wedi’u cyflwyno ar rai darnau o’r draffordd er mwyn rhoi gwybodaeth ychwanegol i yrwyr. I weld y pictogramau sy’n cael eu defnyddio ar hyn o bryd, dilynwch y ddolen isod.

Ymgyrchoedd diogelwch

Pan na fydd negeseuon brys ynghylch oedi, digwyddiadau neu dagfeydd, bydd rhai arwyddion electronig yn dangos negeseuon ymgyrchoedd diogelwch yr Adran Drafnidiaeth. Gallai’r rhain gynnwys:

  • ‘GWYLIWCH EICH CYFLYMDER’
  • ‘CADWCH YN DDIGON PELL’
  • 'PWYLLWCH! PEIDIWCH Â FFONIO WRTH YRRU’

Sut mae'r arwyddion yn gweithio

Gall y negeseuon y mae arwyddion yn eu dangos cael eu gosod:

  • gan weithiwr yn un o ganolfannau rheoli’r Asiantaeth Priffyrdd
  • yn awtomatig mewn ymateb i'r amodau ffordd

Caiff tua 80 y cant o negeseuon eu gosod yn awtomatig.

Caiff negeseuon awtomatig ddangos:

  • gwybodaeth am amseroedd teithio – caiff y negeseuon hyn eu gosod mewn ymateb i lif y traffig ar hyd y rhwydwaith ar y pryd yn ôl synwyryddion a chamerâu darllen platiau rhif yn awtomatig
  • rhybuddion am ddigwyddiadau neu giwiau – mae’r rhain yn gosod cyfyngiadau cyflymder o 60 neu 50 milltir yr awr, a 40 milltir yr awr os bydd angen, ac fe’u rheolir gan synwyryddion ffordd sy’n dod o hyd i draffig sy’n symud yn araf o’u blaen

Nod rhybuddion am giwiau neu ddigwyddiadau yw gwneud yn siŵr y bydd gyrwyr yn arafu cyn cyrraedd ciw er mwyn osgoi stopio a chychwyn wrth yrru. Dyna pam y bydd y digwyddiad neu'r ciw wedi dod i ben weithiau erbyn i chi gyrraedd.

Arwyddion negeseuon electronig, a Thraffyrdd Rheoledig/Traffyrdd a Reolir

Systemau rheoli traffig a ddefnyddir ar yr M25 a’r M42 ar hyn o bryd yw Traffyrdd Rheoledig a Thraffyrdd a Reolir. Mae’r ddwy system yn defnyddio arwyddion negeseuon electronig i reoli llif y traffig.

Gallwch gael mwy o wybodaeth am y systemau hyn a'r arwyddion negeseuon electronig y byddant yn eu defnyddio drwy ddilyn y ddolen isod.

Additional links

PWYLLWCH! cyngor ar ddiogelwch ar y ffyrdd

Dysgwch sut i aros yn ddiogel ar y ffyrdd gyda ffeithiau ac ystadegau, hysbysebion a gemau PWYLLWCH!

Allweddumynediad llywodraeth y DU